Â鶹ԼÅÄ

Adeiledd y ddeilen

Mae gan adeiledd deilen addasiadau er mwyn gallu cyflawni yn effeithiol.

Mae deilen angen:

  • ffordd i gludo dŵr i’r ddeilen, a i rannau eraill o’r planhigyn
  • ffordd o gyfnewid carbon deuocsid ac ocsigen
  • y gallu i amsugno egni golau yn effeithlon

Amsugno egni golau

Mae golau’n cael ei amsugno ym meinwe ddeilen. Mae celloedd palisâd ar ffurf colofn ac yn llawn dop o . Maen nhw wedi eu gosod yn agos iawn at ei gilydd fel bod llawer o egni golau yn gallu cael ei amsugno.

Trawstoriad deilen yn dangos Cwtigl cwyraidd, Epidermis uchaf, Mesoffyl palisâd, Mesoffyl sbyngaidd yn cynnwys Bwlch aer. Epidermis isaf yn cynnwys Celloedd gwarchod â chloroplastau o gwmpas Stoma.
Figure caption,
Trawstoriad o ddeilen

Nodweddion dail a’u swyddogaethau

NodweddSwyddogaeth
Arwynebedd mawrAmsugniad golau mwyaf
TenauPellter byr i garbon deuocsid dryledu i mewn i gelloedd dail
CwtiglHaen wrth-ddŵr gwyraidd sy’n lleihau colledion dŵr. Mae'n dryloyw i adael i olau gyrraedd y ddeilen
NodweddArwynebedd mawr
SwyddogaethAmsugniad golau mwyaf
NodweddTenau
SwyddogaethPellter byr i garbon deuocsid dryledu i mewn i gelloedd dail
NodweddCwtigl
SwyddogaethHaen wrth-ddŵr gwyraidd sy’n lleihau colledion dŵr. Mae'n dryloyw i adael i olau gyrraedd y ddeilen

Rôl stomata

²Ñ²¹±ð’r yn rheoli sut mae’r ddeilen yn cyfnewid nwyon. Mae modd agor neu gau pob stoma yn dibynnu ar ba mor ydy ei gelloedd gwarchod.

²Ñ²¹±ð’r stomata yn gallu agor a chau i wneud y canlynol:

  • rheoleiddio trydarthiad
  • caniatáu cyfnewid nwyon
Trawstoriad drwy ddeilen. Cell epidermaidd, Cloroplast, Mur allanol tenau, Stoma, Mur mewnol trwchus, Cnewyllyn, a Celloedd gwarchod wedi'u labelu.

Mae carbon deuocsid, ocsigen ac anwedd dŵr i mewn (neu allan) o’r ddeilen yn digwydd yn bennaf pan mae’r stomata ar agor.