鶹Լ

Ysgrifennu rhagdybiaethau

Yn yr arholiad ymarferol, efallai bydd gofyn i ti greu rhagdybiaeth a defnyddio dull arbrofol penodol i gael canlyniadau.

Mae gwyddonwyr yn defnyddio rhagdybiaethau i esbonio pethau maen nhw'n eu harsylwi. Gellir profi rhagdybiaethau i gadarnhau a yw newidyn yn effeithio ar newidyn arall ai peidio, a beth yw'r berthynas rhwng y newidynnau.

Rhagdybiaeth mewn gwaith ymarferol yw rhagfynegiad, gydag esboniad i'w atgyfnerthu. Efallai bydd yr esboniad yn defnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth wyddonol flaenorol.

Efallai bydd rhaid i ti awgrymu rhagdybiaeth y gellir ei phrofi ar gyfer dy asesiad ymarferol. Dyma dair enghraifft o ragfynegiadau ar gyfer ymestyn sbring. Mae A yn rhagfynegiad syml. Mae gan ddatganiad B ychydig mwy o fanylion. Mae C yn rhagfynegiad manwl iawn.

Rhagfynegiadau

A. Mae cysylltiad rhwng hyd sbring a faint o bwysau sy'n cael ei roi arno.

B. Rydw i'n meddwl, os ydw i'n ychwanegu mwy o bwysau at y sbring, y bydd yn mynd yn hirach ac efallai y bydd yr estyniad a'r pwysau mewn cyfrannedd â'i gilydd.

C. Rydw i'n meddwl, os ydw i'n dyblu'r pwysau ar y sbring, y bydd yr estyniad hefyd yn dyblu. Efallai fod estyniad y sbring a'r pwysau mewn cyfrannedd union â'i gilydd.

Esboniad

Rydw i’n meddwl hyn oherwydd rydw i wedi defnyddio mesuryddion newton â sbringiau y tu mewn iddynt, ac maen nhw'n mynd yn hirach wrth i mi ychwanegu pwysynnau. Mae graddfeydd wedi'u hysgrifennu ar ochr y mesuryddion newton i fesur grym, ac mae'r bylchau rhwng y llinellau graddfa yn hafal wrth ychwanegu lluosrifau o'r un pwysau.

Gellir profi'r rhagfynegiad hwn yn y labordy.

Newidynnau

Mae pob rhagfynegiad mewn gwaith ymarferol yn awgrymu rhyw fath o berthynas rhwng , a . I wneud yn siŵr ein bod ni'n ymchwilio i sut mae newid un newidyn yn unig yn effeithio ar y newidyn dibynnol, rydyn ni'n cadw'r newidynnau eraill yr un fath. Y rhain yw'r newidynnau rheoli.

Question

Beth yw'r newidyn annibynnol yn yr arbrawf hwn?

Question

Beth yw'r newidyn dibynnol yn yr arbrawf hwn?

Question

Beth yw'r newidynnau rheoli yn yr arbrawf hwn?