Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Cais Cynllunio

Y Llewod Cochion

Fy madarch sy'n flasus ryfeddol,
Rwyf angen tΕ· gwydr sy’n fwy
I ateb y galw cynyddol
Am bethe bach majic i’r plwy’!

Iwan Parri (8)

Y CΕµps

Nid wyf yn Gymro hiliol,
Nid wyf o’r asgell dde,
Ond hoffwn weled eto
Glawdd Offa yn ei le.

Iwan Bryn James (8)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘llew’

Y Llewod Cochion

I hen fyddin o Fawddwy
Y Llew oedd eu gwersyll hwy.

Gwerfyl Price (9)

Y CΕµps

Drwy lygaid llew dyw ewig
Wan y gyr ond darn o gig.

Huw Meirion Edwards (9)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni ddwedais wrth neb am y noson’

Y Llewod Cochion

Yn fy rôl fel cowboi Nanhoron
Mewn sodla, yn gwisgo fy nghoron
'Rôl canu mewn pais,
fe gollais fy llais,
Ni dd'wedais wrth neb am y noson

Iwan Parri (8)

Y CΕµps

Ni ddwedais wrth neb am y noson
Mewn lay-by ar ffordd Aberaeron
Pan faciais fy Skoda
Yn andros o dila
A chwalu y wal ‘na yn deilchion.

Iwan Bryn James (8.5)

Cywydd: Cymundeb

Y Llewod Cochion

Ffermwyr ym marchnad Dolgellau
Dônt gartref o’u cynefin;
Canu'n tir glywn drwy’r cantîn
yma'i feithrin cyfrinion;
Cyfeillach holliach yw hon;
Gwyr rhadlon, calon pob cwm
Yn eiriol ym mhob fforwm;
Yn nhonfeddi'r gwmnïaeth,
ffeirio rhwydd a'r siarad ffraeth
ceir cyffro, herio a hwyl
Am werthu cyn y morthwyl,
cyn eu hel o'r lociau nol
i dyddyn y gwaith dyddiol.

Huw Jones (9)

Y CΕµps

Rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Pencampwyr Ewrop, 7 Mai 2019 – Lerpwl 4, Barcelona 0. Roedd Lerpwl 3 i 0 ar ei hôl hi ar ôl y cymal cyntaf yn y Camp Nou.
Doedd Anfield ddim am ildio,
Ddim rhwng Klopp a’r Kop a’r co’
Am nosau’r hymnau iasol
Yn atseinio heno’n ôl,
A thadau gan ddagrau’n ddall
Yn diolch, hogiau’n deall.

Pan aeth ‘With hope in your heart’
Yn llif o gariad llafar
Trwy’r nos, roedd gwyrthiau’n bosib –
Pedwar cyrch cyn chwythu’r chwib;
A’r môr coch, mor groch, mor gry,
O raid yn dal i gredu.

Huw Meirion Edwards (9.5)

Triban Beddargraff Llyfrgellydd

Y Llewod Cochion

Ei gwefus coch fu’n “ shwshan”
Ei llygaid fel barcutan,
Bu’n hisian “Ust’” a sibrwd “Taw!”
- Mi gaiff ddistawrwydd rwan .

Mair Tomos Ifans (9)

Y CΕµps

Fe naddwyd carreg Brynmor
A’i gwasgu wysg ei hochor
Rhwng Al a Cled, jyst fel ei fod
O’n dod yn nhrefn y wyddor.

Rocet Arwel Jones (9)

Cân Ysgafn: Beth yw’r Haf i Mi

Y Llewod Cochion

Beth yw’r haf i mi ? Dim ond llygaid coch , a dagrau’n lli
Beth yw’r haf i mi ? Dim ond trwyn fel tap a phaill di ri;
Does na’m pwynt mewn crwydro’n ffôl –
Sdim anti-hista-mins ar ôl,
Nid yw’ r haf i mi’n ddim ond hirlwm efo arlerjî !

Trist yw’ r galon fach gan fod cwyn twristiaid yn y coed
“ There’s no GPS and I can’t find no booming clwybyr tro-ed “
Claddwn Slate mountain – mae’n hen enw ffôl,
Adferwn y Llechwedd – rhown ei enw’n ei ôl
Trist yw’r galon fach – “ Lec – Lec – Lecw – I can’t say these flaming names at all “

Beth yw’r haf i mi os yw’r frest yn gaeth o dan ei chlwy
Beth yw’r haf i mi os yw Prydain Vawr ‘di hollti’n ddwy
‘Chai ddim bellach grwydro’n ffôl -
Rhag ofn caf drafferth dod yn ôl,
Yma byddaf fi ‘n tisian paill a snwffian dagrau mwy.

Mair Tomos Ifans (9)

Y CΕµps

(Gan gofio fod Theresa May yn treulio ei gwyliau yn ardal Dinas Mawddwy)
Beth yw’r haf i mi, dim ond trafod llwm a cholli bri,
Barnier sy’n gi, mae o’n gwrthod ildio dim i mi,
Merkel gyda’i siarad wast, mae o’n gwbwl gaeth i’r ast,
Beth yw’r haf i mi, nid yw Brwsel yn fy ngharu i.

Ac yn Lloegr wen, Torïs croch sy’n udo am fy ngwaed,
Boris meddent hwy yw’r dyn gyfoda Prydain ar ei thraed.
Ond rhwng hwnnw a Rees-Mogg fe â’r cyfan lawr y bog,
Trist yw nghalon fach, fi yw’r Prif Weinidog gwaethaf gaed.

Beth yw’r ots gen i os yw’r wlad yn glaf o dan ei chlwy,
Beth yw’r ots gen i os yw Mhlaid ddi-drefn ar dorri’n ddwy.
Mawddwy fydd yn gwella nghur, yno’r af at Dorïs pur
Ac yno bydd i mi, gwmni beirdd wnaiff foli f’enw mwy.

Dafydd Morgan Lewis (8.5)

Llinell ar y pryd: Es i’r Cwps ‘rol amser cau

Y Llewod Cochion

Es i’r Cwps ‘rol amser cau
I guro’r timau gorau

Y CΕµps

 minnau’n llawn emynau
Es i’r Cwps ‘rol amser cau

(0.5)

Telyneg: Yr Ail Filltir

Y Llewod Cochion

Mae hi’n sefyll ar y gornel
Yn clincian bwced yn ei llaw
Yn yr hindda, yn y glaw.
Stiwardio , hel deiseb, tacluso,
Nol moddion, torri gwair,
Basged drom gan gacen ymhob rhyw fath o ffair
Trysorydd, ysgrifennydd am yn ail yn ôl ei thro
A raffyl neu ddwy yn ei phoced tra’n rhanu y papur bro.

Rhof buntan yn ei phwced,
A gwên ar ddiwedd gΕµyl,
Holi dros fy ysgwydd am y rhai a fu’n ddi-hwyl
Af adre’n foddus ddedwydd
Rôl prynu llyfr o’i raffyls hi
Gan fod y filltir gynta’n hen ddigon pell i mi.

Mair Tomos Ifans (9.5)

Y CΕµps

Ond digon hawdd oedd hi i ni, bob un,
ar bnawn mor braf, ymgynnull yng Nghaerdydd
yn wenau ac yn ddagrau mawr mewn llun
sy’n llawn llawenydd ein hareithiau ffydd;
a diolch byth am hynny, diolch fod
baneri’n fyw gan awel, cân a phib
a’n holl siarad ni, a fod gennym nod
mil gwell na doniau cyfri’ torf y Bîb.
Y cwestiwn yw, pwy ohonom ni, ie,
ar ryw bnawn dydd Llun rhy fileinig, oer,
fel y bu Gwyn Alf, ar Ddowlais Top, lle
mae’r gwynt yn frad i gyd a’r glaw fel poer,
a safo yn y tywydd hwn a’i frath
a meiddio caru Cymru jyst ‘run fath?

Dafydd John Pritchard (9.5)

Englyn yn cynnwys enw unrhyw erfyn garddio

Y Llewod Cochion

Heddiw mae torch lle bu’n fforchio – a bedd
Lle byddai yn cloddio,
Ei gΕµys a’i gyrrodd o’i go’
A’i lain sy’n dawel heno.

Gwerfyl Price (9.5)

Y CΕµps

Dur ar bridd a hyder brau – fu’n gwywo
Gefn gaea’n rhyw ddechrau
Swagro’n ôl i esgyrn iau,
A’r rhaw’n fy ail-droi innau.

Huw Meirion Edwards (10)

Y Llewod Cochion 71.5
Y CΕµps 72