Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dylanwadau tramor
Lynda Ganatsiou yn sôn sut mae'r Dolig wedi newid yng Ngwlad Groeg

Rhagfyr 2005
Syndod fel mae pethau yn newid.
Y blynyddoedd yn ffoi ar garlam, a minnau wedi bod i ffwrdd o Gymru am dros ddeng mlynedd ar hugain bellach.

Dim rhyfedd imi weld datblygiadau di-ri yng Ngwlad Groeg yn gysylltiedig â'r Nadolig.

Yn wir, does yna'r un ŵyl wedi newid cymaint â'r Nadolig yma!

Gŵyl a dueddai i fod yn un dawel oedd y Nadolig ac yn rhai mannau o'r wlad roedd yn arferiad i ymprydio cyn yr ŵyl hon.

Yn ystod noswyl Nadolig byddai plant yn canu carolau neu calanda o dŷ i dŷ.

Tarddiad y gair carol yw dawns Roegaidd a elwir yn choraflein i gyfeiliant cerddoriaeth ffliwt.

Roedd Dydd Calan - neu Ddiwrnod Basil Sant - yn bwysicach o lawer na'r Nadolig yma 30 mlynedd yn ôl gan mai Basil oedd Siôn Corn y Groegiaid.

Nid oedd yn arferol gweld coed Nadolig wedi eu haddurno yn y tai gan nad ystyriwyd hon yn gymaint gŵyl â'r Pasg.

Llongau oedd y prif symbol gan taw morwyr a physgotwyr oedd y rhan fwyaf o'r bobl - neu o leiaf yn byw ger y môr.

Wedi newid
Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae'n ŵyl sydd wedi newid gyda'r hen draddodiadau wedi eu symleiddio a llawer o bobl yn gresynu at y Nadolig modern.

Pan ddeuthum yma gyntaf o wlad oer y Llychllyniaid cefais dipyn o sioc!

A hwythau yn y gogledd pell yn gorfod dioddef gaeafau tywyll, meithion, yr oedd yn arferiad i bobl geisio codi tipyn ar eu calonnau drwy addurno eu tai a'r strydoedd gyda goleuadau tlws gan roi'r teimlad taw ym myd y Tylwyth Teg oeddech!

Gyda charped gwyn, trwchus, o eira dan droed a'r holl oleuadau yn adlewyrchu o'r eira fe fyddai popeth yn disgleirio.

Y wlad o hir dywyllwch wedi ei thrawsffurfio a'r goleuni yn codi ysbryd pawb.

Bwydydd gwahanol
Ond pan gyrhaeddais Wlad Groeg gŵyl hollol grefyddol oedd a phawb yn mynychu'r eglwys. Gŵyl deuluol hefyd heb unrhyw wychder yn perthyn iddi.

Gan nad oedd neb yn anfon cardiau nac yn addurno eu tai ag addurniadau moethus yr unig arbenigedd oedd bwydydd gwahanol.

Yma lle rwy'n byw yng ngogledd y tir mawr, mae'r gwres yn syrthio gryn dipyn a diodydd arbennig yn cael eu paratoi er mwyn twymo boliau y teulu a'r cymdogion sy'n galw ar eu ffordd o'r eglwys.

Yn araf bach, gyda dyfodiad pobl estron ac yn sgil cymaint o bobl ifainc yn mynd i astudio yng ngwledydd eraill Ewrop daeth dylanwadau newydd.

Ar ben hyn, mae pobl yn teithio llawer mwy a sefydlwyd busnesau diddiwedd sy'n golygu bod yna gystadlu brwd a phob un am wneud yn well na Mr. Jones drws nesaf - neu Mr. Papadoploulos fel y dylwn ddweud yn y cyswllt hwn!

Dwy flynedd
Heb amheuaeth, bu'r newid mwyaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a bu llwyddiant y Gemau Olympaidd yn hwb i'r wlad a'r Groegiaid am ymuno â dathliadau gweddill Ewrop.

Mae'r Groegiaid yn adnabyddus am fod yn bobl sy'n gadael pethau tan y funud olaf ond ar ôl penderfynu gwneud rhywbeth maent am fod y gorau ac erbyn hyn does dim ffiniau i'r hyn maen nhw'n fodlon ei wario!

Er enghraifft, y dyddiau hyn mae pawb yn dathlu gydag addurniadau gwastraffus ac mae rhesi o oleuadau yn hongian ar hyd y strydoedd.

Mae themâu arbennig yn y siopau mawrion ac yn llawn o oleuadau a modelau wedi eu gwisgo yn y dillad gwychaf a welsoch erioed.

Mae Athen, yn arbennig, wedi ymateb i adfywiad y Nadolig a'r faeres wedi atodi lliwiau newydd i'r rhialtwch.

Llwyddiant yn creu hyder
Yn dilyn llwyddiant y llynedd roedd y llwyfan yn barod ers meitin eleni - yn enwedig yn y brifddinas lle bu bron i mi a chael haint o weld nifer o siopau yn arddangos nwyddau Nadolig ac addurniadau'r strydoedd wedi'u goleuo yn ôl ym mis Tachwedd.

Wrth gwrs, rhaid ystyried fod i'r tywydd ran bwysig yn y trefniadau.
Pan fo'r hin yn fwyn gall goleuadau o'r fath ymddangos braidd yn chwerthinllyd!

Er taw ceisio creu rhyw naws arbennig a llanw calonnau'r bobl â rhywfaint o lawenyddyn ystod y gaeaf mae maer Athen ni ddylid anghofio fod elfen o dristwch gweld llawer o draddodiadau lleol naill ai'n cael eu colli neu'n mynd yn gwbl anghof.

Colli'r llong
Gellir gweld y gwrthdaro rhwng dau ddiwylliant pan fo'r llong draddodiadol yn brwydro a'r goeden am ei bodolaeth a llawer o bobl yn ddiflas o weld symbol traddodiadol yn ildio'i le i ddylanwadau allanol.

Llong wedi ei goleuoO bren y gwnaed y llongau fel arfer ac fe'u haddurnwyd â goleuadau lliwgar ynghyd â nifer fach o addurniadau syml.

Gan amlaf, gosodwyd y rhain ger drws allanol y tŷ neu ger y tân gyda blaen y llong bob amser yn edrych tuag at du mewn y tŷ.

Gyda gwrthrychau o aur neu ddarnau o arian wedi eu gosod ar fwrdd y llong mae'n symbol o gyfoeth yn cyrraedd y tŷ.

Pentref bychan
Yn y brifddinas, Athen, mae'r prif sgwâr wedi ei drawsnewid yn bentref bychan yn llawn o gabanau coed fel mewn rhyw stori Dylwyth Teg.

Gwerthu nwyddau sy'n gysylltiedig â'r Ŵyl a wneir yn y rhain a'r aroglau sy'n nofio ar yr awel yn rhoi naws Nadoligaidd i'r lle.

Ceir amgueddfa siocled ac amgueddfa deganau yn arbennig ar gyfer y plant.

Cerddoriaeth
Ar bob cornel mae rhyw grŵp yn chwarae offerynnau neu gall fod yno gerddorfa gyfan yn chwarae caneuon poblogaidd y Nadolig, boed hen neu newydd.

'Rydych yn siŵr o ddod ar draws actorion yn perfformio ar hyd y strydoedd, comediwyr, siwglwyr, corau, tabyrddwyr a swynwyr.

Mae ceffylau bach yn carlamu a dychymyg y plant wedi ei gipio gan wledd fawr o adloniant sy'n rhad ac am ddim.

Trowyd un sgwâr yn llawr sglefrio gyda chyfle i'r cyhoedd sglefrio bob yn ail a sglefwyr proffesiynol.

Ym mhrif sgwariau'r ddinas gosodir coed uchel wedi eu haddurno'n odidog ac wrth gwrs bu'n rhaid i Athen gael y goeden uchaf yn Ewrop!

Pobl a phlant
Nid yn unig sicrhawyd digonedd o ddifyrrwch i'r plant gan faeres y dref, Dora Bacoianni, ond i'r oedolion yn ogystal!

Gan fod cymaint o ddigwyddiadau wedi eu cynllunio ledled y ddinas awgrymir y dylai pobl ffonio neu ymweld â gwefan arbennig i gael gwybod beth sydd ar gael.

Arwyddair y brifddinas eleni yw:
Goleuadau Nadolig, cyfeillion a choed,
Mae parti prifddinas Athen yn ddi-oed.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy