Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Fy Hoff Dîm

Ffostrasol

Rwy’n deyrngar iawn i’r Cochion
Waeth beth fo’r maes chwaraeon;
Ond bob yn hyn mi fydda’ i’n driw
I griw all faeddu’r Saeson.

Gareth Ioan (8)

Y Gwenoliaid

Daw hwyr y lloer i dir Llyn
a gwneud, nid dweud, mae tri dyn;
y tri sy’n tanio trywydd
o wreichion poeth aflonydd
i danio Llyn dan y lloer.

Huw Roberts (8.5)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cwm’

Ffostrasol

Yn y cwm ceir llwybr cêl
I Annwn drwy borth anwel.

Dai Rees Davies (8.5)

Y Gwenoliaid

Awn gyda’n brwshys heno
i roi’r cwm ar furiau’r co’.

Steffan Phillips (9)

Limrig: ‘Archebais fy nhocyn yn gynnar’

Ffostrasol

Archebais fy nhocyn yn gynnar
I ‘Steddfod Llanrwst yn reit eiddgar;
Rhag ofan y pwdel
Mae nawr mewn lle diogel
Yng nghornel rhyw gae’n Madagasgar.

Emyr Davies (8.5)

Y Gwenoliaid

Archebais fy nhocyn yn gynnar
i’r disgo yn Ysgol Llanilar
i weld bois Pen-rhiw
yn smyglo home brew
i’w fflogo i griw blwyddyn pedwar.

Steffan Phillips (8.5)

Cywydd: Rhwydwaith

Ffostrasol

Fe ddaw o law’r diawl ei hun
Hunllef, a thrwy ei gynllun
O rwydwaith, a’i holl redwyr,
Tafla we dros ein lle’n llwyr,
A rhoi inni’r truenus
Blant, sydd yn gaethion i’w blys.

Mwyach bythol fodoli
Yn ei we mae’n truain ni
I fod, eu blys yn cryfhau
A’u punnoedd guddia’r poenau
Yn darfod, nos ddiderfyn
A ddaw o law’r diawl ei hun.

Dai Rees Davies (8)

Y Gwenoliaid

Bro unig ydyw’r bryniau,
a neb call i’w bywiocáu
ond adar hy, udo’r rhos,
twrw rhyw haid diaros.
Unigedd, heb gymdogion,
yw’n stad heb siarad, heb sôn.

Ar dân un dydd, rydw i’n dod
i’r dref â’m bryd ar drafod.
Ond dof at glebran ofer:
byddarol yw’r holl lol flêr.
Oedi wnaf, cyn mynd yn ôl
at fryniau’r lleisiau llesol.

Judith Musker Turner (9)

Triban Beddargraff Pregethwr Lleyg

Ffostrasol

Fe lanwodd fwlch yn burion
Ym Methlehem a Hermon;
Gobeithio’n wir y caiff e nawr
Ei Gyrddau Mawr yn Seion.

Gareth Ioan (9)

Y Gwenoliaid

Â’i gasgliad o bregethau
i gyfro’r holl enwadau
bu’n llenwi bylchau’r llwybr cul
bob Sul, ond nawr s’dim eisiau.

Catrin Hâf Jones (9)

Cân Ysgafn: Mynd a’r ci am dro

Ffostrasol

Mae gen i gi tsiwawa a choesau milgi, hir.
Pwy oedd ei dad a’i Wncwl, nid yw yn hollol glir.
Mae Dinky Pw (na’i enw), er nad yw’n greadur mawr,
Yn hoff o fynd am walkies i gadw’i bwysau lawr.
Rhof raff o gylch ei wddwg; mae’n mynd fel pe ar dân;
Ei goesau ôl fel pistons, a sbarcs o’i goesau bla’n.
A’i lygaid croes yn sgleinio fel peli bach ping-pong,
Yn cyfarth i’ch rhybuddio – rhyw sΕµn fel hwter llong.
Os byddwch chi yn digwydd bod ar y ffordd ‘run pryd,
Wel cil’wch mewn i’r ochr neu byddwch ar eich hyd.
Yr unig bryd mae’n aros, os gwêl e’ bolyn lamp;
Mae’n codi goes yn uchel i gadw’r lle yn damp.
Un tro roedd bois y Cownsil fel pyst yn gwneud dim byd;
Fe olchodd ‘sgidiau rheiny a’r fforman yr un pryd.
Mae weithiau’n codi cynnen ar gΕµn sy’n dipyn llai,
A byddai’ n gadael iddo rhag i mi gael y bai.
Eseciel, ci’r gweinidog, a brofodd hyn un dydd;
Heb flew a chynffon fyrrach bu fyw dim ond trwy ffydd.
Ar ôl ei bererindod caiff Wyffitmix i de;
Caf innau siâr yn hunan i gadw lan ‘dag e’.

Emyr Davies (9.5)

Y Gwenoliaid

Mae’n rhaid bod bwlch mewn bywyd cyn dyfod Winston bach
Ond nawr bo Winston gyda fi, mae’r byd ‘ma’n llai o strach
Mae’r ci yn adlewyrchiad o’r arwr fu tan glo
Yn cuddio tu ôl i’r swildod ffôl fu’n llethu finne ddo’.

Winston ni, Winston ni, diawch wy’n teimlo’n hy’
Wrth fynd â Winston ma’s am dro, Winston C a fi.

Ma’ dweud shwd ma’i wrth Winston yn gofyn enaid dewr
Mae’n nabod sawr Remainer nawr o ganllath lawr yr hewl
Sgyrnygu a glafoerio’n ffrwd a thynnu’n frwd ar ‘lid
A phawb yn ei gwadnu’n lygod mân o’i weld e’n dod ... ‘da fi.

Winston ni, Winston ni, diawch wy’n teimlo’n hy’
Wrth fynd â Winston ma’s am dro, Winston C a fi.

Mi wisgai grys â llawes fer sy’n dangos fy nhatΕµ
Yn ddarlun mawr o Churchill gawr enillodd Wyrldwortw
Os gwyniff Iwropian mi gaiff e’r drinieth ‘to
A Winston C’n fy ngwarchod i fel Tomigyn o’i go.

Winston ni, Winston ni, diawch wy’n teimlo’n hy’
Wy’n mynd a Winston ma’s am dro.
‘Teu fe sy’n mynd a fi?

Huw Chiswell (9)

Ateb Llinell ar y pryd: Yn y storm o brotest war

Ffostrasol

Yn y storm o brotest war
I Annwn awn da’r anwar

(0.5)

Y Gwenoliaid

Yn y storm o brotest war
Canwn i’r hafau cynnar

(0.5)

Telyneg: Tanio

Ffostrasol

Bu’r mynydd yn wenfflam,
Bu’r eithin yn dân,
A’r grug yn gwreichioni
Dros gri’r adar mân.

Mae mwg uwch y moelydd
A du yw pob twyn;
Mae’r rhostir yn barddu
Ac esgyrn pob llwyn.

Drwy ludw y fawnog
Daw’r egin yn las,
Yn lafnau o fywyd,
Yn fflamau o ras.

Dai Rees Davies (9)

Y Gwenoliaid

Yn y dechrau’n deg,
yn y ffrwydriad ffyrnig,
cynheuwyd tȃn yng ngrȃt y cread.
Daeth fflach o gamera’r gofod
a thynwyd llun o deulu’n dwt,
haul
a sȇr
a’r planedau – plant.
O’r nwyon a’r nebiwlai hyn
daeth dechrau daear a dyn.
Nawr,
mae’r llwch
a’r lludw
o’r lle tΘƒn cyntaf
yn llosgi
yn rhudddyn ein bod.

Hannah Roberts (8.5)

Englyn yn cynnwys enw unrhyw aderyn

I Islwyn Evans, Ysgol Gerdd Ceredigion, Côr Cymru 2019
Aderyn du’r nodau hud a’n swyna
 sain cywion diwyd;
O’u nyth daw cytgan o hyd,
Afiaith ieuenctid hefyd.

Gareth Ioan (9.5)

Y Gwenoliaid

Yn y bae. Dechrau beio.
Y drudwy direidus sy’ eto’n tyrru i weld.
Ond fel bob tro, awn nôl i ddala dwylo.

Steffan Phillips (9)

Ffostrasol 70.5
Y Gwenoliaid 71