Cerddi Rownd 2
Trydargerdd: Cyfaddawd
Criw’r Ship
Dwi ddim yn gwrthod peidio
Sgwennu hen gerdd newydd eto
Ond mi wna i ail-sgwennu hen gerdd hen
O’r newydd os wyt t’isio.
Arwel Roberts (8.5)
Penllyn
Pan fydd y dibyn o fewn cam
A’r gwynt o’ch ôl yn chwythu,
Ai dyna’r adeg i droi’n ôl
A cheisio cyfaddawdu?
Beryl Griffiths (8.5)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bet’
Criw’r Ship
Ond un bet o’r holl fetiau,
Buddion hon sy’n cyfiawnhau.
Sian Northey (8)
Penllyn
Rôl bet nad fo oedd Beti
Nawr y mae yn Εµr i mi.
Alwyn Sion (8)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wn beth yw ystyr y geiriau’
Criw’r Ship
Ni wn beth yw ystyr y geiria’
Albaniaidd “ruhunu nga dema”
Mewn llythrennau mawr gwyn
Wrth y cae ar y bryn,
Ond mae tarw yn dynn ar fy sodla.
Arwel Roberts (9)
Penllyn
“Dwi am eich rhoi chi ar gyffuriau”
Ni wn beth yw ystyr y geiriau
Heb falio run yot
Mi es ar y pot
A rΕµan dwi’n lot gwell fy hwyliau.
Alwyn Sion (8.5)
Cywydd: Arwydd neu Arwyddion
Criw’r Ship
Os ei wên wnaeth fy swyno,
ei ddeud dwys oedd ei hud o.
Dyddiau cynnar, di-arwydd
a'r hwyl yn ein plethu'n rhwydd.
Un Sul, wrth i ni nesáu,
oerodd ei drem a'i eiriau.
Trodd ein cariad yn gadwyn,
a drysau'n cau fesul cwyn.
Mae pob diwrnod yn godwm
a'n nyth plu yn bwythau plwm.
Ond calon sy'n llywio'n llwyr
a'i swyn sy'n pylu synnwyr.
Manon Awst (9.5)
Penllyn
Er cof am Dan Puw
Wrth i'r flwyddyn ddihuno
fesul oen, fe sylwai o
ar ddaear ddiaddewid
ei gwm yn fywyd i gyd.
Ddiwedd Mawrth, o'r diwedd, mae
lliw Ebrill ar holl lwybrau'r
derwgoed; fel erioed yr â'r
holl ofid gan ddΕµr Llafar.
Wrth i wedd y buarth ail
fywiogi, mae'r hen fugail,
fel ei fab, yn adnabod
ochr y waun a chylch y rhod.
Gruffudd Antur (10)
Triban beddargraff Gwerthwr neu Werthwraig Ceir Ail-law
Criw’r Ship
Er sprejob dros y rhydu
Er milage ’di addasu
Fe ddaeth yn amser MOT
A leni ti ’di methu.
Sian Northey (9)
Penllyn
Fe dreuliodd hwn ei ddyddiau
Yn troi yn ôl y clociau,
Ond roedd un cloc na lwyddodd o
I’w glocio, er ei driciau.
Beryl Griffiths (8.5)
Cân Ysgafn heb fod dros 20 llinell: Y Ffurflen Gais
Criw’r Ship
Mae’n sefyllfa od, gyfeillion, ofnadwy o ddi-lun
Pan mae’n rhaid i ddyn ymgeisio am ei joban o ei hun.
Mae’n digwydd yn rheolaidd; mae’n ffaith; nid yw yn fyth;
Er wnes i ddim breuddwydio ’sa fo’n digwydd i fi byth.
Ond dyna fo, mae wedi, ac ydw, rydw i’n siwr:
Mae’r wraig ’di hysbysebu ei bod hi’n chwilio am Εµr.
Mae’n brofiad go hunllefus i ddyn o’m hoedran i
I lenwi ffurflen gais ar-lein yn lle twtio’r hen CV;
Ac mae methu â chael geirda i helpu gan hen fos
Yn gneud y dasg yn anos fyth, mae hynny yn ddi-os.
Bum yn y swydd yn ffyddlon ers 30 mlynedd bron,
A hithau’n ôl pob argraff yn hapus ac yn llon.
Dwi wedi bod ar alwad, do, ddau deg pedwar saith;
Y cyfan oedd fy mywyd oedd cysgu, bwyd a gwaith.
I fi, mae fel rhyw Brexit domestig, rhwng dau ffrind.
Hi’n mynnu ’mod i’n gadael, a finna’m isio mynd.
Mi wyddwn, wrth ymgeisio, bysa cael y job yn her –
Ond mi oedd hi’n slap go hegar peidio gneud y rhestr fer.
Ac mae’n anodd credu, rywsut, mai tarddiad y fath strach
Oedd rhyw anghytuno pur ddi-nod am statws set tΕ· bach.
Arwel Roberts (9.5)
Penllyn
Nodyn i'r Meuryn : Wrth drafeilio o'r Bala i Langwm, mae rhai pobl yn troi i'r dde yn Frongoch, ymlaen trwy Gwmtirmynach, cyn troi i'r dde eto yng Ngellioedd a gweithio'u ffordd i lawr am Langwm. Ond yng ngornest Tegeingl a'r Gwylliaid Cochion, clywsom am eich siwrne drafferthus noson yr eira o Langwm i'r Bala trwy Ffriddoedd....
Ymddengys eich bod wedi darganfod ardal newydd....
Wrth lenwi'r cyfryw ffurflen, dymunwn ni wneud cais am ffurflen gais berthnasol, i ardal fu'n ddi-lais.
Mae Ardal wledig, fu ynghudd, am wahodd Talwrn draw rhyw ddydd.
Fuoch chi erioed yn "Ffriddoedd", ble mae'r eira'n oedi'n hir, lle mae'r rhew a'r gelltydd casaf? Naddo? Naddo wir?
Welsoch chi mo bardd yr eira'n cloddio'n araf a'i ddwy law, pe deuai'r Talwrn draw i Ffriddoedd, ar y raffl, byddai rhaw!
Peth creulon rhoi eira i ardal fel Llangwm a hwythau ond newydd gael gwared â'r degwm!
Dewch a'r talwrn draw i Ffriddoedd, y neuadd ysgol sydd yn glên, daw'r prifathro i'ch croesawu, er ei fod yn mynd yn hen.
Pe cai bunt bob tro y methodd brawf rhifo pan yn llanc mi fyddai ganddo heddiw ddeg ceiniog yn y banc.
Ei ddisgyblion oll gânt wyliau hâ', wedi pasio'u Lefel A...sbo!
Bydd y nawdd gan y Cwmni Anasthetig lleol, maen nhw'n rhoi y tîm arall i gysgu fel rheol.
Mae'n bwysig cefnogi Hen Fusnesau’r Fro, 'Local' Anasthetig mae nhw'n iwsio bob tro.
Roedd Aneirin a Thaliesin yn eu dydd yn feirdd o frîd, ond i mi, rhowch dalwrn Ffriddoedd, chewch gadw'r lleill i gyd.
Aled Jones (9)
Ateb Llinell ar y Pryd: I’r VAR yr af i
Criw’r Ship
A wnaeth y rhif deg regi?
I’r VAR yr af i.
Penllyn
Pwy geith yr hanner Ceri?
I’r VAR yr af i.
(0.5)
Telyneg: Siocled
Weithiau mae’r papur yn mynd ar goll,
y papur sy’n dweud pa un
yw’r hufen mefus,
pa un y gneuen,
pa un y taffi caled.
Ac yna rhaid mentro,
gobeithio'r gorau,
blasu rhywbeth anghyfarwydd.
A’r diwrnod cyntaf hwnnw,
a chdithau ar y trothwy
efo blodau
a bocs,
doedd dim papur â lluniau bach.
Rhoddais y blodau mewn dΕµr
a’u gosod ar ganol bwrdd y gegin,
agorais y bocs
a dewis.
Sian Northey (9.5)
Penllyn
Ers talwm, wrth reswm
roedd dewis yn hawdd,
pan nad oedd
ym mocs plentyndod
ond rhai a'u craidd
yn feddal neu galed,
a phryd hynny
y cwbl oedd angen
i ganfod y gwir,
oedd gwasgu
rhwng bys a bawd,
a chanfod felly
dwyll
dan orchudd o sglein.
Ond bellach,
a'r geiriau'n chwerwi
ar dafod,
fe wn y dylwn
fod wedi lluchio'r rhai
oedd ar ôl heb eu cyffwrdd,
rhag iddynt stelcian
ar y gwaelod,
ac i'r sug droi'n sur
a sticio'n styfnig,
hyd yr ymylon.
Haf Llewelyn (9.5)
Englyn: Tystysgrif
Criw’r Ship
Dim ond rhyw sgrap o bapur yw'n y drôr
ond mae'n drwm o gysur,
dan ei dwylo-staen-dolur
y mae dau fu'n gwlwm dur.
Annes Glynn (9)
Penllyn
Ar dystysgrif geni O. M. Edwards, fe nododd ei dad ei enw â chroes
Â'i law arw dal arad y nododd
fy mod, ond mae llygad
pob gwybod, pob traddodiad
oll fan hyn yn llaw fy nhad.
Gruffudd Antur (10)