Cerddi Rownd 1
Trydargerdd – Cyhoeddi Ymchwiliad
Y Ffoaduriaid
Ynghanol y cystadlu
a sylwoch chi mai Mali
yw’r unig ferch a ddaeth ymlân
i rannu’i Chân i Gymru?
Gwennan Evans ( 8)
Y Derwyddon
Bydd gwariant o filiynau,
bydd cannoedd o ddalennau,
down at y gwir a gweld pwy sy’n
gwastraffu’n holl adnoddau.
Eryl Mathias (8.5)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘rhif’
Y Ffoaduriaid
Ar ôl y trengi, pa raid
i neb rifo’r mân bryfaid?
LlΕ·r Gwyn Lewis (9)
Y Derwyddon
Feuryn, fy ffrind cyfarwydd,
gwn i'r rhif, mae'n ddeg yn rhwydd!
Tudur Hallam (8.5)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ar Ddydd GΕµyl Sant Padrig eleni’ neu ‘Eleni ar Ddydd GΕµyl Sant Padrig’
Y Ffoaduriaid
Eleni ar Ddydd GΕµyl Sant Padrig
fe sgwennaf i awdl fawr epig.
Un campwaith o gerdd
am yr hen ynys werdd…
neu falle mai gwell fyddai Limerick.
Gwennan Evans (8.5)
Y Derwyddon
Eleni ar Ddydd GΕµyl Sant Patrig
rhôf ddiolch i’r bobl yn Limrig
am fesur bach hydrin
i ni’r rhai cyffredin,-
y werin llawr gwlad diwylliedig.
Eryl Mathias (8.5)
Cerdd ar fesur yr englyn toddaid (heb fod dros 12 o linellau): Aberth
Y Ffoaduriaid
Liw nos, mi glywa i Nain, – oes yn ôl,
a sΕµn hallt ei llefain.
Roedd ei byd yn fyd mor fain, heb ddigon
a’i holl ofalon fel cyllell filain.
Liw nos, mi wela i ’Nhaid – yn rhith bach
wrth y bwrdd heb damaid,
a’i lwgu’n llenwi’i lygaid gofidus,
a’u byw truenus yn bwyta’r enaid.
Liw nos ac mae nghalon i – yn eu dwyn
nhw’u dau er mwyn profi
nad sail fy mharadwys i – mo fy chwys;
wyf Εµr dyledus i fôr o dlodi.
Gruffudd Owen (9.5)
Y Derwyddon
Eileen Beasley
Afraid i ni’n y gyfraith roi rhithyn
i’th drethu’n dy famiaith,
mynnwn hi ond mewn un iaith. Heb gwestiwn,
yn hon y gweiniwn, cei ofyn ganwaith.
A goddefaist dy ragfarn-farnu. Gwawd
a gest gan gyd-Gymry,
a dwyn y celfi o’th dΕ·. Bu’n drawiad,
diwaelod-daliad a dlodai deulu.
Daliaist dir heb gyfri’r gost, un dderwen
ddi-Εµyro a fuost.
Hyd eithaf dy gred aethost; creu gobaith,
a’i roi yn ein hiaith, yw’r hyn a wnaethost.
Meirion Jones (8.5)
Pennill ymson ar y grisiau
Y Ffoaduriaid
Rwy’n dechra mynd yn ara bach
yn diawlio’r boen - y ffasiwn strach.
Ond dyna deimlad ar y copa -
Gam wrth gam, y staer: fy Wyddfa.
Casia Wiliam (8.5)
Y Derwyddon
‘Rwyf hanner ffordd lan grisiau
ond wedi gorfod sefyll,
Sai’n cofio pam yr wyf fan hyn,
o duwcs, mae nghof fel rhidyll!
I lawr yr af, ac yn y man
efallai gofiaf pam es lan!
Eryl Mathias (8.5)
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Yr Ysgol Feithrin
(i’w chanu ar alaw Teg Wawriodd)
A sydd am Adda, sy’n pigo ei drwyn,
B sydd am Begw, (sef love-child Rhys Mwyn),
C sydd am Cadi, efo gwyneb fel torth,
mai’n edrych ‘tha rwbath o’r SΕµ ‘na yn Borth.
D sydd am Dyfed, sydd cyn ddoethed a’i Fam.
E sydd am Eurgain sy’n ogla fel Spam.
F sydd am Falmai, sy’n enw hen-ffash,
ond mae o’n ei siwtio – mae ganddi fwstash.
G sydd am Gwenni sydd efo’r frech ieir,
H sydd am Heilyn sy’n haeddu sawl cweir.
I sydd am Ianto sy’n rhy dew i’w siaced,
yn wahanol i Jacob sy’n denau fel Smack-head.
Mae Llywarch a Maelgwyn a Nanw ac Owi
a Pabo a Rolant a Rheinallt a Syfi
efo mamis a dadis ar gyflogau breishion
(coblyn o beth ydi jentrifficeshon.)
Mae Teilo ac Wmffra yn berwi o lau
ac mae’r sawl greodd Urien yn edifarhau.
Ynyr yw’r olaf o’r criw bach dagreuol...
Mae’n ddiawl o beth meddwl mai nhw ‘di’r dyfodol.
Gruffudd Owen (9.5)
Y Derwyddon
Wel dewch i fewn a chroeso mawr,
sdim isie llefen, oes e nawr?
Bydd mami ‘nôl am hanner dydd,
nawr dewch i gael eich ffrwyth a’ch sudd.
“Paid pigo trwyn Isiah bach,
a phaid rhoi pen Adele mewn sach!”
Mae pwll bach gwlyb ar draws y llawr,
“Paid becso, damwain oedd e’ Gwawr!”
Daeth amser cân am dywydd teg,
“O Shane! paid dodi baw’n dy geg!”
Cawn stori nawr o’r Beibl bach,
i’r stafell dawel awn heb strach.
Ond yna clywyd gan Charmain-
“Oh no, not Iesu Grist again!”
Daw Lleucu draw yn wên i gyd
â’i doli glwt, mor braf ei byd.
Ac eistedd wnaf mewn randibΕµ,
bron iawn fel cipar yn y sΕµ.
Ond teimlad bach cynnes a gwyd yn fy mron
wrth feddwl nad oes yr un swydd well na hon.
Enfys Tanner (9)
Ateb llinell ar y pryd: Mae hyn yn anodd i mi neu Y mae yn anodd i mi
Y Ffoaduriaid
Y mae yn anodd i mi
Drio curo lein Ceri
0.5
Y Derwyddon
Ni rof un wen eleni
Mae hyn yn anodd i mi
Telyneg: Cyhydnos
Y Ffoaduriaid
Rwy’n cofio meddwl
y câi’r person nesaf
a holai sut y cysgai’r babi
slap.
Tan un gwanwyn,
yn araf bach,
daeth dydd i olygu dydd,
y nos i olygu nos
a’r ddau cyn hired
cyn fyrred
a chyn bwysiced
â’i gilydd.
Diffodd y golau.
Cusan.
Nos da.
Edrychaf drwy’r ffenest
ac mae’r lleuad yn gwenu.
Gwennan Evans (10)
Y Derwyddon
Daeth diwedd dydd i daenu
ei fantell hud fel gwe,
y cynfas du’n disgleirio,
pob seren yn ei lle.
Ac yna fe ddaw’r bore
a’i haul i wenu’n rhydd,
a phob pelydryn llachar
a’i ran yng ngwres y dydd.
Hen stori nad yw’n newid
sy’n rhoddi neges glir;
’run hyd wyt ti a minnau
’run nos a dydd, yn wir.
Siw Jones (9)
Englyn: Canolfan y Crynwyr, Caerdydd
Y Ffoaduriaid
Ydi Duw yn byw a bod? Nadi siΕµr.
Dim ond sioe ’di darfod
ydi Duw. Ond mae rhai’n dod
yma’i dendio Mudandod.
Gruffudd Owen (10)
Y Derwyddon
A'r ddinas yn fy nhresbasu, - ei sΕµn
fel sarff yn fy ngwasgu,
down, griw annwyl, dan grynu
at awel dawel o dΕ·.
Tudur Hallam (9.5)