Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Syniad am raglen deledu

Aberhafren

Gwleidydd yn hedfan peiriant
heb bants, ’na chi adloniant,
y peilot fydd ’rhen Carwyn Jones –
mewn ‘Gêm o Drôns’ caiff lwyddiant.

Owain Rhys 8.5

Tir Iarll

Cyfunwch rhag toriad y siswrn…
Yr ateb yw ‘Britain’s Got Talwrn’

Emyr Davies 8.5

Cwpled yn cynnwys y gair ‘gwawd’

Aberhafren

Nid sain y gân ond sΕµn gwawd
i filoedd ydyw’r folawd.

Aron Pritchard 8.5

Tir Iarll

Mae’r bwli heddi’n ei ôl
a’i wawd ar iard ddigidol.

Emyr Davies 9.5

Limrig: ‘Ni wn ai breuddwyd neu hunllef’

Aberhafren

Ni wn i ai breuddwyd neu HUNLLEF
yw’r ffaith ’mod i’n gorfod rhoi BONLLEF
bob tro bydda i’n ODLI,
ond wedi’r holl WEIDDI
mae ’NGWRAIG-I ’di ’ngwneud i’n DDIGARTREF.

Llion Pryderi Roberts 8.5

Tir Iarll

Ni wn i ai breuddwyd neu hunllef
Oedd adrodd yn ’steddfod y pentref;
’Rôl datgan un triban
O waith Tudur Dylan,
Fe aeth neuadd gyfan nôl adref!

Emyr Davies 8.5

Cywydd: Twyll

Aberhafren

Yn rhy gynnar daw’r gwenyn
yn un su i lanio’n syn
ar rosod yn eu blodau,
ar sypyn y brigyn brau.

Wrth i’r tirlun ddihuno,
daw haf â’i rwyd hyd y fro;
bore o haul, a bwrlwm brys
yn daearu’n hyderus.

Ond hel yr haf i’w wely
yn ei ôl wna’r nos yn hy,
a gwenynen eleni
dry’n oer fel ein hyder ni.

Mari George 9.5

Tir Iarll

Y Fyddin
Uwch gwledd yn llawn rhyfeddod
roedd yr haul mor hardd ei rod
ar y brochure, a briwision
fory rhydd yn ffilm fer hon.
Roedd arni f’angen - ’leni,
a’i hangen oedd f’angen i;
yn ei bloedd, ‘Belong! Believe!’,
rown i’n arwr aneirif –
o’r plentyn i’r dyn mewn dydd!
Ni welais drwy ei chelwydd
nes nos niwlog f’arfogi.
Anel ei gwn oeddwn i.

Mererid Hopwood 10

Triban Beddargraff Gohebydd Gwleidyddol

Aberhafren

Mi glywais fod gohebydd
‘di marw ar y mynydd
wrth dynnu llun fe aeth y prat
yn sblat o dan hofrennydd.

Owain Rhys 8.5

Tir Iarll

Perffeithiodd ddawn darogan
tranc Trump a T’resa druan,
ond tr’eni mawr na allai’r llanc
ragweld ei dranc ei hunan.

Tudur Dylan 8

Cân Ysgafn: Y Cod Ymddygiad

Aberhafren

Daeth neges gan Heavies Bryn Meirion
i ddweud bod y Boss yn anfodlon –
“Fe dorraist reolau,
mae hyd dy linellau
yn stretchio’r rheolau’n rhy wirion!

“Nid ydynt yn ffitio i’r edit,
ond gwaeth, nid oes sôn am ’run Brecsit,
na Cofiwch Dryweryn
na Philip; ac wedyn
darllenaist gerdd Meuryn heb gredit.

“Gwnest limrig sy’n ddwys a dirdynnol,
ac englyn chwe llinell, un doniol;
a gweithred ynfytyn
oedd troi fyny’n borcyn
yn Seion Bae Colwyn mor siriol.”

A nawr, wrth brydyddu fy nhasgau,
fe ddysgaf fy ngwers yn ddifaddau,
ac addo i’r Rhaglaw,
dilynaf BOB canllaw.
(’Mond un-deg-a-naw o linellau!)

Owain Rhys 8.5

Tir Iarll

Yn dilyn gwerthuso yr ail-strwythuriad,
penderfynodd y Talwrn gael cod ymddygiad.

Chewch chi’m cymryd y mici o’r Arglwydd Rhys,
ac mae’n rhaid i’r Meuryn gael sgwars ar ei grys.

Rhaid enwi’ch tîm ar ôl lle dychmygol
fel Aberhafren, neu’n wir, Ffostrasol.

Rhag ofn fod na gerdd yn sôn am y ‘co’
Mae’n rhaid treulio mis yn ymarfer yr ‘O’

Chewch chi’m sgwennu telyneg sy’n achosi baffl,
na dod drwy’r drws heb brynu raffl.

Dylai’ch groes o gyswllt o leiaf wneud sens,
Ac mae proest i’r odl yn hanging offence.

Bydd gwneuthurwr y côd yn ynfyd gynddeiriog
Os torrwch chi reol y tawddgyrch clogyrnog

Ond hon yw’r rheol bwysica’n bod
Gosodwch eich ffôn ar yr airplane mode.

Nid Mercher na Iau na Gwener na Sadwrn
na Sul na Llun yw noson y Talwrn.

Felly gofynnwn pam yn eno’r dyn
fod y Talwrn yma ar nos Lun?

Mererid Hopwood 9

Llinell ar y pryd: Cysur rhai yw que sera

Aberhafren

Yn hirnos ein talyrna
Cysur rhai yw que sera.

Tir Iarll

Cysur rhai yw que sera
Mae’n iawn os oes maniana.

0.5

Telyneg: Papurach

Aberhafren

Mae pob un gair ar gyfrifiadur
erbyn hyn,
ac felly es ati i glirio drôr
o feiros
a naddion cerddi.

Rhwng y tudalennau brwnt
roedd atalnodau glas
un drafft o haf,
sΕµn mwd y steddfod,
gwynt pabell yn y glaw.

Ein gwin yn glais ar wên y dweud
ac ôl fy mys
ar dy enw.

Plygais y tudalennau hyn
a’u rhoi yn eu hôl,
cyn iddyn nhw fy rhwygo i.

Mari George 10

Tir Iarll

Mae ’na luniau mân eleni
i’m llygad innau wedi dechrau dod,
ac arnyn nhw, dy enw, dy oed,
ôl dy ddwylo hyd ddalen,
llun eira, llun awyren
a llun yr haul yn llawn o’r haf;
lluniau prydferth dy chwerthin,
lliwiau dychymyg llawen
dy ddwy oed heddiw ydynt;
ac un, mewn du a gwyn,
dau gylch yn ddwy lygad, a gwên:
dy enw, a gwên, dyna i gyd.
Daw eraill i’w codi, hwyrach,
y rhain oll a gaiff eu crynhoi
mewn dror, yn saff at fory;
ond yr un
gyda’r wên,
ga i, dy daid, gadw hwn?

Tudur Dylan 9.5

Englyn: Neges

Aberhafren

Dau air dy genadwri – yn gyngerdd
rhag angof, nes corddi
hen ‘wylit’ y graffiti
yn un waedd o’n llynnoedd ni.

Llion Pryderi Roberts 9

Tir Iarll

Cofiwch Dryweryn
Chwalwch, tynnwch baent unnos y meini,
Ond myn ailymddangos
A’u hawlio’n ôl fesul nos:
Mae’r muriau yma i aros.

Emyr Davies 9.5

Aberhafren 71
Tir Iarll 73