Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Neges nas halwyd
Y Glêr
Fe sgriblais gynllun Brexit
Ar shît o doilet rôl,
A’i yrru draw i Frwsel.
Rwy’n aros ateb nôl.
Osian Rhys Jones (8.5)
Talybont
I yrrwraig ffeind y Kia,
wrth gwrs mi setla i'r bil
a derbyn dirwy drom y llys.
Mewn edifeirwch,
Phil
Anwen Pierce (8.5)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘am’
Y Glêr
Mae arwyr yn ymyrryd
Am fod dihirod o hyd.
Hywel Griffiths (10)
Talybont
Daw'r rhigwm, er dy regi,
am mai dy fam ydwyf fi.
Anwen Pierce (9.5)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe fydden i heddiw’n filiwnydd’
Y Glêr
Fe fyddwn i heddiw’n filiwnydd
Pe medrwn ddefnyddio f’ymennydd.
Ond dysgais ar ras,
Boed goch neu yn las,
Y byddwn i’n addas fel gwleidydd.
Osian Rhys Jones (8)
Talybont
Bod yn Feuryn yw’m hamcan fel prydydd,
Cael lordio dros glerod tafodrydd,
 ’da sieciau y Bîb,
Yn dod ataf ar wîb,
Fe fydden i heddiw’n filiwnydd
Phil Davies (8.5)
Cerdd ar fesur yr englyn toddaid: Drwy DdΕ΅r a Thân
Y Glêr
Fel arch, roedd strydoedd marchnad Caerfyrddin
Dan hin lwyd anynad
Ddiyfory ddifwriad f’arddegau
Yn glawr cau, a sΕ΅n glaw ar y caead.
Fel cyn co’, milwro mla’n yn dawel
Dan do Siop y Pentan
O gord i gord roedd hen gân, a thrymedd
Hen donfedd ddiddiwedd Dafydd Iwan.
Laru wnes i ar lyrics tân a dΕ΅r
Di-stΕ΅r dihysterics.
O hynny mla’n, am gân, am gigs, ro’n i’n
Dyheu am anarci gwyllt y Manics.
Eurig Salisbury (9.5)
Talybont
Mae Hyddgen lond ein pennau – a brwydro
heno’n ein calonnau.
O arf i arf yn cryfhau – ein gilydd;
y cloddiau ufudd yn dal cleddyfau.
Rhes ar res o ddynion rhydd – a’r angerdd
mewn rhengoedd aflonydd;
dialedd lond y dolydd – yn aros,
yn gwau hwyrnos drwy bicellau’r gwernydd.
Gwelaf ar greigiau heulwen – chwa o wynt
a’i farch ef ar gefnen.
A’r gwaed ar y garreg wen – yn ceulo
a rhydu heno ar lafn rhedynen.
Gwenallt Llwyd Ifan (10)
Pennill ymson mewn stiwdio recordio
Y Glêr
Rhof eiriau gwych ‘Mor fawr wyt ti’
Ar Beats gan Dr Dre,
Mae’r angladd yn y crem ddydd Llun …
Be, wir, all fynd o’i le?
Hywel Griffiths (8.5)
Talybont
Dwylo Dros y Môr
Dacw Bryn a dacw Caryl,
Dacw Meic ac Elin Fflur
Dacw Emyr Wyn a Tecwyn,
A Rhys Meirion, denor pur.
Er i’m geisio cadw’r nodyn,
Ac ymestyn ana’l prin,
Mae’n rhy hwyr i mi gyfadde,
Mod i ’ma i wagio’r bin.
Phil Davies (8.5)
Cân ysgafn: Swydd dros dro
Y Glêr
Fe fûm yn gweini tymor
Mewn dinas fach un haf,
A dyna’r jobyn rhwyddaf
A gefais ac a gaf,
Ychydig oriau o gomíwt
Yn ôl a ’mlaen o Frwsel – biwt.
Y gwirion-ddoeth, chwi welwch,
Sydd drech na’r uchel-drem,
Y mwya’ a gawn o lwyddiant
Po leiaf oedd o glem,
I mewn yr awn yn waglaw falch
A mas drachefn, yn reial gwalch.
Ond mêl i gyd nid ydoedd,
Bu’n rhaid cael ambell flits
O weithio yn niffeithwch
Y ffosydd gyda Fritz
Am un prynhawn, cyn mynd sha thre
Yn ôl i Blightey erbyn te.
Ond och o’r holl obeithion!
F’ymdrechion dwysion drud,
Y fargen fach a dorrodd
Er gwaetha’r rhain i gyd.
Eurig Salisbury (8.5)
Talybont
Mae’r Steddfod yn Nhregaron, ac rwy’n chwilio gwaith dros dro,
Ond am na allaf nofio sdim lot o obaith sbo,
Cael swydd fel ‘lifeguard’ am wythnos gron
Ar gorsydd parcio Min-y-Don.
Ces swydd dros dro y llynedd yn gwarchod Alun bach
Ar feysydd Sioe Llanelwedd, rhag ofn fod yno strach,
Rôl deuddydd cefais i y sac
Am ffindio lle i’w iwnion jac.
Roedd Dafydd Morgan Lewis yn hysbysebu ddoe
Am help i gyfansoddi, a ffoniais ef yn glou.
Diflannu wnaeth ei fwynder, wir,
Nid oedd fy nghân i’n ddigon hir.
Ymgeisiais am swydd model mewn salon yn y dre,
Rhyw fardd oedd yno’n eistedd yn barod, yn fy lle.
Fe’m brifwyd gan eu triniaeth hallt,
Cadeiriwyd Eurig am ei wallt.
Sdim ishe anobeithio,
Mae un swydd fach ar ôl,
Sef gyrru Dic y Rhedyn,
I lawr i’r pub a nôl.
Phil Davies (8.5)
Llinell ar y pryd: Heno’n dal o dan y don
Y Glêr
Y mae’r muriau ym Meirion
Heno’n dal o dan y don
(0.5)
Talybont
Heno’n dal o dan y don
Aethost a’n holl obeithion
(0.5)
Telyneg: Ailgydio
Y Glêr
Glynu’n y gwlith mae arogl espresso
wrth hudo beicwyr i gaffi Parc Bute.
Darlleda’r adar FM eu radio’n
gyfeiliant i bob un tracwisg a siwt.
Mae’u jingl hamddenol o’r hen hen gorpws
yn datgan ein hollbresenoldeb crwn
ar fore braf. Ond pwy all ddal ffocws?
Mae meddyliau yn sgathru. Taniwyd gwn
o ddopaminau. Dwi’n ddiamynedd;
yn erfyn cysur y sgrin, neu ffromi’r
llinell amser. Trwy’r amser. Fy mysedd
aflonydd eisiau hit fel hit coffi,
nes bod rhyw gryndod yn rhigol y dydd
a neb ond y gwlith a’r heulwen yn rhydd.
Osian Rhys Jones (9.5)
Talybont
Tan haf poeth
Gwreichionyn a’i cyneuodd,
hedyn o olau a dasgodd i’r gwrych.
Ers torri’r coed
gorewddai’r ffrwcs
yn annibendod; aelwyd i’r fflamau.
Gwelwyd y gwres yn mudlosgi’n yr hwyr
ac yn ailgydio’n fwglyd yn y bore.
Ond mae trachwant tân yn drech na’i hun
ac yn ei dymer, fe lwgodd.
Diferyn a’i ddiffoddodd
hedyn o wyrddni a dasgodd o’r pridd.
Phil Thomas (9)
Englyn: Tirlithriad
Llosgfynydd Anak Karakatau, Rhagfyr 2018
Ddoe, dros orwel yr heli – y llanw
Pellennig fu’n berwi;
Heddiw, mae’r don yn boddi
Glan môr y galon i mi.
Hywel Griffiths (10)
Talybont
O grynhoi y graean hwn – i lithro
ar lethrau, fe wthiwn
’chydig o gerrig, a gwn -
awn o filoedd i filiwn.
Gwenallt Llwyd Ifan (9.5)