Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Cyfarwyddiadau i Yrrwr neu Yrwraig Fan Ddosbarthu
Criw’r Ship
Cnocia’r ffrynt a chnocia’r cefn,
Cnocia eto a thrachefn.
Os ’na cha’i ’mharsel, mi ga’i siom –
Parsel gan doorbells dot com.
Arwel Roberts – 8.5
Dinasyddion Cochion
Cychwyn wrth dy bwysau
A gwylia’r camerâu,
Tro fyny wrth y seren
Y ffordd yn wyn a brau,
Dilyn dy drwyn, a chyn bo hir
Fe weli di y lleuad wir.
Delyth Medi - 8
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘oen’
Criw’r Ship
Y ddafad – a'r blaidd hefyd –
sydd dan groen yr oen o'r crud.
Annes Glynn – 8.5
Dinasyddion Cochion
Oen sy’n dysgu oen gwanach
yn y cwm, a’i brancio iach.
Arwyn Groe – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n credu bod pawb yn cytuno’
Criw’r Ship
Rwy’n credu bod pawb yn cytuno,
Bod Llangwm, wel, sut alla’i ddeud o,
Yn bentre go fychan.
Gellid cyfro’r lle cyfan
Efo coban Archdderwydd a Beano.
Arwel Roberts 8.5
Dinasyddion Cochion
O Blwmp i Borthcawl a Llandudno,
O dop John o Groats lawr i Glasgow,
Mae’r sobor a’r chwil
Yn erbyn ‘no deal’,
Rwy’n credu bod pawb yn cytuno.
Arwyn Groe – 8
Cerdd ar fesur yr englyn toddaid (heb fod dros 12 o linellau): Iawndal
Criw’r Ship
Y gwres sydd heddiw'n greisis - ein tirwedd
sy'n torri am grocbris:
Y môr sy'n codi bob mis dialgar,
tra bydd y ddaear yn troi heb ddewis.
Anwybyddir y rhybuddion yn hy.
Yr her i wleidyddion
yw adfer ein harferion, tra bo traul
ynni yr haul yn pylu gorwelion.
Manon Awst 8.5
Dinasyddion Cochion
Iach oedd Seren, ond heno – ni Εµyr hi
Am y rhith o heintio
sydd ynddi, mae’n llyfu’i llo – yn llyfu,
Llyfu llyfu tra bo’r llaeth yn llifo.
Cnoi ei chil wna’i hepil; hon – orweddai
Wedi’r haidd, yn fodlon;
A’r awel uwch hen aerwyon – yn hau
Eu camau hwythau i’r caeau meithion...
Mynnu ei phrynu, a’i phris – i adran
Llywodraeth yn decbris,
A’r eisin ar ein creisis – di-ennill,
Yw na ddaw Ebrill i’r Seren ddibris.
Arwyn Groe – 9
Pennill ymson tenor
Criw’r Ship
Dwi’m yn denor, dwi’m yn faswr,
Dwi ddim hyd yn oed yn ganwr.
Ond yma’r wyf mewn dici bô
Yn trio canu mi, re, do –
Na, sori, canu do, re, mi
Yng nghanol rhengoedd Ar Ôl Tri.
A’r unig reswm dwi’n fan hyn?
Y fi ’ di stalker Ceri Wyn.
Arwel Roberts – 8.5
Dinasyddion Cochion
Dwi’n fawr, yn olygus, yn berffaith; yn wir, dwi’n Adonis o foi,
Nid oes neb yn medru hel merched fel finne mewn opera na sioe.
Mae gennyf res hir o gariadon a’r rheiny’n reit wyllt yn y bôn,
Ces ddeuawd a sws mewn sawl cornel, o’r Eidal i bendraw Sir Fôn.
Mimi, Myfanwy a Maria; Elen a Blodwen yn eu tro,
Heb sôn am yr hen Fioletta, yn honna roedd yffach o go!
Mae’r rhai yn fy nghasáu i’r eithaf, yn fy ngalw’n ‘dipyn o gi’,
Cenfigen yw hynny gan faswr nad yw’n cyrraedd yr un ‘Top Sî’.
Y gwir plaen amdani yn bendant, nid oes ond un llais yn y byd
Sy’n swyno soprano â’i nodau wrth Così Fan Tutte r’un pryd!
Karina Wyn Dafis - 9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Gwely a Brecwast
Criw’r Ship
Dwi ddim yn licio smwddio a golchi dillad gwely
A chodi’n gynnar a gneud bwyd a hwfro a phetha’ felly.
Mistêc, mae’n debyg, oedd i fi sefydlu busnes B and B.
Ond ma’r plant i gyd ’di gada’l, dim ond fi a’r wraig sydd adra,
Ac mae’n braf cael pobol ddiarth i siarad ’fo nhw weithia,
’Mond i fi gofio cloi y drws wrth fynd ar ras i ’neud pw-pws.
Peth hawsa’n byd? Gneud brecwast ar gyfer gwestai figan
Oedd heb ddatgelu hynny wrth fwcio ar y wefan.
Dim bacwn, pwdin gwaed nac wy – ’mond marmalêd ar flaen ei lwy.
Sgen i’m peiriant golchi llestri. Sna’m angen, gan fod Pero
Wrth ei fodd yn llyfu platia’ a llnau y badell ffrio.
Mae’n byw ar ddim ond sôs a grîs, ac yn ymylu ar obîs.
Mae gen i sgôr hylendid o chwech, sy’n ddigon parchus:
Mi fysa wyth neu naw neu ddeg yn gneud pawb yn ddrwgdybus.
Mor hawdd yw myned dros y top wrth boetshian efo Photoshop.
Mae’n rhemp ar TripAdvisor, sna neb yn aros ddwywaith,
Ond pan ddaw ffôn annisgwyl o dΕ· fy mam-yng-nghyfraith,
Mae’r busnes bach yn handi iawn. “Amhosib, sori, ’dan ni’n llawn.”
Arwel Roberts – 9.5
Dinasyddion Cochion
Ymhell cyn i brexit fynd drwyddo
Penderfynais i arallgyfeirio,
Gwneud rywbeth gwahanol i wigwams a ballu
Felly agorais i Frecwast a Gwely.
Ches i r’un cwsmer am sbel ar y dechre
‘Chos Gwely a Brecwast oedd pawb eisie,
Roedd Brecwast a Gwely yn hir yn cydio
Neb eisie cysgu ar ôl wyau ‘di ffrio
Ond dyfalbarhais ac o dipyn i beth
Daeth un neu ddau i ddeall y peth –
Cyrraedd ben bore i gael brecwast fel gwledd
Ac i’r llofft am y dydd i gael hedd perffaith hedd.
Roedd cwyno weithie gan yr hen a’r doeth
Am ddyddie, camdreuliad neu am ddΕµr poeth,
Cymysgu nos a dydd wna rhai – weithie,
A theimlo’n llawn dop rhwng canfase.
Er hynny, aeth pethe o nerth i nerth
Daeth Clwb Cysgwyr Cymru i ddangos eu gwerth,
Gwleidyddion y wlad a Gorseddigion
‘Business is booming!’ Cwsmeriaid cyson!
Pryderi Jones – 8.5
Ateb llinell ar y pryd: Yn y llaw fach mae’r holl fyd
Criw’r Ship
Yn y llaw fach mae’r holl fyd
Tyfu mae’r freuddwyd hefyd
0.5
Dinasyddion Cochion
Yn y llaw fach mae’r holl fyd
Ei haf, a’i gaeaf hefyd
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Glaw
Criw’r Ship
Purple Rain – Prince
Bu rhaid i mi edrych am esboniad.
Yn ôl yr hwn a alwyd gynt yn Dywysog,
yr un sy’n canu’r gân –
coch y gwaed
a glas yr awyr
wna’r gawod borffor,
yr hon a ddaw ar Ddydd y Farn.
A rΕµan, â finna’n gwbod hynny,
ymarfer yw bob tro y rhedaf efo chdi
trwy byllau
a’r glaw yn pigo neu’n treshio neu’n tywallt fel o grwc
a chusannu’n crysau.
Ymarfer ar gyfer y tro hwnnw, y tro olaf hwnnw,
pan na fydd riff gitar yn y cefndir,
dim ond glaw yn disgyn
yn las,
yn goch,
yn borffor.
Sian Northey - 9
Dinasyddion Cochion
Erwau o dywod euraid
Ger cefnfor grisial LlΕ·n,
A'i wres yn crasu'n danbaid
Dan noethni traed cytûn,
Yr awel yn anwesu
Melfedaidd gyrff y ddau
A thon ar don yn mynnu
Bod gwynfyd yn parhau.
Ond yna fe ddaeth duwch
I guddio'r gwead crwn,
A’r glaw a ddaeth a’i fwrllwch
I bylu’r gwynfyd hwn
Ni fu y gwres ond ysbaid
Ac nid oes traed cytûn
Yn rhodio’r tywod euraid
Ger cefnfor unig LlΕ·n.
Hilda Fychan – 9
Englyn: Marchnata
Criw’r Ship
Yn ymgyrch farchnata ddiweddaraf y fyddin Brydeinig maen nhw'n annog 'snowflakes...and your compassion' i ymuno
Hei, Bluen, mae d'angen DI – a'th ofal
eithafol ar Armi
na Εµyr b'le'r hed bwledi.
Mae'n her. Ymuna â ni!
Annes Glynn – 8.5
Dinasyddion cochion
Daw 'Dolig, ond daw dyled - o werthu
ei werthoedd a'u hyfed;
geiriau hael gwagu'r waled,
sglein cras yn lle sgleiniau cred.
Celt John – 8