Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Arwydd mewn maes awyr Pryder y Groegiaid
Lynda Ganatsiou yn sgrifennu am y pryder yng Ngwlad Groeg am ddyfodiad H5N1

Chwefror 1, 2006
Er nad yw gwledydd gogledd Ewrop wedi profi ofn a dychryn H5N1 hyd yn hyn mae'r awdurdodau yma yn ceisio gwneud cymaint ag sy'n feidrol bosibl i amddiffyn y wlad rhag y ffliw adar - yn enwedig ag yntau ar drothwy ein drws yn Nhwrci gyfagos.

Yn ddyddiol mae meddygon anifeiliaid yn ymarfer ar gyfer dyfodiad posibl yr haint wrth i nifer y bobl sy'n marw o'r haint yn Nhwrci gynyddu'n araf bach.

Yn sydyn mae gwlad Groeg o'r de i'r gogledd, o'r gorllewin i'r dwyrain, yn effro i'r peryglon!

Peidio teithio
Rhybuddiwyd dinasyddion Groeg mai gwell fyddai peidio â theithio i Dwrci heb fod raid. Pe byddai'n rhaid teithio mae rheolau llym ynlgŷn a chroesi'r ffin rhwng y ddwy wlad.

Ofnir mai un o'r mannau tebycaf i'r haint ledaenu yw yng ngogledd ddwyrain y tir mawr ac yno mae ceir sy'n dod i fewn i Roeg yn cael eu chwistrellu a'u diheintio yn ogystal ag esgidiau y teithwyr.

Ym mhrif faes awyr y wlad yn Athen mae arbenigwyr yn chwistrellu esgidiau teithwyr. Hwn yw'r unig faes lle mae awyrennau o Dwrci yn glanio.

Gosodwyd hysbysfyrddau mawrion yn tynnu sylw at y sefyllfa fyd-eang gydag awgrymiadau beth i'w wneud.

Cau'r ffin?
Bu'r Groegiaid yn ystyried cau'r ffin rhwng y ddwy wlad ond wedi ymgynghori â'r Undeb Ewropeaidd cytunwyd y byddai cyfyngu ar deithiau rhwng y ddwy wlad yn ddigon.

Yn ychwanegol mae swyddogion iechyd yn cadw golwg ar borthladdoedd Groeg hefyd gyda gofal arbennig parthed llongau sydd wedi glanio yn Nhwrci.

Hawdd deall y pryder cyffredinol a'r ofn o bandemig.

Ar ynys fechan Casteloriso yn yr Aegean mae pobl eisoes wedi dechrau difa eu ffowls. Hefyd yn bryderus mae trigolion Samos sydd o fewn golwg Twrci.

Effeithiodd hyn oll ar dwristiaeth ynysoedd dwyreiniol Twrci a rhoddodd trigolion ynysoedd Chios a Lesfos y gorau i'w harferiad o groesi'r dŵr i siopa ym marchnadoedd rhatach Twrci.

Cuddio ieir!
Hefyd, dechreuodd cymdogion eraill Twrci, sef Syria, chwistrellu ceir ac esgidiau ar y ffin.

Yn anffodus, er gwaethaf yr holl ymdrechion egniol mae'r pryder yn parhau yn ôl yr arbenigwyr ac ychwanegwyd at y pryderon gan ddyfodiad ugain o ymsefydlwyr anghyfreithlon o Affganistan a Mawritania trwy Dwrci i Samos.

Gwneir ymdrechion i reoli'r haint mewn anifeiliaid a lladdwyd dros fil o ffowls i leihau'r cyswllt dynol yn yr ardaloedd gwledig.

Cyhuddir rhai o geisio cuddio eu ieir ond y mae arwyddion fod y neges addysgol yn dylanwadu.

Ond darlun trist ydy hwn gan fod llawer yn dibynnu ar eu ieir am eu bywoliaeth.

Un peth sy'n sicr, mae'r Groegiaid yn ceisio gwneud cymaint ag sy'n ddynol bosibl i atal lledaeniad y salwch am y tro.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy