Main content

Cerddi Rownd 3

Trydargerdd: Manylion Mewngofnodi

Y Gwenoliaid

Di bod drw’r Mabinogi
A’r teulu hyd yr ach
Dihirod hanes nesa’
A’r cynta, Alun Bach.

Huw Chiswell (8.5)

Y Ffoaduriaid

Enw fy athrawes gymnasteg i gynt
neu gôd post y Meuryn ei hun
neu enw fy hoff dec awê am yn ôl?
Ni allaf i gofio pa un.

Gwennan Evans (8)

Cwpled Caeth: ‘Clyd’

Y Gwenoliaid

O Dduw clod, bodda Clydach.
Mae’n uffernol. Bobol bach.

Huw Roberts (8)

Y Ffoaduriaid

Rhy glyd yw beio’r gwleidydd
am bob dim yr Ε·m bob dydd.

Gruffudd Owen (9)

Limrig: Yr oeddwn yn gyndyn i gredu

Y Gwenoliaid

Yr oeddwn yn gyndyn i gredu
Fod corun fy mhen yn ymledu
Daeth y gwir cas i mi
Ar y CCTV
Mewn garej BiPi ger Cwmtydu.

Huw Chiswell (8.5)

Y Ffoaduriaid

Yr oeddwn yn gyndyn i gredu
y cawn i fyth fod ar y teli
ond wrth adael Tesco
fe ges fy vox-popio
“Yw ffa pob yn gwneud i chi rechu?”

Gwennan Evans (8)

Cywydd cyfarch (dim mwy na 12 llinell) i Tudur Owen

Y Gwenoliaid

Ar gael ei dderbyn i’r Orsedd a 10 mlynedd o’i raglen radio yn 2019

Seiniai hanes ein henwau
â thân i’r genhedlaeth iau,
a dwy awr o’i siarad wast
yw record f’amser brecwast,
ei radio sydd yn drydan,
a de-eg oed yw ei gân.

Daw Awst iddo godi hwyl
a rhwyfo draw i’r Brifwyl
yn ei wisg las urddasol
- yn la-di-da swanc fel dol.
Degawd, ddim hanner digon,
Tudur Fawr, Tudur o Fôn.

Steffan Phillips (9.5)

Y Ffoaduriaid

Clywish i fod ti’n cal shît!
A’i haeddu, gan y gwyddit
â dileit mai drwy wneud lol,
lemboeiddio’n byw dyddiol,
chwerthin criw, nid briw a brain
down ninnau i ddallt ein hunain.

Yn rhy hir bu’r dagra’ hyn
yn ein nadu. Ond wedyn
hefo chdi mi gawn grio
natur well, a gweld, bob tro,
drwy’r glana’ dagra’ digri:
yn hwyl iaith mae’i chynnal hi.

LlΕ·r Gwyn Lewis (9.5)

Pennill mawl neu ddychan: Y Panel Grantiau

Y Gwenoliaid

Annwyl banel, diolch sydd
am eich bod, am ran o’ch dydd,
wedi trafod, bwyllgor mawr,
am o leiaf chwarter awr
cyn dychwelyd, gyda pharch,
i roi breuddwyd yn ei arch.
Unfryd unfarn, ag un llais,
cefais wybod werth fy nghais.
Diolch eto. Chi sy’n iawn.
Cefais gennych haeddiant llawn.
Un cais arall gennyf i:-
rhannwch eich syniadau chi.

Huw Roberts (8.5)

Y Ffoaduriaid

Lol! Ni wyddant am lenyddiaeth!
Clîc, cabal sy’n pedlo ffafriaeth...
(Nes ces innau gyfran ganddyn —
Dyma feirniaid craffa’r flwyddyn.)

LlΕ·r Gwyn Lewis (8.5)

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Fy Nghynllun I

Y Gwenoliaid

Ma’r swn aflafar ddaw o’r sied yn atsain hyd y stad
Rhai’n gofyn ‘wy’n recordio albwm newydd canu gwlad

Ond bwystfil o lif gadwyn yw’r offeryn ar y fainc
A honno fydd ein hallwedd ni i’n bywyd yn Ne Ffrainc

Bydd dannedd mawr y cawr o lif yn rhwygo Cymru fach
A thorri hollt ar hyd y ffin, mae’n amser canu’n iach

A chwblhau ein Brexit ni lle fethodd Tresa Me,
Mi hwyliwn Gymru i Wlad Y Basg neu ryw gyffelyb ne’

A dyna sioc ben bore fydd i’n brodyr ar ffin
Fydd nawr yn byw ar lan y mor, Clawdd Offa Sur Marine

Bydd croeso mawr i’r Alban ‘fyd ein dilyn hyd y byd
Dim ond eu bod nhw’n gadel hi Ruth Davidson yn Tweed

Ffarwel i Boris Jonson, nawr taw ni sydd wrth y llyw
Ffarwel i Jacob Mog a’i fath, i Reckless Nige a’r criw

Dim gofyn gwrando eto fyth am “taking back control”
Ond un peth fydd yn sicr yw fydd ‘da ni’n gwlad yn ôl

Edrychwn nôl ar Alun bach yn pwdu lle fu’r bont
Mi gaiff e ddod i’n gweld ni mond bod visa gyda’r cobyn bach drwg.

Ond... Nid dyna ‘nghynllun i go iawn, ’mond breuddwyd oedd e ‘gyd,
A swn yr albwm canu gwlad sy’n dod o’r sied o hyd

Huw Chiswell (9.5)

Y Ffoaduriaid

(I'w chanu a-la cerdd-dant gan LlΕ·r, Gwennan a Casia)

Rydym ni yn dîm di-galon, fel Cymru fach heb Gareth Bale,
fel y Spice Girls heb Victoria, neu fel Y Blaid heb Dafydd Êl,
tydi Gruffudd Sol ddim yma i’n diddanu ni i gyd,
‘da ni'n tri yn gwbwl iwsles heb dalyrnwr gorau'r byd.

Gruffudd Sol mor ddiymhongar, Gruffudd Sol mor gwbwl wych
Gruffudd Sol nad yw'n farddonllyd fel pob prifardd arall sych.
Mae’n lysgenad dros Gymreictod bron mor fawr â Dewi Sant
Casia: Bydd dipyn gwell na'i holl ragflaenwyr pan fydd yntau yn fardd plant.

Os yw fymryn bach yn dindrwm mae o'n ffit fel CangarΕµ
ac yn garwr mwy egniol na Huw Chiswell, medda nhw.
Llyr: A heb fynd i or-fanylder gallaf innau gadarnhau
rhwng Gruff a Chiz yn ôl fy ymchwil ’sdim cymhariaeth rhwng y ddau.

SAIB

Casia: Fedra ni'm canu'r pennill ola' 'ma, mae hi'n erchyll.

Gwennan: Dwi'n gwbod...Dwi di sgwennu hon yn ei lle hi... (tynnu cerdd arall allan. Pawb yn ei sganio'n sydyn.)

Llyr: Bendant....lot gwell.

'Rôl tri phennill anhestunol, egosentrig a di-chwaeth
roedd pennill ola Gruffudd Owen jyst yn mynd o ddrwg i waeth.
Felly Gruff, os wyt ti'n gwrando, dyma’n cynllun newydd ni
rwyt ti'n sacd o'r Ffoaduriaid, nawn ni'n well fel tîm o dri.

Gruffudd Owen (9)

Linell ar y pryd: Heno down i’r beudy hwn

Y Gwenoliaid

Heno down i’r beudy hwn
O nef, ar goll, sat nafiwn

Y Ffoaduriaid

Heno down i’r beudy hwn
I aelwyd sy’n bafiliwn

(0.5)

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Teisen neu Cacen

Y Gwenoliaid

‘No cakes, poison!’
Rhybudd cefn amlen
O saim a llawysgrifen
Ar ben y bin bara,
Yn her iddi hi’i hunan
Wrth dorchi llewys heddi ‘to
I weithio cacs
I lond ca’ o gymdogion diwrnod seilej.
Ninne’r wyron fel gwenyn,
Yn dwgyd bysedded o does bob gafael,
Ei mesuriade pinisied a phwys
Yn diflannu fesul cegaid
Cyn cyrraedd ffwrn.

Catrin Hâf Jones (9.5)

Y Ffoaduriaid

Bu’r holl beth yn yr arfaeth am gyhyd:
am oria ar y soffa’n chwilio’r we,
i wneud yn saff na fasa ’na ddim byd
y funud ola fedrai fynd o’i le.

Y bagia bach; balΕµns; y tricia hud,
dolenni rhuban brau ynghrog o’r to,
a’r deisen grand yn goron arno i gyd:
jest isio’i wneud yn sbesial iddo fo.

Yn diwedd, doedd na’m amser. Cacen siop,
canhwylla gwaelod drôr, a threulio’r pnawn
yn rhedeg rownd dan boeni’i fod o’n fflop.
Yna, cyn inni sylweddoli’n iawn,

y gwestai ola’n mynd dan gau y giât,
a briwsion brown yn sychu ar y plât.

LlΕ·r Gwyn Lewis (9.5)

Englyn: Gornest

Y Gwenoliaid

Rhwng muriau briwiau a braw a dyrnau
du arnat yn gurlaw
ym myd dy loes, mae dwy law
astud yn gwrando’n ddistaw.

Huw Roberts (9)

Y Ffoaduriaid

Er dringo’n slic bob sticill i’w gopa,
pan gipia glaw Ebrill
ei lais a’i wynt fesul sill,
y mynydd sydd am ennill.

LlΕ·r Gwyn Lewis (9.5)

Y Gwenoliaid 71
Y Ffoaduriaid 71.5