Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dishgled o <i>fasticha</i> Masticha - cnwd sy'n cydio
Lynda Ganatsiou, Cymraes y'n byw yng Ngwlad Groeg, yn sgrifennu am gynhaeaf anghyffredin un o ynysoedd y wlad

Pum milltir oddi ar arfordir Twrci ym môr yr Aegean mae ynys Chios sydd yn gyrchfan glan môr nad yw llawer o ymwelwyr wedi ei ddarganfod hyd yn hyn. Ychydig yn ôl cefais y pleser o ymweld â'r ynys am y tro cyntaf pan alwyd fy ngwr yno ar fusnes.

Dyma lle ganwyd Βι¶ΉΤΌΕΔr ond ar ben hynny mae gan yr ynys etifeddiaeth ddiwylliannol y byddai unrhyw ynys arall yn falch ohoni.

Bu ynys Chios hefyd yn un o gynhyrchwyr mwyaf glud masticha sy'n cael ei gynhyrchu'n naturiol ac yn Roegaidd drwyddo draw.

Ffrwyth a menywod
Mae masticha yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer gan wneud yr ynys yn darged i oresgynwyr fwy nag unwaith.

Dyma un o'r prif resymau pam yr adeiladwyd y pentrefi canoloesol fel caerau - er mwyn amddiffyn y coed masticha a'r cynhyrchwyr rhag anwariaid a'u bryd nid yn unig ar ladrata'r ffrwyth ond fenywod yr ynys hefyd!!!

Am bron i bedair canrif o 1172 bu'r ynys dan law y Fenetiaid a'r Genoaid a oedd y rhai cyntaf i fasnachu y masticha.

Yn 1566 daeth yn eiddo i'r Twrciaid gyda holl gynnyrch yr ynys yn mynd i'r penarglwyddi Twrcaidd.

Gwerthfawrogwyd y masticha gymaint gan y Twrcaid, fel y gwaharddwyd y Groegwyr rhag ei ddefnyddio gwbl.

Fodd bynnag, dan lywodraeth y Genoaid a'r Twrciaid, rhoddwyd breintiau arbennig a rhyddid o rhyw fath i bentrefi yn yr ardaloedd lle tyfai'r coed.

Dim ond y dail!
Mae'n rhyfedd meddwl, fodd bynnag, nad oedd merched Chios yn rhoi llawer o werth ar yr hyn yr oedd y Twrciaid yn rhoi cymaint o bwys arno ac ni fyddent yn ei ddefnyddio o gwbl wrth goginio er eu bod yn defnyddio'r dail yn y llestri oedd yn dal olewydd ac hefyd gyda'u picls.

Y tebygrwydd yw i'r masticha fod wedi ei wahardd am gyhyd yr oedden nhw wedi arfer gwneud hebddo.

#Yr oedd hi'n 1913 pan ddaeth yr ynys yn eiddo i wlad Groeg, unwaith eto.

Yn ogystal â'r glud mae Chios yn allforio olewydd, almon, orennau, lemonau a gwin ond heb os y peth enwocaf ydy'r masticha.

Byw yn gant
Llwyn bythwyrdd ydy'r masticha, (Pistachia lentiscus) yn tyfu hyd at 3.5 metr ar foncyff afreolaidd.

Mae boncyff y planhigyn ifanc yn llwyd golau gan fynd yn llwytgoch wrth iddo dyfu.

Gall fyw yn gant o oed gan fod ar ei orau rhwng 40-50 oed er ei fod yn cynhyrchu resin neu fastig gydag arogl hyfryd o'r bumed flwyddyn.

Yn nehau Chios mae hyd at 24 o bentrefi traddodiadol wedi eu galw yn Mastichochoria (o masticha a choria, yn golygu glud a phentrefi).

Yma yn unig y tyfir y coed gan fod yr ardal yn fwy ffrwythlon.

Y glud yn diferu o'r goeden Methiant fu ymgais i'w tyfu yng ngogledd yr ynys ac ar ynysoedd eraill.

Er yn tyfu yno nid oeddynt yn rhoi resin.

Ymhlith y rhesymau pam y mae'n tyfu yma yw fod llosgfynyddoedd dan yr wyneb, fod y tymheredd yn fwyn a bod calch yn y pridd.

Defnyddir sudd y goeden i wneud taffi, diod feddwol, perlysiau, melysion, hufen iâ, myro - a ddefnyddir yn yr Eglwys Rroegaidd Uniongred - a bwydydd gan gynnwys rhai Arabaidd yn fwyaf arbennig.

Defnyddir hefyd mewn colur, sebon golchi gwallt, past dannedd ac fel persawr.

Y defnydd pwysicaf, fodd bynnag, ydy yn y diwydiant meddygo ac chredir iddo gael ei ddefnyddio gan Hippocrates ei hun i drin briwiau.

Yn y gorffennol, fe'i defnyddiwyd i drin pethau fel canser yn yr ystumog, wlser yn y perfedd, poenau yn ymwneud â'r bol a llosg cylla.

Dannedd gwynion
Defnyddiai'r Rhufeiniaid ef i ffresio eu hanadl ac i wynnu eu dannedd. Cyfeiriodd Christopher Columbus at rinweddau'r masticha mewn llythyr.

Cynaeafir ef rhwng Mehefin a Hydref trwy hollt yn y coed sy'n caniatau I'r sudd lifo allan.

Erbyn heddiw mae 90% o'r hen, hen, gnwd hwn cael ei allforio i fwy na 50 o wledydd tramor gyda'r farchnad fwyaf yn y gwledydd Arabaidd.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy