Cerddi Rownd 2
Trydargerdd: Jingl i Hysbysebu Eisteddfod yr Urdd
Y Ffoaduriaid
(ar alaw ‘Fi di’r deinosor’, darn goson unawd dan 8 yr Urdd y llynedd)
Tydwi ddim yn gallu canu
alla i ddim adrodd gair
ond mae Mr Urdd yn maddau
ac i mi mae o'n darparu ffair!
Mae’n ddiwrnod mas
heb feirniaid cas
i gollwyr ’Steddfod Gylch.
Gwennan Evans (8.5)
Crannog
Awn am dro i ben draw’r dre,
Awn â’n lliwiau hyd y lle,
Bing Bong, awn i’r Bê.
Endaf Griffiths (8.5)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘camp’
Y Ffoaduriaid
Rhy hawdd yw llwyddo bob tro:
I wneud campau, rhaid cwympo.
Gruffudd Owen (9.5)
Crannog
Ni all Camp Lawn prynhawnau
Fynnu’r ddeddf a wna’n rhyddhau.
Endaf Griffiths (9.5)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhywrai busneslyd yn holi’
Y Ffoaduriaid
Mae rhywrai busneslyd yn holi
pryd welwn ni ail, wsti, babi?!
Does gen i ddim chwant
ers dod yn Fardd Plant.
Tydwi wrthi bob nos, yn barddoni!
Casia Wiliam (8)
Crannog
Mae rhywrai busneslyd yn holi
‘Pan ddaw yr etholiad eleni
I bwy fotiwch chi?’
‘FARAGE’ mynte fi,
Rwy wedi cael llonydd ers hynny.
John Rhys Evans (8.5)
Cywydd: Cefnogwr neu Cefnogwyr
Y Ffoaduriaid
Pan aeth i’r pridd, mor ddiddim,
un o ddau, aeth hithau’n ddim.
Cysgai’i hun yn y cae sgwâr,
rhannu gwely â galar
dan gynfasau geiriau gwael
gramadeg yr ymadael.
Ond daeth cymuned wedyn,
teulu’n tynnu ato’i hun
fel o hyd i’w chofleidio:
napis a babis, nes bo
’r hen wên, rhyw ran ohoni
yn fanno’n ôl hefo ni.
LlΕ·r Gwyn Lewis (10)
Crannog
Cefnogwyr (hΕ·n) Tre Caerfyrddin
O oriel lluniau Lowry
eto dônt yn sbotiau du;
o’i ddoe ef daw un neu ddau
i Waun Dew’n llinell denau
yn eu henoed i gynnal
uwch y waedd eu breuddwyd chwâl.
Mewn ffydd, yr heolydd hyn
a rodiant bore wedyn
yn eu hoed, cans eto’n ôl
ddaw’r rhai a ddua’r heol;
myned mae’r coesau meinion
i Heol Awst lawr y lôn.
Idris Reynolds (9.5)
Triban Beddargraff plymer neu blymwraig
Y Ffoaduriaid
Ni ddena’r nefoedd mo’no.
I uffern aiff, cans yno
mae galw mawr o hyd am wres:
gwnaiff fwy o bres yn fanno.
LlΕ·r Gwyn Lewis (9)
Crannog
Yn gynnar yn ei yrfa
Fe’i galwyd lan i’r Wynfa;
Mae’r prinder plymers oddi fry
Yn waeth na sy’ fan yma
Gillian Jones (9)
Cân Ysgafn: Fy Swydd Ddelfrydol
Y Ffoaduriaid
Pan fydda i ’di tyfu fyny, waeth ’mi gyfadda rwan hyn,
does gen i ond un uchelgais, dwisio bod yn Ceri Wyn.
Fo di'r giamstar cynganeddol a chongrinero'r canu rhydd,
dio’m ’di troi ar fro ei febyd, fel y bradwrs na’ ’Nghaerdydd.
Ac er edrych mor ddinwad, fel ryw bathew bach, neu oen,
o'i roi mewn ffeit, mae'r boi yn lithal, gall gynhyrchu byd o boen.
Mae o'n ddeifiol, mae o'n ddoniol mae o'n feirniad call a theg,
mae o'n edrych fel crwt ysgol er 'i fod o dros chwe deg.
Mae o'n gallu siarad Saesneg, mae o'n medru gneud bob dim,
ac mae’i freichiau fel boncyffion heb dreulio munud yn y gym.
Mae gan dri o'r Ffoaduriaid ar ’rhen Ceri, eitha crush
(ond mae Casia, LlΕ·r a Gwennan isio'i gadw fo'n hush hush.)
A dwi am gyfadda rwbath sy'n ymylu ar obsîn,
mae o'n feuryn gwell 'na Gerallt, (mae o'n sicir lot llai blin.)
Dwishio bod yn glên a chwrtais, dwishio teithio Cymru'i gyd,
dwisho dysgu godro stori (er bod honno'n deud dim byd.)
Ac os ydi bod yn Ceri y tu hwnt i'm cyrraedd i,
na'i jyst bod yn Tudur Dylan, sydd bron cystal, am wn i.
Ar ôl i'n hybarch Feuryn dderbyn hyn o ego-boost
dwi’m yn meddwl bod angen gofyn pwy gaiff goron yn Llanrwst.
Gruffudd Owen (9)
Crannog
Defnyddiais fy nychymyg i lanw y C. V,
Yr unig ffaith i’w choelio oedd dydd fy ngeni i.
A pheidied neb a meddwl fod hynny yn ddi-wardd
Gan fod ‘na hawl gan brydydd i esgus bod yn fardd.
Ces e-bost ymhen misoedd yn cynnig imi’r swydd
A’r bwriad oedd im ddechrau ar ddiwrnod fy mhenblwydd.
Ac erbyn hyn rwyf innau, fel pobol bwysig iawn,
Yn gweithio yn rhan-amser gan ennill cyflog llawn.
A phan fo’r rhew yn brathu, caf aros yn fy ngwâl
Heb angen papur doctor i brofi ‘mod i’n sâl.
Mae nhw’n ymddiried ynof i gwblhau y gwaith,
Ε΄yr neb pa bryd rwy’n cychwyn na phryd rwy’n gorffen chwaith.
Caf amser i groeseiriau wrth ddala’r slac yn dynn
Ac unwaith yn y flwyddyn daw tasgau Ceri Wyn.
Y mae’r cyflogwyr rhithiol i’w gweithlu’n eithaf hael,
Caf fynd am ddim ar fysus, pe bae na fws ar gael.
Rwy’n gyson ar fy ennill, a bellach y mae’n nhw
Yn talu treth teledu i’r gath a’r cocatΕµ.
Yng ngwyneb y diweithdra a grym y gwyntoedd croes
Lloyd George sydd bia’r diolch fod gennyf swydd am oes.
Idris Reynolds (8.5)
Ateb Llinell ar y Pryd: Nid ar gau yw’r dre i gyd
Y Ffoaduriaid
Nida r gau yw’r dre i gyd
Agorodd ddrws Ty’r Gwrhyd
Crannog
Nid ar gau yw’r dre i gyd
 geiriau’n dod o’r Gwrhyd
(0.5)
Telyneg: Adeiladu
Y Ffoaduriaid
Ti’n dewis y blociau fesul un;
yn ffrindiau, yn bynciau, cariadon, gwyliau, gyrfa.
Ti’n eu dymchwel a’u hail-drefnu;
dyma flwyddyn allan, damwain ella, dod adra.
Ti’n codi’r tΕµr eto,
dy fysedd dyflwydd yn drwsgwl, yn ddestlus
yn dal ati nes ei fod yn siglo sefyll
a’r ddau ohonom yn gwylio mewn rhyfeddod
ac yn dal ein gwynt.
Casia Wiliam (9.5)
Crannog
(yn dilyn erchylltra Christchurch, mae menywod gwyn wedi dechrau gwisgo’r nijab i ddangos unoliaeth â’r Mwslemiaid.)
Y gwΕ·r sy’n atgyweirio
wrth i hanes fesur
lled y niwed a wnaed
i dyrau’r eglwys gadeiriol,
faen wrth faen
yn y daeargrynfeydd.
Faen wrth faen mewn dwy fosg
ymgynnull wna’r mamau gwynion
i aros a galaru
ymyl yn ymyl â’r Mwslemiaid
mewn najab o adnabod
a phob cyfamod yn codi
adeilad di-welydd
i herio’r tir
a siglodd eglwys
Crist yn Christchurch.
Philippa Gibson (9.5)
Englyn: Rebel
Y Ffoaduriaid
Martin Luther King
Rhyddhau dyn wna’i freuddwyd o - i dynnu’r
cadwyni a choelio
mai gwell byd yw’r byd lle bo
dau elyn yn dal dwylo.
Gruffudd Owen (10)
Crannog
Paul Flynn
Y mwynau dan y mynydd – a asiwyd
yn ffwrneisi’r gwleidydd;
inni fyth un darn a fydd
o hen haearn Casnewydd
Idris Reynolds (9.5)