Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhyddid i elyrch Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Cymraes yn son am greulondeb tuag at anifeiliaid yng Ngwlad Groeg

Medi 2002

gan Lynda Ganatsiou o Thessaloniki
Wn i ddim beth sy'n dod o'r byd - mae fy ngwallt yn saethu i fyny fel pigau'r draenog bob tro rwy'n clywed stori neu weld lluniau yn ymwneud â chamdrin anifeiliaid.

Mae'r diafol ei hun yn rhai pobl, yn fy nhyb i, yn cyflawni'r fath weithredoedd dychrynllyd ar anifeiliaid mud?

Yn anffodus mae gan bobl ddulliau gwahanol o droseddu ac er ein bod yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain mae rhai yn ymddwyn yn anfoesol a direswm.

Dyma rai o'r pethau sydd wedi codi fy ngwrychyn i:
Plant wedi clymu tuniau wrth gwt merlen a'i herlid i lawr y stryd. Wedi dychryn allan o'i cho â'r swn tuniau yn curo yn erbyn ei gilydd llithrodd i ffos gyfagos a thorri ei chefn.

Gwenwyno yn beth cyffredin
Yng ngwlad Groeg, un o'r pethau sy'n codi'r arswyd mwyaf ar berchenogion cathod a chwn, ydy gwenwyno.

Yn hytrach na bod yn weithgarwch braf mae mynd am dro yn golygu bod ar wyliadwriaeth gyson am dameidiau amheus o gig.

Yn yr un modd, os nad yw'r gath o gwmpas amser brecwast rydych yn amau'n syth iddi gael gwenwyn er bod gosod abwyd gwenwynig yn drosedd sy'n dwyn cosb dan Gyfraith Roegaidd, Amddiffyniad Anifeiliaid 1197/81.

Ond "Beth yw'r ots" ydy agwedd y rhan fwyaf a chan fod gwenwyn ar gael yn hawdd mae'n bosib i gymdogion a chanddynt rhyw fath o ddrwgdeimlad ddial trwy ladd anifeiliaid dof.

Mae sawl math o wenwyn 'poblogaidd' a chan amlaf byddant yn cael eu cymysgu â bwydydd tuniau neu eu rhoi mewn sosej, neu ddarn o gaws neu gig amrwd.

Hanes i godi'r cryd arnoch!
Mewn tref o'r enw Pyrgos, yn nwyrain y Peloponnese arestiwyd cigydd wedi iddynt ddarganfod ci yn hongian o fachyn yn ei siop.

Daeth yr heddlu o hyd i gi hanner marw mewn sach ond hawliodd y cigydd mai amddiffyn y ci rhag peryglon y stryd oedd o!

Digwyddodd hyn ar adeg pan oedd teuluoedd yn stocio wyn ar gyfer y Pasg ac ofnai rhai mai cig ci a brynwyd ganddynt.

Crogi ci

Y llynedd daeth teithwyr o'r Almaen ar draws gast hela ifanc wedi ei chrogi mewn coedwig olewydd ar fryniau yn ardal Halkidiki.

Bu yno am sawl diwrnod cyn ei darganfod a'i chladdu gan yr Almaenwyr. Un awgrym oedd iddi gael ei chosbi am redeg i ffwrdd ar ôl ei dychryn gan swn ergyd.

Dydy pethau fel hyn ddim yn gyhoeddusrwydd da i wlad Groeg a chyn claddu'r ast tynnodd yr Almaenwyr luniau a'u hanfon i bapur newydd Almaenig.

Er mor gyffredin ydy camdrin anifeiliaid yma ychydig iawn sy'n cael ei wneud gan yr awdurdodau i rwystro'r euog.

Gwelwn anifeiliaid wedi eu gwenwyno ar y teledu ond hyd yn oed os yw'r mater yn cyrraedd y llys (ac anaml iawn y digwydd hynny) ni chyhoeddir hanes y prawf na'r ddedfryd.

Y canlyniad yw fod pobl yn tybio y gallant barhau a'u gweithgareddau creulon heb ofni cosb.

Dywed rhai fod helwyr yn saethu cwn a ystyriant annefnyddiol neu anufudd a chwynir na wneir ymdrech iawn i hyfforddi a dysgu cwn.

Y canlyniad yw fod cwn hela ledled gwlad Groeg yn cael eu camdrin a'u hesgeuluso a rhai yn cael eu taflu o'r neilltu megis teganau unwaith nad yw eu perchennog eu heisiau.

Gollwng cwn bach

Echdoe pan yn siarad ar y ffon a'm ffrind - o'r Rhyl yn wreiddiol - ym mhentref cyfagos Panorama dywedodd fod rhywun yr union eiliad honno yn gollwng dau gi bach y tu allan i'w thy fel y byddai plant ysgol gyfagos yn eu tolach!

Pa mor greulon ydy rhai pobl. Mae gen i gi o'r enw Rex. Bois bach, mae e'n un hardd. Hanner Alsatian a hanner Husky yde e a chan fy mod yn siarad ag ef yn gyson mae'n deall popeth.

Rwyf i'n ei ystyried yn ffrind gorau dyn. Yn wir, mae'n well na dyn gan ei fod yn ufudd- a byth yn ateb yn ôl!!

Yn anffodus, mae'n dioddef o salwch sy'n effeithio ar ei arennau er, o edrych arno, anodd iawn fyddai credu fod unrhyw beth yn bod arno.

Gobaith i rai.
Roeddwn wedi anobeithio darllen am rywbeth da yn ymwneud ag anifeiliaid ond daeth rhywbeth bach i godi nghalon yn y byd creulon yma ac i ddangos fod calon o leiaf gan rai.

Trefnodd aelodau Canolfan Groeg am ofal anifeiliaid gwyllt i 30 o elyrch, dau fflamingo a dau gudyll a oedd wedi eu hanafu - oherwydd hela anghyfreithlon neu oherwydd yr eira trwm a gawsom y gaeaf diwethaf - gael eu gollwng yn rhydd yn ne-orllewin Thessaloniki.

Rwyf innau hefyd yn ceisio gwneud fy rhan gyda'r gymdeithas hon!

Yn ôl ym mis Ionawr rhoddais lety i ast grwydr dorrog a ddaeth i'r ty.

Yr oedd yn amlwg wedi ei chamdrin a'i phwno ar ei phen.

Ar Fawrth 19 cafodd bump o gwn bach. Penderfynais gadw un a bum yn ddigon ffodus i ddod o hyd i gartrefi da i'r gweddill.

Gallaf anadlu unwaith yn rhagor a theimlo rhyw bleser fy mod wedi achub nid yn unig un ci ond hefyd, bum ci bach a fyddai'n siwr o fod wedi marw.

Cefais fy syfrdanu fod cymaint o ddiddordeb gan rhai bobl mewn cwn bach yn enwedig ar ôl yr hanesion uchod.
Diolch byth fod rhai pobl garedig i'w cael o hyd.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy