Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Vicki a'i rhieni Cyfarfod â Seren Thermi !
Rhyw dair blynedd yn ôl, cafodd Thermi - y dref fechan yr wyf yn byw ynddi, ar gyffuniau Thessaloniki - ei huwchraddio o fod yn bentref i fod yn dref. Erbyn hyn mae yno 12,000 o drigolion.


Nid yw'n annhebyg i Bontarddulais lle cefais fy ngeni gyda phawb yn adnabod ei gilydd ac yn gwybod busnes ei gilydd.

Nid yn aml y cawn ein anrhydeddu â rhywun enwog yn byw yn ein plith, ond un diwrnod pwy â welais yn sefyll y tu allan i'r ffwrno ond Vasiliki Kasapi y person pwysicaf yn y dref ar hyn o bryd - gan gynnwys y Maer!!

Merch 19 oed ydy Viki, sy'n prysur wneud enw iddi'i hun yn codi pwysau. Yn ôl yn yr haf fe enillodd hat-trick yng Nghampwriaeth y Byd yng ngwlad Tsiec gyda medal arian am ddod yn ail yn nosbarth y gystadleuaeth Snatch, a medal efydd gan ddod yn drydedd yn y gystadleuaeth Jerk ac un efydd arall am ddod yn drydedd o bawb.

Medalau aur
Erbyn diwedd y llinell yr oedd wedi ennill tair medal aur ieuenctid Ewropeaidd yn Sardinia ac ar sail ei pherfformiad drwy gydol y gystadleuaeth, hi oedd y ffefryn.

Enillodd aur am ddod yn gyntaf yn nosbarth y Snatch, wedi codi 115 cilo ac un arall am ddod yn gyntaf yn y dull Jerk trwy godi 140 cilo. Y cyfanswm am y ddau oedd 255 cilo, ac fe gafodd ei thrydedd medal aur am fod yn well na phawb arall.

Proffwydodd y papurau a'r teledu ddyfodol disglair iddi gan gynnwys llwyddiant yng Nghampau Olympaidd Athen, 2004.

Dydi codi pwysau ddim yn rhywbeth yr wyf wedi ymddiddori ynddo tan hyn ond y mae gweld un o fy nghyd-drigolion yn gwneud cystal yn creu diddordeb. Gan amlaf, gweld y bobl hyn ar y teledu ydy diwedd y gân felly roedd yn achos cryn gyffro i weld Viki wyneb yn wyneb ar y stryd a chael ei llongyfarch a dymuno'n dda iddi yn Athen. Cawsom sgwrs eithaf hir gyda nifer o bobl yn torri ar ein traws yn gyson, er mwyn ei llongyfarch a dymuno'n dda iddi neu'n gofyn am ei llofnod.

Er ei bod, mae'n siwr, yn cael yr un cwestiynau byth a hefyd yr oedd Viki, yn parhau'n foesgar a chyfeillgar. Buom yn siarad am ei hymdrech yn Sardinia. Dywedodd wrthyf ei bod yn hapus iawn âr tri medal ag enillodd, ond gallai fod wedi codi mwy o bwysau yn y ddau cynigiad. Yn wir, fe gwblhawyd y dymuniad hwn yn y gystadleuaeth nesa ym mis Rhagfyr, yng ngwlad Pwyl. A welsoch fi'n wylo, Lynda? meddai ,pan dywedais wrthi fy mod wedi ei gweld ar y teledu.



Viki a'i medalauYn groten garedig ac anhunanol cyflwynodd y medalau a enillodd yn Sardinia i'w chyd gystadleuydd, Katerina Rodditi, na allodd gystadlu oherwydd anaf er iddi dorri'r record Roegaidd.

Pymtheg oed oedd hi pan sylweddolodd ei hyfforddwr fod dyfodol iddi ac y mae hefyd yn taflu'r waywffon a gosod ergyd a phwysau ac y mae yn nhîm Cenedlaethol Groeg ers 2000 dan hyfforddiant Christos Iacofou sy'n ysbrydoli pawb!

Colli - ac ennill ffrindiau
Gyda'r holl ymarfer, ni fu ganddi'r bywyd cymdeithasol yr hoffai gael, a bu hyn yn rheswm iddi golli cysylltiad â llawer o'r ffrindiau oedd ganddi yn Ysgol Uwchradd Thermi. Ar y llaw arall gwnaeth nifer o ffrindiau newydd nid yn unig yn y tîm, ond yn y sesiynau ymarfer ac hyd yn oed gyda merched o wledydd eraill sy'n cystadlu yn ei herbyn. Mae'n golygu bod ffwrdd o gartref am fisoedd ar y tro hefyd.

Rwyf wedi dysgu na ellir cael y melys heb y chwerw hefyd, meddai. Braf ydy cael eich enw wedi galw allan yn fuddugwr, codi ar y pedestl a chael medal o amgylch eich gwddf. Dyma'r funud yr ydych wedi bod yn sefyll amdano. Rydych yn gwybod fod miloedd ar filoedd yn eich dilyn ar y teledu. Dyma eich eiliad chi o ysblander, gogoniant, a buddugoliaeth.

"Rydych yn clywed y gynulleidfa yn curo dwylo, gwelir hwy yn codi a sefyll mewn parch tuag atoch. Mae'r dorf i gyd ar eu traed, ac yna mae'r faner gwyn a glas yn codi. Erbyn hyn rwyf mewn rhyw ebargofiant, ond nid oes dim yn rhoi mwy o fwynhad i mi na chlywed yr anthem genedlaethol yn cael ei chwarae. Wir, does dim i'w gymharu â'r gorfoledd sy'n llenwi eich enaid ar y funud bythgofiadwy honno.


Viki

Ar y llaw arall rhaid dysgu derbyn methiant. Pryd mae'n bwysig cael cyd-gystadleuwyr wrth eich hochr. Dyna wir gyfeillgarwch: yr eiliad pan yw'n teimlo'n wan a nhw yno i'ch cynnal.

Os na fyddaf yn llwyddiannus, mae bod yn aelod o'r tîm yn brofiad eithriadol o bwysig, ar siawns i gynrychioli fy ngwlad yn fraint fawr a chael medal aur i mi fy hun, meddai.

Y funud nesaf torrodd swn canu corn ar ein traws gyda'i mam Effi, ai thad Miltiaddis yn cyrraedd a'r ddau yn datgan fod unrhyw lwyddiant i Viki yn llwyddiant iddynt hwythau hefyd. A daeth yn bryd i mi ffarwelio a dymuno'n dda i'r ferch wylaidd hon sydd wedi dod â chymaint o fri i'n tref fechan ni.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy