Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Wy coch ac oen rhost
Lynda Ganatsiou yn rhoi inni ychydig o flas y Pasg Groegaidd gyda'i wyau cochion a'i wyn rhost

Gyda dyfodiad y gwanwyn mae'r Groegiaid yn paratoi i ddathlu'r Pascha sy'n cael ei hystyried yr wyl bwysicaf yn y wlad.

Mae pwysigrwydd y Pasg Uniongred yn yr wythnos sy'n arwain at y digwyddiad yn hytrach na'r wyl ei hun

Addurno â blodau
Caiff unrhyw un sy'n ymweld ag eglwys ar ôl canol dydd, ddydd Gwener y Groglith, gan ddisgwyl gweld gwasanaeth ei siomi!

Bydd dau wasanaeth maith, yr ail yn coffau y disgyniad o'r groes yr apocathilosi neu'r dadhoelio, eisoes wedi eu cynnal yn y bore a dim ond elor Crist wedi ei addurno â blodau epitaffios fydd ar ôl yn yr eglwys ar gyfer eu cario o gwmpas y plwyf ac, yn hwyrach yn y nos, o amgylch y pentref neu'r dref.

Yn wir, mae hon yn orymdaith sy'n creu argraff ar bawb a'i gwel.

Mae yna bob amser groeso i ymwelwyr fynychu'r gwasanaethau sy'n parhau am o leiaf deirawr.

Ond mae peryg inni anghofio fod llawer mwy o draddodiadau yn cael eu dilyn yn y pentrefi anghysbell.

Ar y Iau mae'r Groegwyr yn ail greu'r Croeshoeliad gyda ffurf Crist ar y groes yn cael ei godi yng nghanol yr eglwys.

Yn dilyn hyn daw merched â thorchau o flodau i'w hongian ar freichiau'r groes a'u gosod wrth ei throed.

Bydd y ffyddlon yn cusanu traed Crist yn ogystal â cherflun o'r Forwyn Fair yn galaru a'i haddurno â blodau pêr eu arogl.

Fore'r Groglith - Megali Parascefi bydd gwasanaeth tebyg yn cyrraedd ei uchafbwynt pan fydd hoelion yn cael eu curo allan o dwylo Crist a'i gorff yn cael ei rwymo mewn lliain gwyn i'w gario i mewn i gysegr yr offeiriad.

Bydd yntau'n dychwelyd gan ddwyn lliain trwm yn uchel ac mewn eglwysi gyda llofft fydd cawod o betalau rhosyn yn disgyn wrth i'r lliain fyned heibio.

Yna, fe'i gosodir ar elor wedi ei addurno â blodau dan y groes gydag ond y goron ddrain a gwregys porffor arni.

Y gynulleidfa'n cusanu
Wrth fynd heibio bydd y gynulleidfa'n cusanu'r Efengyl a'r cerflun.

Yn yr hwyr, ar ôl gwasanaeth arall, bydd gorymdaith gyda'r elor epitaffios o amgylch y pentref a'r bobl yn cario canhwyllau o gwyr.

Diwrnod o ddisgwyl yw'r Sadwrn Sanctaidd gyda'r gwragedd yn gorffen pobi bara arbennig wedi eu haddurno â wyau cochion yn arwydd o waed Crist ac o fywyd newydd ar ôl yr Atgyfodiad.

Paratoir cawl arbennig - magiritsa - o berfedd oen neu'r afr.Ar ddydd Gwener y Groglith, y bwyd traddodiadol ydy llysiau wedi eu berwi neu ffacbys a finegr gyda'r ffyddloniaid wedi ymwrthod â chig am y 50 niwrnod o'r Grawys, ac ar bob ddydd Mercher a Gwener, yn osgoi llaeth caws a iogwrt.

Erbyn yr Wythnos Sanctaidd felly, dim ond hepgor olew fydd raid gan ddefnyddio olew tahini a'r halfa melys yn lle'r olew arferol.

Erbyn hyn, bydd lladd wyn yn olygfa gyffredin a dynion yn prynu glo a chigwain newydd ar gyfer rhostio wyn cyfain.

Christos Anesti - Crist a Atgyfododd
Bydd yr eglwysi yn orlawn ar gyfer gwasanaeth yr Atgyfodiad ar y nos Sadwrn gyda'r rhai a gyrhaeddodd yn hwyr y tu allan gyda'u canhwyllau.

Tua 11.40 diffoddir goleuadau'r eglwys gyda'r offeiriad yn dangos fflam newydd y Pasg ar ffurf cannwyll driphlyg.

O hon goleuir canhwyllau'r gynulleidfa nes bydd yr eglwys yn olau eto!

Mewn trefi a chanddynt borthladd fel Thessaloniki lle'r ydw i'n byw bydd y llongau yn ychwanegu at y swn trwy ganu eu cyrn.

Bydd teuluoedd a ffrindiau yn cusanu ei gilydd ac yn cyfnewid cyfarchion a bydd hyd yn oed yr anghrefyddol yn cael eu cyffwrdd a'u cyffroi gan gynnwrf yr achlysur.

Fe fyddan nhw hefyd yn mwynhau'r swper traddodiadol tua un o'r gloch y bore bach gyda Magiritsa o berfedd yr oen, salad, caws, bara , gwin heb anghofio'r wyau.

Bydd eraill yn sefyll yn yr eglwys er mwyn derbyn y Cymundeb Sanctaidd yn oriau mân y bore.

Cyfle i fynd i ffwrdd
Bydd llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i ddychwelyd i'w pentrefi neu o leiaf ffoi i'r wlad - er y gellir dod o hyd i wasanaethau bythgofiadwy yn y dinasoedd mawrion hefyd.

Gyda dyfodiad Sul y Pasg gwelir teuluoedd yn y wlad yn rhostio wyn y tu allan y mwyafrif dros dwll mawr o farwor tanbaid gyda chymdogion sy'n digwydd mynd heibio yn blasu'r meseddes neu cocoretsi - afu , wyau coch, bara, gwin neu gwrw, heb anghofio y tafelli cochddu cyntaf o'r oen.



Bydd yr wyau coch yn cael eu malu mewn rhyw fath o gystadleuaeth gydag un yn erbyn y llall yn eu dal mewn dwrn caeedig a'r sawl sydd ag wy heb dorri yn fuddugol.

Weithiau, os nad ydynt wedi eu berwi ddigon maen nhw'n torri'n rhy hawdd.

Rhan hanfodol o'r gwledda yw miwsig uchel a dawns tra'n disgwyl yn amyneddgar am y cig blasus.

Y diwrnod canlynol cynhelir gwasanaeth o gariad agapi yn yr eglwys, gyda'r offeiriad yn rhannu wyau cochion i'r gynulleidfa.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy