鶹Լ

Cadwynau bwyd

Mae yn dangos beth sy’n bwyta beth mewn penodol. Mae’n dangos llif egni a deunyddiau o un organeb i’r nesaf, gan ddechrau gyda .

Planhigion gwyrdd sy’n cyflawni ffotosynthesis yw’r cynhyrchwyr. Maen nhw’n defnyddio egni golau o’r haul i drawsnewid carbon deuocsid o’r aer, a dŵr o’r pridd, yn glwcos ac ocsigen. Mae organebau eraill yn gallu bwyta’r glwcos hwn ac yna ei ddefnyddio ar gyfer , sy’n rhyddhau’r egni sydd wedi’i storio yn y glwcos. Yna, byddant yn gallu defnyddio’r egni hwn ar gyfer eu prosesau bywyd.

Yn yr enghraifft, mae hadau gwair yn cael eu bwyta gan lygod y dŵr, ac mae llygod y dŵr yn cael eu bwyta gan dylluanod gwynion.

Cadwyn fwyd 'hadau gwair-llygoden y gwair-tylluan wen'

Ѳ’r saethau rhwng pob organeb yn y gadwyn bob amser yn pwyntio i gyfeiriad y llif egni o’r bwyd i’r ymborthwr.

Safle organeb mewn cadwyn fwyd yw ei . Yn yr enghraifft uchod:

  1. ’r cynhyrchydd (hadau gwair) ar y lefel droffig gyntaf
  2. ’r (llygoden y dŵr) ar yr ail lefel droffig
  3. ’r (tylluan) ar y drydedd lefel droffig

Dydy cadwynau bwyd ddim yn aml yn hirach na phedair lefel droffig, oherwydd mae egni’n cael ei ddefnyddio neu ei golli ar bob lefel.

OrganebSut mae’n cael ei hegni
CynhyrchyddDefnyddio egni golau i greu bwyd drwy ffotosynthesis
Ysydd cynraddBwyta cynhyrchwyr, llysysyddion yw’r rhan fwyaf ohonynt
LlysysyddBwyta planhigion yn unig
Ysydd eilaiddBwyta ysyddion cynradd, mwyafrif yn gigysyddion
CigysyddBwyta anifeiliaid eraill yn unig
Ysydd trydyddolBwyta ysyddion eilaidd
HollysyddYsyddion sy’n bwyta anifeiliaid a phlanhigion, ac felly’n gallu bod ar fwy nag un lefel droffig mewn cadwyn fwyd
DadelfennyddBwydo ar organebau marw ac organebau sy’n pydru, ac ar y rhannau o blanhigion ac anifeiliaid sydd heb eu treulio mewn ymgarthion
OrganebCynhyrchydd
Sut mae’n cael ei hegniDefnyddio egni golau i greu bwyd drwy ffotosynthesis
OrganebYsydd cynradd
Sut mae’n cael ei hegniBwyta cynhyrchwyr, llysysyddion yw’r rhan fwyaf ohonynt
OrganebLlysysydd
Sut mae’n cael ei hegniBwyta planhigion yn unig
OrganebYsydd eilaidd
Sut mae’n cael ei hegniBwyta ysyddion cynradd, mwyafrif yn gigysyddion
OrganebCigysydd
Sut mae’n cael ei hegniBwyta anifeiliaid eraill yn unig
OrganebYsydd trydyddol
Sut mae’n cael ei hegniBwyta ysyddion eilaidd
OrganebHollysydd
Sut mae’n cael ei hegniYsyddion sy’n bwyta anifeiliaid a phlanhigion, ac felly’n gallu bod ar fwy nag un lefel droffig mewn cadwyn fwyd
OrganebDadelfennydd
Sut mae’n cael ei hegniBwydo ar organebau marw ac organebau sy’n pydru, ac ar y rhannau o blanhigion ac anifeiliaid sydd heb eu treulio mewn ymgarthion

Question

Mae llygod y dŵr yn cael eu hegni o fwyta gwair, ond maen nhw hefyd yn bwyta pryfed. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n ysyddion cynradd ac yn ysyddion eilaidd. Pa derm o’r tabl uchod allet ti ei ddefnyddio i ddisgrifio llygod y dŵr?