鶹Լ

Tystiolaeth dros esblygiad – Diflaniad rhywogaeth

Bydd rhywogaeth yn diflannu pan nad oes dim unigolion o’r rhywogaeth yn dal yn fyw. Mae anifeiliaid sydd heb ymaddasu’n dda i’w hamgylchedd yn llai tebygol o oroesi ac atgenhedlu na rhai sydd wedi ymaddasu’n dda. Gall yr anifeiliaid sydd heb ymaddasu i’w hamgylchedd ddiflannu.

Mae gan ddiflaniad ran mewn esblygiad wrth i rai rhywogaethau ddiflannu, tra bod eraill yn goroesi ac yn dal i esblygu. Gall sawl ffactor achosi i rywogaeth ddiflannu, gan gynnwys:

  • clefydau newydd
  • newydd
  • cystadleuwyr newydd, mwy llwyddiannus
  • newidiadau i’r amgylchedd dros gyfnod daearegol, fel newid hinsawdd
  • un digwyddiad catastroffig, fel ffrwydrad llosgfynydd mawr, neu wrthdrawiad rhwng asteroid a’r Ddaear

Gall rhywogaeth ddiflannu hefyd drwy .

Mae’r cofnod ffosilau yn dangos bod llawer o rywogaethau wedi diflannu ers dechrau bywyd ar y Ddaear. Mae rhywogaethau’n dal i ddiflannu, a hynny’n aml oherwydd gweithgareddau dynol. Mae bodau dynol yn cystadlu ag organebau byw eraill am le, bwyd a dŵr – mae dyn yn ysglyfaethwr llwyddiannus iawn.

Y dodo

Darlun o'r aderyn dodo.

Aderyn trwm o gorff tua’r un maint ag alarch oedd y dodo, oedd yn methu hedfan. Diflannodd wedi i bobl gyflwyno ysglyfaethwyr newydd.

Roedd y dodo’n byw ar ynys Mauritius yng Nghefnfor yr India. Doedd neb yn byw ar yr ynys a doedd gan yr aderyn ddim ysglyfaethwyr naturiol. Pan goloneiddiwyd Mauritius gan yr Iseldirwyr yn 1638, dechreusant hela’r dodo am fwyd. Roedd yn hawdd ei ddal, a daeth y bobl â chystadleuwyr newydd i’r ynys, fel moch, cathod a llygod mawr. Roedd y rheiny’n bwyta wyau’r dodo a’r cywion. O fewn 80 mlynedd, roedd y dodo wedi diflannu.