鶹Լ

Tystiolaeth dros esblygiad – Llygod mawr

Warffarin yw’r cynhwysyn gweithredol mewn gwenwyn llygod mawr. Mae mwtaniadau ar hap yng ngenomau llygod mawr yn golygu bod rhai llygod mawr mewn poblogaeth yn gwrthsefyll warffarin yn naturiol. Mae hyn yn achosi amrywiad yn y boblogaeth llygod mawr.

Mae gan lygod mawr sy’n gwrthsefyll fantais ddetholiadol dros lygod mawr eraill yn y boblogaeth – fe wnânt oroesi i fridio, yn wahanol i’r rhai sydd heb y genyn. Goroesiad y cymhwysaf yw’r term am hyn.

Caiff y mwtaniad genetig sy’n rhoi’r gallu i wrthsefyll warffarin ei basio ymlaen i’r genhedlaeth nesaf. Am nad yw llygod mawr sydd heb y mwtaniad yn gallu goroesi, mae llai o gystadleuaeth i’r llygod mawr sy’n gwrthsefyll a byddant yn ffynnu.

Yn y pen draw bydd y genyn yn gyffredin yn y boblogaeth, ac ni fydd y warffarin yn gweithio mor effeithiol fel gwenwyn llygod mawr wedyn.