Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gorymdaith ym Mhatros Carnafali
Pan yw strydoedd Groeg yn fwrlwm o liw, hwyl a phlant meddai Lynda Ganatsiou, Cymraes sy'n byw yno

Pan fo'r gaeaf wedi bod yn ei lawn rym mae'r Groegiaid yn dechrau meddwl am rywbeth i godi'r galon - ac y maen nhw ar ben y rhestr pan ddaw yn fater o fwynhau eu hunain !

A pha ffordd well na chynnal Carnifal? Unrhyw esgus i gael dawnsio, bwyta, yfed ac anghofio'r oerni!

O'r Eidaleg y daw'r gair Carnifal ac yn gyfuniad o carne (cig), a lefare (gorffwys). Felly, seibiant i fwyta cig. Dyna hefyd union ystyr y gair Groegaidd Apocries

Credir fod y Carnafali yr wyl brydferthaf, fywiocaf a mwyaf llon yn y flwyddyn gyda phawb yn edrych ymlaen yn frwdfrydig - yn enwedig y plant.

Mae hwn yn gyfle iddyn nhw roi gwisgoedd amryliw, dawnsio, chwarae chartopolemo (rhyfel papur) sef taflu conffetti a serpentines - seirff lliwgar, hardd.

Rhubanau papur o wahanol liwiau'r enfys ydy'r rhain wedi eu gwau yn dorch.

Wrth ddal y dorch rhwng eich bys bawd a'ch bys cyntaf, a'r un pryd, yn agos at eich gwefusau a chwythu, mae'n datod a saethu ar draws yr ystafell.

Unwaith mae ar lawr edrych fel sarff yn troelli. Gallwch ddychmygu'r annibendod ar y lloriau erbyn diwedd y noson!

Cyn hyn bu'r plant yn dewis gwisgoedd o bob math; Indiaid Cochion, Clowns, Llygod, Pwmpen, Môrladron, Gwrachod, Dewiniaid . . .

Maent yn cael amser bendigedig ym mhartion ffrindiau dosbarth, neu yn yr ysgolion nos lle maent yn mynd i ddysgu ieithoedd estron gyda chyfle i rodresa.

Plant wrth eu boddau

Mae'r plant yn teimlo'n bwysig iawn yn cerdded o gwmpas fel paunod yn iard yr ysgol.

Yn ogystal a'r tai sy'n cynnal partis, bydd yr ysgolion a'r neuaddau hefyd wedi eu haddurno a iarlandes (coronblethau), ffanarakia (llusernau) gyda wynebau clown ac ati.



Plant yn gorymdeithioRhaid wrth nerfau o ddur i oddef y trombeta (utgorn neu hwter) mae'r plant yn ei chwythu nes bron eich byddaru!

Mae'n wefreiddiol eu gweld yn dawnsio - y brenhinesau gyda'r marchogion, bugeilaiaid, gwartheg a'r gweinyddesau.

Bydd bord o fwyd wedi ei pharatoi hefyd ar gyfer y plant sydd bellach yn chwys bots ar ôl dawnsio.

Yn sicr mae'r Apocries yn ddathliad mwyaf llachar a phleserus y flwyddyn.

Yn ystod y cyfnod hwn mae siopau'r stryd fawr yn llawn arddangosfeydd o wisgoedd disglair yr Apocries sydd yn cipio eu dychymyg i fydoedd ac amserau eraill.

Adeg y Carnafali mae rhai diwrnodau mwy arwyddocaol na'i gilydd fel y TSICNOPEMPTI - dydd Iau, Chwefror 15 eleni. Mae hwn yn ddyddiad sy'n newid o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu pa bryd bydd y Pasg.

Y tafarnau'n agored i bawb

Gellir ei gymharu a dydd Mawrth Ynyd yng Nghymru ond yma bydd y tafarnwyr yn agor eu drysau i bawb o bobl y byd!

Bydd rhai yn pobi ar danau bychain hwnt ac yma a bydd miwsig byw yn y strydoedd a'r dref yn llifo o bobl, hen ac ieuanc, wedi eu gwisgo mewn dillad yn portreadu pob math o greaduriaid a phobl.

Ym mhob sgwar ac ar bob congl mae rhywbeth yn digwydd siwglwyr gyda thân, clowniau yn difyrru, dynion ar stiltiau, grwpiau yn canu ac aroglau y souflakia (darnau o borc ar bren, sy'n cael eu coginio ar dân glo) yn llenwi'r awyr.

Credwch fi, mae'n amhosib eu gwrthod!

Rhaid manteisio ar y cyfle olaf hwn i fwyta'n dda cyn y Pasg!

Apocries eleni oedd dydd Sul Chwefror 25. Er bod tair wythnos y Carnafali yn cael ei alw'n Apokries; mewn gwirioneddy dydd Sul olaf ydy dydd yr Apocria yn iawn. Dyma'r dydd olaf y caniateir bwyta cig cyn dechrau ymprydio, sef yr ail ddydd Sul cyn y Saracosti (40 diwrnod cyn y Pasg).

Gwaherddir bwyta unrhyw fath o gig.

Cuddio'r wyneb a mwgwd

Un ddefod sydd wedi parhau o'r oesoedd paganaidd ydy'r ffugio pryd y cuddir yr wyneb â mwgwd a gwisgo dillad yr hen oesoedd gan gymryd y ffurfiau rhyfeddaf a mwyaf godidog Pierrot, Colombine, anifeiliaid o bob math.

Daw y gwledda a'r rhialtwch i ben â gorymdaith ysblennydd. Merched prydferth sy'n ddigon a drysu'r dynion yn gwisgo ond y lleiaf o ddillad! Cerbydau disglair wedi eu haddurno'n watwarus a gwych.

Coeliwch fi, yn Patras, tre yn ne'r wlad, anodd credu taw yng ngwlad Groeg ydych ac nid yn Rio!

Dywedir mai yma y cynhelir carnifal gorau Ewrop.

Bydd rhai yn gweithio'n ddyfal o'r golwg mewn ystordai yn creu cerbydau a delwau a fydd mewn dipyn yn rhan o'r hwyl ar strydoedd Patras.

Y cerbydau sydd ar flaen yr orymdaith gyda'r Fasilias Carnifalos - Brenin y Carnifal - yn uchafbwynt, wedi ei ddewis yn gerbyd gorau cyn cychwyn.

Meddwl am y flwyddyn nesaf

Gan fod yn rhaid cael digon o amser a dychymyg i lwyddo yn y gystadleuaeth, unwaith i'r Apokries ddirwyn i ben, mae'n amser dechrau paratoi ar gyfer gorymdaith y flwyddyn nesaf!

Ar Chwefror 18 roedd Carnafali eleni yna ar ddydd Llun Chwefror 26 yr oedd Cathara Ddeftera neu Ddydd Llun Glan - gwyl draddodiadol sy'n dynodi dechrau'r Saracosti (deugain dydd cyn y Pasg).

Dyma pryd y mae hen ac ieuanc yn dod at ei gilydd i hedfan ceitiau o ben tir uchel nes bo'r awyr yn orlawn o liwiau a siapiau.

Bwyd arbennig

Bydd ymborth arbennig yn cael ei baratoi:
-Lagana - bara traddodiadol (a geir yn unig ar y dydd yma),
- Olewyddennau
- Tarama - sef grawn pysgod,
- Pysgod cregyn,
- Cawl ffa twym ac yna
- Halfa - danteithfwyd o hadau sesame.

Fel mae'r enw Cathara Ddeftera - Dydd Llun Glân - yn ei awgrymu y bwriad yw bwyta'r rhain i lanhau neu buro'r enaid erbyn y Pasg.

Pawb a'i ddathliad

Drwy'r wlad mae gwahanol ddathliadau. Un o'r rhai mwyaf nodweddiol yw'r Alefromountsomata (Dyrnaid o Fflwr) yn Galacsiddi lle maen nhw'n taflu dyrnaid o fflwr at ei gilydd math o wyngalchu eich hunan fel arwydd o lanhad.

Unwaith i'r dydd ddirwyn i ben d'oes dim ar ôl ond cyfarch cyfeillion gyda'r geiriau, "Tan y flwyddyn nesaf" i olygu eu bod yn disgwyl ichi gael iechyd da tan hynny ac yn edrych ymlaen at eich cwmni eto.

Felly, "Ce tou chronou"!!




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy