Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ennill Cwpan Ewrop
Dydd Llun, Gorffennaf 5, ac mae hi'n boeth yng Ngwlad Groeg wedi i'r wlad gyflawni'r annisgwyl yn Ewro 2004 meddai Lynda Ganatsiou:



Helo 'na Gymru !
Mae'n boeth yma yng Wlad Groeg - nid yn unig oherwydd i'r thermomedr godi i eithafion ond oherwydd yr awyrgylch sydd yma wrth inni ddod yn fuddugol yn gêm derfynol Cystadleuaeth Ewrop 2004 UEFA a churo tîm Portiwgal.

Er fy mod yn hoff o bêl-droed, ond a minnau'n dod o Bontarddulais yn wreiddiol nid yw ond naturiol mai dilyn y bêl hirgron fydda i fel rheol.

Ond yr wythnos hon gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth nad oedd y gorfoledd a'r gwladgarwch a brofais ym Mharc yr Arfau a Twickers yn ddim o'i gymharu â'r nwyd a lifai trwy wythiennau pobl Groeg pan chwythwyd y chwiban olaf nos Sul a hwythau yn Bencampwyr Pêl-droed Ewrob 2004.

Pe byddai Max Boyce yma fe fyddai'n canu, Duw 'na le!

Ond nid Oggie! Oggie! Oggie! a glywyd ond yr O-le! O-le! O-le! O-le!........O-le! O-le!

Sut bynnag, gyda'r holl derfysg sydd wedi bod yma yn ddiweddar nid oedd dewis gennyf ond ildio i gael fy ngorfodi i eistedd o flaen y bocs i wylio'r pêl-droed ac yr wyf wedi dilyn y tîm o'r cychwyn cyntaf a hynny heb gael fy siomi er eu bod 100 i 1 ar ddechrau'r gystadleuaeth!

Rhaid cyfaddef imi fwynhau pob munud o'r gemau iddynt chwarae.

Gyda chymaint o bethau negyddol yn cael eu dweud am drefniadau'r Gemau Olympaidd, mae'r ffaith i Groeg wneud cystal yn y gystadleuaeth hon yn foddion i bawb a chan nad oedd gan Gymru dîm i'w gefnogi roeddwn innau'n cefnogi y wlad sydd wedi fy mabwysiadu gan deimlo'n falch fy mod yn byw yma y dyddiau diwethaf 'ma.

Pawb mewn hwyliau da
Roedd awyrgylch rhyfeddol ledled y wlad pan gyrhaeddodd y tîm yr wyth olaf ac yn fwy fyth pan ddaethant i'r prawf cyn derfynol heb sôn am gyrraedd y gêm derfynol.

Bu dathlu ym mhob cwr o'r wlad o gopa'r mynyddoedd at y môr; o'r tir mawr i'rr ynys bellaf.

Pob congl o'r de i'r gogledd, o'r gorllewin i'r dwyrain wedi eu uno a phawb mewn hwyliau da.
A neb, ledled Ewrop, yn disgwyl iddynt fynd yr holl ffordd gan gynnwys y Groegiaid eu hunain credwch fi.

Ond pan ddigwyddodd roedd holl uffern yn rhydd ar y strydoedd!!!!

A chan fod enw pob chwaraewr yn nhîm Groeg yn gorffen â'r llythyren "S" dywedai rhai mai hynny fu'n argoel dda!

O nerth i nerth
Gyda'r llwyddiant yn erbyn y Ffrancwyr dan eu cesail atgyfnerthwyd ffydd y bobl ar gyfer y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec gyda miloedd o Roegiaid yn gadael am Oporto i gefnogi tîm cenedlaethol bad oedd llawer ohonynt yn gwybod dim amdano cyn hyn!

Ar deledu gwyliwyd y tîm yn mynd o nerth i nerth a chyn gynted a'u bod wedi dychwelyd i Wlad Groeg roedd cefnogwyr yn prynu tocynnau i ddychwelyd i Lisbon i weld y gêm derfynol.

A'r gwir amdani oedd y byddai bron bawb wedi bodloni ar golli yn erbyn y Tsieciaid gan fod yn ddiolchgar o gael mynd cyn belled â hyn.

A'r neges o'r wlad i'r chwaraewyr oedd eu bod yn enillwyr, beth bynnag y canlyniad, yn llygaid pawb gartref a phe heb ennill neithiwr ni fyddai neb yn grwgnach gan eu bod eisoes yn ystyried y bechgyn dduwiau.

Ond yn haeddu clod hefyd mae'r hyfforddwr o'r Almaen sy'n gofalu am y tîm cenedlaethol, Otto Rehhagel.

Angelos Charisteas

Trwy ei ddyfal waith a'i amynedd ef i greu tîm unedig y cyrhaeddwyd copa Ewrop ac mae'r cefnogwyr yn gwerthfawrogi hyn.

Dyn sy'n hoffi cymryd pethau gam wrth gam ydyw e'- dyn sy'n cadw'i ben.

Un peth sy'n sicr mae'r tîm yma wedi gwneud i bawb gymryd sylw ohono er pob ymdrech i'w danseilio.

A phan welais i sylw un papur newydd o dramor iddo gyrraedd yr wyth olaf drwy'r drws y cefn roeddwn yn fwy awyddus fyth iddo ennill, wir.

A thros nos trodd o fod yn anadnabyddus i fod yn chwedl a hynny nid yn unig yn ei wlad ei hun a gôl fendigedig Angelos Charisteas yn creu pennod ogoneddus yn hanes Groeg.

Yr her yn awr fydd cadw'r enw da.
HELLAS!






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy