Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Wyau Pasg Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg
Lynda Ganatsiou, Cymraes o Wlad Groeg yn son am bob math o ddefodau diddorol yn ystod wythnos o addoli a dathlu - heb anghofio'r wyau cochion

Dydd Gwener Ebrill 28, 2000

Y Pasg - Pascha - ydy'r pwysicaf o'r gwleddoedd crefyddol Groegaidd. Ond nid yw'r Pasg yma yn cyd-ddigwydd a'r Pasg Catholig a'r Pasg Protestannaidd.

Y rheswm yw fod yr Eglwys Uniongred yng Ngwlad Groeg yn parhau i ddefnyddior calendr julian i amseru'r Pasg ac mae na dipyn o anghysondeb sut mae misoedd y lleuad yn cael eu cyfrif.

Eleni, mae'r Pasg Groegaidd wythnos ar ôl y Pasg Catholig a Phrotestannaidd. Weithiau, gall fod gymaint a mis yn ddiweddarach. Dim ond unwaith bob pedair mlynedd y maent ar yr un diwrnod.

Mae'r wythnos Sanctaidd a'r Pasg ei hunan yn cynnig cyfle heb ei ail i rannu rhai o funudau mwyaf cyffrous addoliad yr Uniongred a thraddodiadol ac, yn wir, i ymuno â thraddodiad sydd wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros ddwy fil o flynyddoedd bellach.

DYDD SUL Y BLODAU:
(ton Vayion) - y Sul cyn y Pasg addurnir yr eglwysi a changhennau palmwydd, llawryfen a myrtrwydd. Mae rheolau cyfyng ymprydio yn cael eu llacio ychydig ac y mae pysgod ffres neu bysgod wedi eu halltu yn cael eu bwyta.

Cawl penfras sy'n cael ei fwyta gan amlaf gyda'r wledd yn ein hatgoffa o fynediad buddugoliaethus yr Iesu i Jerwsalem ar ôl cyfodi Lasarus o farw yn fyw.

Mae'r pysgodyn yn symbol pwysig gan fod llythrennaur gair Groegaidd am bysgodyn (ichthys) yn gwneud y geiriau Isou Christos, Theou, Yios, Sotir (Iesu Grist, Duw, Mab, Ceidwad).

Hwn oedd arwydd a gair cyfrinachol y Cristnogion cynnar yn ystod eu herledigaeth gan Rufain.

Dyma'r dydd mae menywod or enw Vaya yn dathlu eu henw.

DYDD LLUN: Cychwyn yr wythnos olaf o ymprydio gostyngedig a chadw defodau yn arwain at y Dioddefaint. Bydd hyd yn oed bobl llai duwiol yn ymatal rhag bwyta cig, wyau a chynhyrchion llaeth. Nid yw plant bychain yn yfed llaeth ychwaith! Mewn ambell i gartre, mae hyd yn oed olew yr olywydden a gwin yn cael eu cadw o'r bwrdd.

DYDD MAWRTH:
Cysegrir gwasanaeth y dydd hwn i ddarlleniadau o'r ysgrythur at Mair Magdalen. Mae'n draddodiad i'r gwragedd wyngalchu eu tai, yn ychwanegol at ffiniau'r palmentydd a ffiniau'r coed.

DYDD MERCHER SANCTAIDD : Yn gysegredig i eneinio'r ffyddloniaid ag olew sanctaidd (effthelio). Bydd yr addolwyr yn cael peth o'r olew i fynd adre gyda nhw, er mwyn eneinio aelodau eraill y teulu ac unrhyw eicons crefyddol sydd ganddynt yn eu tai. Defnyddir sbrigyn o oregano i wneud hyn. Gosodir y rhain ger yr eicon teuluol, lle y'u cedwir ar gyfer argyfyngau gan y credir fod iddynt rymoedd iachau.

DYDD IAU SANCTAIDD:
Cychwyn llawer o baratoadau ar gyfer gwledd y Pasg. Addurnir yr eglwys mewn du, ar offeiriaid mewn urddwisg ddu a chroes arian. Darllennir darnau or ysgrythur yn cyfeirio at y Swper Olaf a dilynnir hyn gan gymundeb i'r bedyddiedig ffyddlon. Caiff hyd yn oed y plant ieuengaf gyfranogi.

Gweinyddir cymundeb ar lwy yn cynnwys darn o fara sanctaidd ynghyd a'r gwin. Dymar diwrnod mae'r wyau coch traddodiadol yn cael eu lliwio.

Maer lliw coch yn arwydd o waed Crist ar wy ei hun yn hen arwydd or a)byd, b)ail-enedigaeth, c) ffrwythlondeb.

Bydd llawer o bobol nid yn unig yn lliwio'r wyau'n goch ond yn eu haddurno. Gwneir cynlluniau o gwyr ymlaen llaw, cyn eu lliwio. Bydd rhai yn rhwymo'r wyau mewn croen wniwn coch. Dull poblogaidd arall yw defnyddio dail ffres neu blodau mewn tamaid o hosan neilon fel bo argraff o'r dail ar yr wy.

Dymar dydd y gwneir bara, teisiennau a bisgedi arbennig. Maent yn fras ac yn felys a defnyddir burum i wneud iddyn nhw godi ac, wrth gwrs, perlysiau.

Plethir y bara a'u haddurno ag wy coch ac almon.

Enwr bara yma ydy "tsoureki" ond os nad ydych mewn hwyliau pobi gellir eu prynu o'r pobdy lleol. Bydd bisgedi eraill, "koulourakia" yn cael eu plethu mewn gwahanol ffurfiau hefyd.

Gwasanaeth yr hwyrnos yw un hiraf yr wythnos Sanctaidd gan gyfeirio at y deuddeg efengyl. Darllenir deuddeg gwahanol darn o'r ysgrythur i ddisgrifio Dioddefaint Crist. Ar ôl y pumed darllenir am y Croeshoeliad ei hun ac fe fydd croeslun o faint byw, gydag eicon or Crist Croeshoeliedig yn cael ei ddodi yng nghanol yr eglwys.

Bydd yr addolwyr yn ei addurno gyda thair cannwyll, a thorch o flodau a darllenir y saith darn ychwanegol sy'n cyfeirio at Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth.

Cyfraniad dwys iawn yw un y gynulleidfa gyda'r menywod yn geidwaid y groes yn cyduno a'r Fam Sanctaidd mewn galar trwy ganu emynau angladdol mewn gwyliadwriaeth syn parhau drwyr nos. Credir fod eneidiau y meirwon yn cael eu rhyddhau y noson hon a'r Iachawdwr yn disgyn i'r byd.

DYDD GWENER (Y GROGLITH):
Mynychir gwasanaeth syn disgrifio sut mae Crist yn disgyn o'r groes. Tan ddeuddeg o'r gloch, canol dydd, bydd y siopau a swyddfeydd ynghau fel bo pawb yn gallu mynd i'r eglwys.

Bydd y baneri hanner i waered a chlychau'r eglwysi yn canu cnul angladdol gydol y dydd. Nid ydy'r bobl yn bwyta llawer ar y dydd hwn ychwaith, dim ond ond plataid o ffa neu ffacbys. Cerddoriaeth glasurol sydd ar y radio.

Cynt, ni ddangoswyd rhaglenni o gwbwl ar y teledu yn ystod yr wythnos, dim ond gwasanaeithau'r eglwys ond erbyn hyn, mae pethau wedi newid a theledir ffilmiau sy'n cyfeirio at y croeshoelio.

Ychydig cyn ganol dydd, mae'r elor lle y gosodwyd corff Crist yn cael ei addurno a mantell aur a blodau îr yn cael eu gwau o amgylch yr "epitaphios" (math o arch wedi ei naddun fanwl).

Unwaith y gesid yr eilun corff ar ben hwn bydd yn sefyll yno hyd yr hwyr a'r gynulleidfa yn mynd heibio gan ymgrymu a chusanu "corff Crist".

Yna maent yn gwargrymu dan yr elor i dderbyn gras. Am tua naw fe fydd yr "epitaphios" yn cael ei gario allan o'r eglwys, a cychwynir yr orymdaith angladdol. Arweinir yr orymdaith gan gerddorfa sy'n chwarae ymdeithgan angladdol.

Dilynir y rhain gan gynrychiolwyr yr awdurdodau lleol o'r wladwriaeth neu'r dref, yna daw'r dorf pob un yn cario cannwyll. Mewn ambell i dref, ar y noson hon llosgir delw o Jwdas gyda'r lludw yn cael ei daenu dros feddaur meirwon.

Mae gan bob ardal ei harferion ar gyfer y diwrnod Sanctaidd hwn.

DYDD SADWRN SANCTAIDD: Mae trymder y diwrnodau blaenorol yn dechrau codi gyda gwasanaeth yr atgyfodiad cyntaf. Er mwyn dychryn cythreuliaid sy'n ceisio rhwystro'r atgyfodiad a iachawdwriaeth dynolryw, mae golygfa swnllyd yn cael ei chreu tu fewn i'r eglwys.

Defnyddir gweddill y dydd i gwblhau'r paratoadau am wledd y Pasg. Aberthir wyn a myn geifr gan wneud cawl arbennig or perfedd. Mageiritsa, ydy enw'r cawl enwog ac mae'n flasus dros ben, serch bod y cynnwys yn swnio braidd yn annymunol.

Glanheir cig y perfedd ar aelodau a'u hanner berwi cyn eu torri'n ddarnau bach, eu berwin araf, gan ychwanegu wynwyn îr, ffenigl a reis, ac ychydig cyn iddo fod yn barod saws wy-lemwn.

Fe fydd y cawl yma ynghyd a chaws newydd ei wneud, wyau cochion a'r bara arbennig yn cael eu difa yn union wedi i bawb ddychwelyd o'r gwasanaeth yr hanner nos.

Mae gwasanaeth arbennig yr atgyfodiad neu'r "anastasi" yn cychwyn tua deg o'r gloch y nos.

Ychydig cyn hanner nos, diffoddir yr oll o'r goleuadau fel symbol o dywyllwch y bedd: ond yn fuan fe welir offeiriad yn nrws yr eglwys, yn cario cannwyll, ac yn llafarganu "Dewch, cyfranogwch y goleuni, a gogoneddwch Grist sydd wedi atgyfodi o'r marw". Bydd un or gynulleidfa yn cynneu ei gannwyll o gannwyll yr offeiriad ac yna, pob un yn ei dro yn cynneu ei gannwyll ei hun o gannwyll ei gymydog, nes i bawb or gynulleidfa gael "golau".

Maen olygfa wych, a phawb yn ymuno yn y cyfnewid o gusanau a dweud y geiriau "Christos Anesti" (Crist a gyfododd). Oddi amgylch, bydd llawenydd mawr, a chlychaur eglwys yn canun orfoleddus, tân gwyllt yn cael eu ffrwydro a rhai yn hyd yn oed saethu tua'r nen a drylliau.

Dychwel yr offeiriaid i'r eglwys ac mae'r gwasanaeth yn mynd rhagddo. Wrth gwrs, dim ond y mwyaf duwiol sydd ar ôl erbyn hyn!!! Bydd y rhan fwayf wedi dychwelyd iw tai gan geisio cadw eu canhwyllau ynghyn. Y rheswm am hyn ydy eu bod yn mofyn bendithio'u tai.

Cyn mynd i mewn byddant yn gwneud arwydd y groes uwch trothwy'r drws gyda mwg y gannwyll. Eistedd i lawr yn union sydd nesa, gan fwyta'r swper traddodiadol. Erbyn hyn mae pawb bron a llwgu. Rhaid ystyried mai dyma'r pryd cyntaf wedi saith wythnos o ymprydio.

Y pethau cyntaf i gael eu bwyta ydy'r wyau cochion.

Cyn bwyta, fodd bynnag, mae pawb yn taro wy y person nesaf ato ymhlith bloeddiau o "Christos Anesti" "Alithos Anesti " "Chronia Polla" ("Crist a gyfododd", "Yn wir gyfododd" "Bywyd Hir"). Cystadleuaeth frwd yn awr wrth i bob person daro wy ei gymydog, gan geisio ei hollti heb hollti ei wy ei hun! Credir y bydd i'r buddugol lwc gydol y flwyddyn os llwydda i hollti wyau pawb syn bresennol.

Dyma un or arferion Groegaidd hynaf, syn mynd yn ôl i'r cyfnod y Byzantaidd, pan y credir yn union fel y maer cyw yn ymdarddu o'r wy, felly y bu Crist ymddangos o'r bedd.

DYDD SUL Y PASG:
Gwelir y teuluoedd i gyd yn eu gerddi ben bore, yn cynneu'r tanwydd lle bydd yr oen neu'r myn gafr yn cael eu rhostio ar gigwain.

Mewn ambell le, maer ddefod hon yn un gymdeithasol a chodir tân ar sgwar y pentre. Lle bynnag y bydd, maen cymryd oriau i bobi. Mae awyrgylch llawen yn cael ei gcreu wrth i bawb ymuno i yfed gwin, ouzo a bwyta "mezeddes"(i godi archwaeth) tra yn aros am y cig blasus. Bydd yna ddawnsio a chanu.

Mae'r prynhawn at wasanaeth arbennig yr "Agapi" (Cariad), ar efengyl o'r atgyfodiad yn cael ei darllen mewn sawl iaith fel arwydd o frawdoliaeth y cenhedloedd. Ar ddiwedd y gwasanaeth mae ffrindiau (a gelynion) yn cyfnewid "cusanau o gariad".

DYDD LLUN: Gwyl swyddogol (ail ddydd y Pasg y'i gelwir) ydy'r diwrnod yma. Mae pobl oedd i ddathlu eu henw yn ystod y Grawys neu'r wythnos Sanctaidd (Sant Sior, Ebrill 23) yn dathlu eu henw ar y dydd yma.

Kalo Pascha!





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy