Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dedfryd y gwylwyr awyrennau
Yr ymateb yng Ngwlad Groeg

Ebrill 30, 2002


Stori sydd o ddiddordeb arbennig i mi sy'n Gymraes yng Ngwlad Groeg ydi'r un yn ymwneud a'r "Gwylwyr Awyrennau" o Brydain.

Ar y dechrau ni roddais lawer o sylw i'r helynt a dweud y gwir nes cael galwad ffôn o'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yng Nghaerdydd, yn holi am ymateb y Groegiaid wedi i lys gael saith o Brydeiniaid yn euog o ysbio a saith arall, yn cynnwys dau o'r Iseldiroedd, yn euog o gynorthwyo i gasglu gwybodaeth gyfrinachol.

Beth yw'r broblem?

Yn ôl galwad ffôn arall a gefais o Gymru ni all pobl Prydain ddeall beth yw'r broblem gyda rhywbeth mor ddiniwed a gwylio awyrennau.

Un peth sy'n sicr yma yw fod y Groegiaid yn gyffredinol yn cydfynd a'r ddedfrydu o rhwng blwyddyn a thair blynedd o garchar gohiriedig a rhybudd gan farnwr i fod yn fwy gofalus yn y dyfodol.

Ni allai fy ffrind o Gymru, fodd bynnag, weld dim o'i le mewn gwylio awyrennau tra ar wyliau yng Ngwlad Groeg a hynny am nad oedd yn ymwybodol iddynt gael eu rhybuddio i beidio.

Tri pheth i'w hystyried

Rhaid cymryd tri pheth i ystyriaeth:

- Yn gyntaf, fod y llywodraeth yn bryderus am ddiogelwch y wlad am fod Groeg mewn lle strategol yn y Balcaniaid.

Oherwydd hynny mae yma draddodiad o reolaeth filwrol dyn yn enwedig oherwydd y ddadl diriogaethol â Thwrci.

- Yn ail, dydi gwylio awyrennau ddim yn rhywbeth cyffredin yng ngwlad Groeg a chan fod posibilrwydd i'r grwp ymweld â Thwrci wedyn dim rhyfedd i'r awdurdodau ymateb i'r peth.

- Ac yn dilyn Medi 11 y farn yma yw fod y llysoedd am wneud esiampl o'r bobl hyn er mwyn dangos i eraill fod y wlad yn ddiogel a than reolaeth lem.

A chan mai yma y bydd y Campau olympaidd yn 2004 mae Groeg yn ymwybodol iawn fod llygad y byd arni y dyddiau hyn.

Dim llawer o sylw

Yng Ngroeg ei hun ni chafodd yr helynt fawr o sylw a hynny, mae'n debyg, oherwydd nad yw'r Groegiaid yn gweld y gosb yn un hallt yn enwedig o gofio fod 25 mlynedd o garchar yn bosib.

Felly, lle i fod yn ddiolchgar sydd gan y gwylwyr awyrennau.

Yn ôl yr hyn a glywaf o Brydain cawsant groeso "arwyr" a'r argraff yn cael ei roi fod Groeg yn wlad anghroesawus ond heb glywed y ddwy ochr dydi hi ddim yn deg dod i'r casgliad yna.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy