Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Teimlo gwres y  fflam Olympaidd Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd
Lynda Ganatsiou, Cymraes sy'n awr yn byw yng Ngwlad Groeg, yn disgrifio ei diwrnod euraidd yn y Gemau Olympaidd



Daw popeth da i derfyn a daeth Campau Olympaidd Athen i ben wedi pythefnos ragorol o gystadlu ym mhob math o sbort.

Wedi'r blynyddoedd o baratoi a chynllunio ac adeiladu roedd pawb ar bigau'r drain sut y byddai hi.

Yr hunllef mwyaf oedd y byddai ymosodiad o rhyw fath er gwaethaf mesurau diogelwch llym y llywodraeth.

Yn awr, a'r gêmau campus yma drosodd, gall y wlad fechan hon o ddim ond 11 miliwn o bobl ollwng ochenaid o ryddhad - ac ochenaid o orfoledd hefyd gan i bopeth fynd mor llyfn.

Campau heddychlon a phawb wedi byw a chystadlu'n gytn.

Gofyn am rodd
Gan amlaf mae menywod am gael tusw o flodau, mynd allan am wledd neu hyd yn oed dderbyn anrheg ar ffurf gemau i ddathlu eu priodas.

Ac, wrth gwrs, maent yn disgwyl hynny gan eu gwŷr - ond nid felly y bu hi yn fy achos i gan imi benderfynu gwneud eithriad i'r rheol trwy ofyn am fy rhodd!

Gofyn am Aur wnes i. Gofyn i George fy ngŵr fynd a mi i'r Campau Olympaidd yn Athen.

Roedd yntau yn frwdfrydig iawn, ond rhaid oedd dod o hyd i'r tocynnau ac o edrych ar y We gwelais fod rhai ar gael y diwrnod yr oeddwn yn eu 'mofyn. Yn anffodus, erbyn imi fynd i brynu roeddynt wedi mynd a rhaid oedd bodloni ar rai'r diwrnod canlynol!

Fodd bynnag, ni laddodd hyn fy mrwdfrydedd.

Y gamp wedyn oedd dod o hyd i westy ond cawsom un rhyw awr o daith o'r brifddinas.
Hir pob aros fu hi wedyn!

Popeth yn rhwydd
 ninnau'n byw yng ngogledd y wlad roedd hi'n daith eithaf hir o Thessaloniki i Athen ac yr oedd y maes awyr yn llifo o bobl yn mynd i'r gêmau a naws go wahanol i'r lle o gymharu â diwrnod arferol.

Amser i ymlacioCreodd nid yn unig y maes awyr argraff arnaf ond hefyd yr heolydd newydd, llydain, a'r olygfa newydd o'r ddinas yn gyffredinol.

Synnais gymaint oedd y ddinas hon wedi newid o fod yn lle blith draphlith i fod yn lle anhygoel o rwydd symud yn gyflym ynddo.

Aethom yn syth i gyfeiriad y Stadiwm Olympaidd gan gael lle i barcio'r car heb ffwdan yn union gerbron yr orsaf drên a chael fy synnu unwaith eto gan rwyddineb popeth. Y trenau yn fynych a'r arwyddion yn hawdd eu dilyn.

Ymhlith y rhai cyntaf
Wedi cyrraedd y prif stadiwm yn llawer yn rhy gynnar cawsom ddigon o amser i dynnu lluniau ac edmygu'r bensaernïaeth. Â George yn beiriannydd, nid oedd ei lygad craff yn colli dim, ac roedd yntau hefyd wedi ei ryfeddu.

Pensaerniaeth trawiadolRoeddem ymhlith y cyntaf i fynd i mewn i'r stadiwm ac yno o'n blaen roedd golygfa wych oedd yn gwneud imi dal fy anal.

Dyma lle'r oedd George a minnau, y ddau ohonom, yn rhan o hanes; yn rhan o'r lluoedd o bobl yn croesawu'r Campau Olympaidd yn ôl i wlad eu genedigaeth.

Yn araf bach dechreuodd y stadiwm anferth lenwi a minnau'n poeni sut yn y byd y gallai lenwi cyn i'r rhaglen gychwyn. Ond llenwi a wnaeth, a dechreuodd ysbryd y bobl dwymo gydag ymddangosiad cyntaf y dynion yn gwneud y naid bolyn.

Mewn dim o amser roedd dwy rownd deilyngdod y menywod yn y gystadleuaeth gwaywffon wedi dechrau ac ymhlith y rhai a welais yr oedd Mirela Manjani a oedd i ennill y fedal efydd i Roeg ddau ddiwrnod wedyn ac Osleidys Menendez a gipiodd y fedal aur a Steffie Nerius, enillydd y fedal arian.

Roedd enwau menywod y naid hir fel Marion Jones, Carolina Kluft ymhlith eraill aaf oedd o fewn cyrraedd wrth iddynt ddod i mewn i'r stadiwm anferth.

Gwelsom y dynion a redodd y ras 1,500 yn cael eu medalau: Hicham El Gouerrouj o Foroco a gipiodd y fedal aur gan ennill hefyd y fedal am y 5,000 yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Yna gwelais y dynion ym mhrawf cyn derfynol y ras 200 metr ac yn eu plith, Justin Gatlin, Shawn Crawford a Bernard Williams - pob un yn dod i'r stadium yr ochr lle'r oeddwn yn eistedd - a minnau heb wybod ar y pryd mai nhw fyddai'n ennill y medalau ymhen deuddydd.

Y noswaith hon gwelais dair ras derfynol a phedair seremoni wobrwyo. Profiad hudolus gyda rhai wedi cynhyrfu, eraill yn wên i gyd a ninnau'r dorf yn cael y cyfle i rannu eu llawenydd wrth i faneri eu gwledydd cael eu dyrchafu a dangos ein parch trwy sefyll i anthem genedlaethol y wlad fuddugol.

Hellas, Hellas, Hellas!
Dechreuodd pethau dwymo pan roddodd Groegwr gais yn y naid bolyn. Pan oedd ar fin cymryd ei dro dechreuodd pawb guro dwylo yn araf bach gan cynyddu'r tempo wrth iddo redeg yn gyflymach a gwneud y naid. Yna, ochenaid wedi iddo glirio'r bar ac yna un arall o siom yn syth ar ei hôl wrth iddo syrthio yr eiliad nesaf.

Wrth iddo roi cynnig arall arni dyna lle'r oedd pawb yn gweiddi Hellas, Hellas, Hellas! nerth eu pennau i'w annog ac er na lwyddodd cafodd y cymeradwyaeth uchaf bosibl a phawb wedi eu cyffroi.

Roedd ysbryd pawb ar dân pan ddaeth y menywod allan i redeg ras 400 metr y clwydi - uchafbwynt y noson.

Gwefr y cystadlu Roedd yr awyrgylch yn drydanol ac am naw o'r gloch y nos, pan welwyd Fani Halkia yn dod allan i'r trac, aeth pawb yn gwbl wyllt a'r lle yn berwi drwyddo wrth i'r dyrfa droi'n donnau wrth esgyn a disgyn bob yn ail.

Pawb y gweiddi Hellas, Hellas, Hellas a dim i'w rhwystro.

Sôn am gefnogaeth. Roedd y stadiwm yn fyw o floeddiadau gobaith a drodd yn gri o lawenydd pan groesodd y ferch y llinell i ennill medal aur i wlad Groeg.

Pawb yn wallgof
Aeth pawb yn wallgof gyda rhu'r dorf yn ddigon i achosi daeargryn.

Er imi fod ym Mharc yr Arfau a Twickers ni phrofais ddim i'w gymharu â'r sŵn yn y stadiwm hwn.

Safwn yno yn crynu a'r ias yn treiddio i fêr fy esgyrn.
Gweiddais Hellas, Hellas, Hellas! nerth esgyrn fy mhen.

Efallai imi deimlo pang o gydwybod ond nid oedd ond naturiol a minnau, erbyn hyn, wedi byw yma yn hwy nag yr wyf wedi byw yng Nghymru.

Dyna lle'r oedd y ferch ieuanc yma yn tynnu'r stadiwm i lawr. Roedd hi wedi dal ysbryd y bobl i gyd.

Parhaodd y gymeradwyaeth a'r siantio am ddeng munud a hithau'n agor ei breichiau mewn gorfoledd heb allu credu iddi guro enwau enwocaf y byd fel Yulia Pechonkina sy'n dal y record byd a Jana Pittman sy'n bencampwraig byd.

Yn ddiweddarach bu mwy o floedddio a churo dwylo wrth i'r dduwies dderbyn ei medal aur a baner Groeg yn cael ei chodi a'r anthem genedlaethol yn cael ei chanu.

Cael fy aur
Dyma noswaith nad anghofiaf weddill fy oes a gofidiwn wrth adael nad oeddwn wedi prynu tocynnau i weld cystadlaethau eraill.

Un peth oedd yn sicr - gofynnais am aur ac fe'i gefais.

Bellach, mae'r ŵyl drosodd ond bydd ei hysbryd yn aros am hydoedd. Roedd yn brofiad na fyddwn wedi bod eisiau ei golli am i gyd o'r te yn China!

A phwy a ŵyr, efallai y byddaf innau yn China ymhen pedair blynedd ar gyfer campau 2008 yn Beijing!






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy