Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Nicholas Cage Antur wrth gael gwared a char dros y ffin
Milwyr a gynnau yn casglu o'n cwmpas

Dydd Gwener, Gorffennaf 21, 2000

gan
Lynda Ganatsiou
yn sgrifennu o Thessaloniki


Dechreuodd pethau dwymo yn gynnar yng Ngwlad Groeg eleni. Nid yn unig gan fod yr haf crasboeth yr ydych wedi clywed amdano wedi cyrraedd ond, hefyd, oherwydd i Nichols Cage (cipiwr gwobr Oscar) gyrraedd ynys Ceffalonia!

Bu cynnwrf mawr pan gyrhaeddodd ef a Penelope Cruz a'u criw ffilmio ddechrau Mai i ffilmio Mandolin Capten Coreli.

Cynhyrchiad uchelgeisiol yn cael ei saethu ym mhentrefi Sami a Fithalia.

Byddant yno tan ddiwedd Awst ond yr oedd sôn o'r cychwyn i Cage gael ei hudo gymaint gan yr ynys ei fod yn bwriadu prynu ty yno!

Bu hyn yn fodd i ddenu llawer o deithwyr yr haf hwn i'r ynys fechan hon ar ochr orllewinol y wlad ym môr yr Ionia. Ta waeth, a hithau'n dymor gwyliau y cwestiwn yw: "I lle yr awn eleni?"

"Rhaid mynd ymhellach na Phorthcawl bid siwr gan i Twm y Post fynd i Torremolinos y llynedd, a Dai Tan y Bryn a'i wraig i Majorca.

Mae'r swyddfeydd teithio yn llawn o lyfrynnau a phamffledi lliwgar - digon i godi cenfigen arnoch.

Ond un peth yr wyf wedi sylwi arno yw bod dau le nad ydynt byth yn cael eu cyhoeddi. Os oes diddordeb gennych - mynnwch baned a darllen yr hanes. . .

Uffern a Nefoedd ywr ddau le.

Un flwyddyn, ymhell yn ôl, ar ddechrau fy nyddiau yng ngwlad Groeg daeth trwydded cadw fy ngar (gyda rhif tramor arni) i ben. Rhaid oedd talu swm mawr o arian i gadw "Betsi".

Arweiniodd hynny at daith i Uffern.
. .

Gan fod y swm bron cymaint ag yr oeddwn wedi ei dalu am y car yn y lle cyntaf ymatebais braidd yn negyddol gan dyngu na fyddai'r gyfraith yn cael y gore arnaf.

Yn anffodus, nid oedd hawl gennyf i werthu'r car ond i'r awdurdodau - a hynny am ryw swm bitw.

Mynd i werthu yn Iwgoslafia

Wedi fy nghyffroi, ac yn teimlo'n ddicllon penderfynais gyda ffrind or Alban fynd â'r car i'w werth yn yr hen Iwgoslafia. Roeddem ein dwy yn llawn gobaith a heb weld unrhyw rwystr.

Wedi rhai oriau o deithio daeth chwant bwyta felly dyma ni'n sefyll mewn gwesty i archebu rhywbeth.

Nid oedd yn hawdd o gwbwl cyfathrebu ar crwt oedd yn gweini arnom ac nid oedd dim mewn Saesneg ar y rhestr.

Rhyw gymysgedd seimllyd a gawsom ond gan ein bod mor llwglyd 'doedd fawr o ots gennym am hynny!

Wedi llanw'n boliau, dechreusom egluro i'r crwt fod gennyf gar yr hoffwn werthu a chyn bo hir, 'roedd dyn wrth ein bwrdd bwyta yn dangos diddordeb mawr yn Betsi.

Yn anffodus, nid oedd ganddo'r hawl a byddai'n rhaid i'r drafodaeth gymryd lle unwaith yr oedd wedi nosi - a ninnaun gorfod gyrru'r car i'w fodurdy lle byddai'n talu inni ar y farchnad ddu.

Cododd hyn ychydig o fraw arnom. Beth pe byddai'n ein cloi yn y modurdy a'n llofruddio?

A neb yn darganfod ein cyrff am ddiwrnodau.

Neu beth pe byddai yn ein bradychu a dweud wrth yr Heddlu ein bod yn gwerthu ar y farchnad ddu.

Daeth ofn arswydus trosom.

Rhaid oedd dychwelyd at gynllun B.

Rhywun yn ein dilyn

Wedi teithio ychydig o filltiroedd dyma sylweddoli fod rhywun yn ein canlyn a dyma fi'n dechrau rasio a llwyddo i'w golli wedi imi yrru fel Nikki Lauder.

Pan ddaethom, o'r diwedd at gae mawr eang penderfynwyd mai'r peth gorau yn awr fyddai gadael y modur yno, llosgi'r papurau a datgysylltu'r rhif fel na fyddai neb yn gwybod o ble y daeth y car a phwy oedd ei biau

Llosgi'r papurau oedd y penderfyniad mwyaf gwallgof a wnes erioed!

Canol haf oedd hi ar cae yn sych ar ôl dyddiau heb law. Angen dwr, nid tân oedd ar y lle! Ond rhy hwyr dyna'r tân yn dechrau ymledu yn afreolaidd.

A ninnau'n tynnu ein siacedi i'w ymladd er mwyn cael dychwelyd i ddiogelwch ein cartrefi gynted a phosib.

Wrth ddefnyddio pob gronyn o nerth daeth pethau dan reolaeth.

A'r peth mwyaf difyr oedd mai dyn tân oedd tad fy ffrind !!!

Er ein bod yn chwys bwdin o wres y tân ar haul didrugaredd arnom yr oeddem yn teimlo i bwysau mawr gael ei godi oddi ar ein hysgwyddau.

Roedd ein hantur bron ar ben 'does bosib.

Nac oedd wir!

Pedwar milwr a gynnau

Nid oeddem wedi sylwi ar y pedwar oedd yn cerdded tuag atom.

Y peth nesa oedd, ein bod wedi ein hamgylchynu gan bedwar o filwyr gyda reiffl pob un wedi eu hanelu atom.

Nid oeddem yn deall dim a ddywedwyd ond, "Tito, Tito."

Yr adeg honno, Tito oedd yn rheoli'r wlad.

Dechreusant ein holi, a ninnau'n ateb mewn gwahanol ieithoedd iw drysu.

Lwc mai or Alban yr oedd fy ffrind achos ni allent ddeall ei Saesneg acennog o gwbl.

Dechreuais innau barablu bymtheg yn y dwsin mewn Cymraeg a chwifio fy nwylo, codi fy ysgwyddau a thynnur wynebau mwyaf anneniadol a welsoch erioed.

Yn ara bach fe ddechreusom gerdded oddi yno; a hwythau'n gwneud arwyddion i ni fynd yn ein blaen.

Cerdded i ryw bentre wnaethom, a cheisio ffonio i wlad Groeg.

Buasech yn tybio mai ceisio ffonio pen drawr byd oeddem ni er bod y ddau le y drws nesaf iw gilydd!

Nid oedd modd ffonio'n syth; rhaid oedd i'r galwad fynd i'r brifddinas yn gyntaf ac oddi yno i wlad Groeg.

O'r diwedd cawsom siarad ond roedd y lein yn wael, a ninnaun gweiddi nerth ein pennau.

Mae'n debyg inni gollir tren i Thessaloniki (un y dydd oedd yna) ac felly bu'n rhaid inni gerdded bob cam yn ôl ir ffin. Lwc dda na ddechreuodd yr awdurdodau fan yma holi natur ein hymweliad. Roedd y ffaith taw Prydeinwyr oeddem, yn gadael i ni hwylio dros y ffin o uffern i'r nefoedd.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy