Cerddi Rownd 2
Trydargerdd: Cyngor wrth Ddysgu Iaith Newydd
Y Gwylliaid Cochion
Os wy ti’n gyrru a minnau’n dreifio
Titha’n defnyddio a finna’n iwshio;
Gwell i ti dewi a cadw dy grîff
Gan gofio’r roast beef gest ti i ginio.
Gwion Aeron (8.5)
Dros yr Aber
#WrthyDysgwrCymraeg
Y niwl o’th flaen ni welaf; her dy lwybr
hyd y lôn ni phrofaf,
ond ar dy siwrnai araf,
rhoi fy nghwmni iti ’wnaf.
Carwyn Eckley (9)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘tinc’
Y Gwylliaid Cochion
Rhoi i’r gainc rhyw dinc o’r gwir
wna dyn sy’n brodio anwir
Alun Cefne (8.5)
Dros yr Aber
Yn llais Sais, mae tinc o sΕµn
hen foi iawn, os clustfeiniwn.
Rhys Iorwerth (9)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ymlaen ac ymlaen yn ddiddiwedd’
Y Gwylliaid Cochion
Mae'n siΕµr dylai Meuryn o sylwedd
Gysidro crynoder yn rhinwedd
Ond aiff ambell un
Heb edrych ar 'run
Ymlaen ac ymlaen yn ddiddiw...edd!
Rhiain Bebb (8)
Dros yr Aber
Mae timau’r Llew Coch yn ddiddiwedd,
ânt ’mlaen ac ymlaen yn ddiddiwedd,
ymlaen ac ymlaen,
ymlaen ac ymlaen,
ymlaen ac ymlaen yn ddiddiwedd.
Iwan Rhys (8.5)
Cywydd: Camera neu Camerâu
Y Gwylliaid Cochion
Mae rΕµan fy amrannau
ynof i’n creu cyfrinfâu,
rhoi celf ar weplyfr y co’,
rhoi byd at fory’r bodio.
Drwy’r babel dawel, a’r dydd
yn gariad o ddigerydd,
daw persawr o awr arall
i greu dawns o sgwariau dall
a hithau, yn rhyngweithiol
yn fy nal, fy nhynnu’n ôl
hyd y fan, gweld y funud,
y gweld sy’n gelwydd i gyd.
Mari Lisa (9.5)
Dros yr Aber
Sgan 12 wythnos fy ngwraig
Ar sgrin, mae ein cyfrinach
yn wyrth fyw anferth o fach,
yn ofidion llon mewn llun,
yn ddechrau, eto’n ddychryn.
Ein balchder a’n pryderu
wedi’u dal mewn gwyn a du;
ein braw a charlam ein bron
i gyd yn y cysgodion.
Yn y ffrâm, mae cyffro iach,
a ni’n dau’n dal llaw’n dynnach,
yn fudan, a’n dyfodol
ni yn y byd yn ei bol.
Rhys Iorwerth (10)
Triban Beddargraff canwr gwerin neu gantores werin
Y Gwylliaid Cochion
'Rhen Afr Wen 'rôl godro
Gadd ddamwain gas wrth grwydro
hyd greigiau geirwon - dyna pam
na fydd na'm gafr eto. '
Rhiain Bebb (9)
Dros yr Aber
Er iddynt ei drywanu
i’w dewi, yna’i gladdu,
o’r gro â’i ffal-di-blincin-ral
mae’n dal i forio canu.
Rhys Iorwerth (9)
Cân Ysgafn: Fy Ngofod Personol
Y Gwylliaid Cochion
Pry copyn annwyl oeddwn pan oeddwn i yn fach,
Un hapus iawn a bodlon, a bywyd yn ddi-strach.
Ond wedi tyfu fyny aeth pethe yn ddi-lun,
A'r cwbwl ô'n i isie oedd gwe i fi fy hun.
Mi es un dydd i holi'r Tandoori yn y dre
Ond dwedodd y perchennog, "ti'n bry copyn! Na, no wê".
Es drannoeth i'r TΕ· NΕµdls a chael karate chop
'Chos doedden nhw'm yn gweini têc a wê i bryfed cop.
Mi ges i'n stopio wedyn gan heddwas ar y bît
"Ti ddim 'di sylweddoli fod hon yn 'one' wê street.
Dadlennais i ar unwaith mod i'n gynghorydd tre,
Atebodd "allai'm restio pry copyn eni wê".
Daeth i mi wê-ledigaeth - ym mhen ucha'r Sgwâr
Roedd Spider Man yn rhannu ei hen wefannau sbâr.
A brysio wnes i groesi'r Stryd Fawr - ond hyn oedd ffôl,
Daeth blincin Mansel Davies - rhy hwyr i droi yn ôl.
Mi dries i wê-ddio, ond chlywodd 'O' mo nghri
Tra canai'r hen Welsh Whispryr - "does neb yn pasio fi".
A dyna pam dwi heddiw ar wefan fawr y Ne'
Yn dal i drio ffindio 'y ngofod ar y We.
Rhiain Bebb (9)
Dros yr Aber
Yng nghyfres gyntaf tîm Dros yr Aber
Ni wnes i unwaith golli fy nhymer
Er inni wynebu eich tîm dair gwaith
(A’ch curo bob tro – mae hynny’n ffaith).
Ond eleni, dyma fyddin enfawr y Llew
Yn ddigon hy i’n gwahodd ni drew!
Ac fel pob rownd o’r Talwrn, ble bynnag yr awn,
Mae’r lle ’ma hyd yr ymylon yn llawn
O Wylliaid sydd fesul cant yn crynhoi
– Prin fod yma le i droi
Heb daro mewn i aelod neu saith
Ohonoch am y bumed waith!
Dwi’n siΕµr bod pawb sy’n byw’n y pentre’n
Cyfrannu gair neu ddau i’ch tasge.
Heb sôn am ddefnyddio eich sgyrsiau araf
I’n hatal rhag cyrraedd y meic yn lle cyntaf.
Ac a allwch glywed fy ngherddi cry’
Dros chwerthin tactegol Ifan Bryn Du?
Jest diolch i’r drefn, â’ch carfan mor llawn,
Nad yw Dinas Mawddwy yn ddinas go iawn.
Iwan Rhys (9)
Ateb Llinell ar y pryd: Dewisiais i'r Brigands Inn
Y Gwylliaid Cochion
Heriais ganwaith y werin
Dewsais i’r Brigands Inn
Dros yr Aber
Dewsais i’r Brigands Inn
o’r golwg gyda’r gelyn
(0.5)
Telyneg: Benthyg
Y Gwylliaid Cochion
Dim byd
ond gwythïen fain
yn estyn o’r pridd.
Dim byd
ond eiddilwch yn cropian
dan lwyfan
cabaret y trilliw ar ddeg,
ac yn estyn am golofn braff,
gadarn; dim ond un
i fachu ei hun arni,
a’r moulin rouge uwch ei ben yn troi a throi, a chwyrlïo,
yn loddest o golur llesmeiriol a ffrils
a’r cast yn crebachu o’r cefn heb i neb sylwi.
Cyn hir, dim byd
ond estyll sychion brau
yn cynnal normal newydd
yr eiddew unffurf, sgleinwyrdd,
yn chwerthin yn llygad yr haul.
Mari Lisa (9.5)
Dros yr Aber
Unwaith, ar ganol gwên,
cyffyrddodd ein dwylo,
a gludodd blas ei wefus
yn gynnes ar fy nghroen.
Llithrais innau fesul darn
i’w gadw-mi-gei o.
Heno, ar y fainc,
mae ein llygaid ni’n gwegian.
Dwi’n araf blicio’r cusanau
a’r dagrau oddi ar fy moch,
gan agor fy llaw i ddal
y newid mân
ddaeth ohonon ni'n dau.
Marged Tudur (9)
Englyn yn cynnwys enw unrhyw bryfyn
Y Gwylliaid Cochion
Y Rhwyfwr
Rhannwn ein dweud ar groen y dwr heddiw,
rhag boddi'n ffrae neithiwr,
a'i drafod fel dau rwyfwr
dwys a stond ar lyn di-stΕµr.
Tegwyn Pughe Jones (10)
Dros yr Aber
Hunlun
Weithiau, a’m hwyliau yn ulw – trwy hud
ffilter app, ar alw,
fy wyneb glân ’welan nhw,
nid llaid, na phryfed lludw.
Carwyn Eckley (9.5)