Â鶹ԼÅÄ

Tystiolaeth dros esblygiad

Bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau

Gall esblygu’n gyflym am eu bod yn atgenhedlu’n gyflym. Mae mwtaniadau bacteria yn cynhyrchu straeniau newydd. Gall rhai bacteria wrthsefyll rhai , fel penisilin, ac mae’r gwrthfiotig yn methu eu difa. Mae esblygiad y bacteria yn enghraifft o .

Datblygu gwrthsafiad

Dyma brif gamau datblygu gwrthsafiad:

  • mwtaniadau ar hap yng ngenynnau celloedd bacteriol unigol
  • rhai mwtaniadau’n gwarchod y gell facteriol rhag effeithiau’r gwrthfiotig
  • bacteria heb y mwtaniad yn marw neu’n methu atgenhedlu pan fydd y gwrthfiotig yn bresennol
  • bacteria sy’n gwrthsefyll yn gallu atgenhedlu gyda llai o gystadleuaeth gan straeniau bacteriol normal
Bacteria yn cael ei drochi mewn gwrthfiotigau. Rhan fwyaf o’r bacteria normal yn marw. Bacteria gwrthiannol yn lluosi/dod yn fwy cyffredin. Mae'r holl haint yn esblygu i fod yn straen gwrthiannol.

MRSA

Staphylococcus aureus sy’n gwrthsefyll methisilin yw MRSA (methicillin-resistant Staphylococcus aureus), ac mae’n beryglus iawn am ei fod yn gallu gwrthsefyll y rhan fwyaf o wrthfiotigau.

Mae nifer y straeniau sy’n gwrthsefyll wedi cynyddu’n rhannol oherwydd camddefnyddio gwrthfiotigau. Mae hyn wedi achosi mwy o heintiau sy’n anodd eu rheoli. Er mwyn arafu datblygiad straeniau sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau:

  • ni ddylai meddygon ragnodi gwrthfiotigau’n amhriodol, er enghraifft i drin heintiau sydd ddim yn ddifrifol
  • dylai cleifion bob amser gwblhau’r cwrs llawn o wrthfiotigau i sicrhau bod yr holl facteria’n cael eu lladd ac nad oes dim yn goroesi i fwtanu a chreu straeniau gwrthsafol
  • dylai fod cyfyngiadau ar ddefnyddio gwrthfiotigau mewn amaethyddiaeth

Penisilin oedd y gwrthfiotig cyntaf i’w gynhyrchu ar raddfa eang yn y 1940au. Mae’n tarddu o ffwng Penicillium, a ddangosir yma’n tyfu ar blât agar.

Llwydni penisilin yn tyfu ar blât agar.

Darganfuwyd sawl math newydd o wrthfiotig yn ystod y 1950au a’r 1960au, ond yn fwy diweddar, mae’r darganfyddiadau wedi arafu. Rhoddodd amryw o wyddonwyr y gorau i chwilio am wrthfiotigau newydd, gan deimlo nad oedd angen.

Mae pryderon diweddar am wrthsafiad cynyddol wedi creu’r angen am wrthfiotigau newydd, ond maent yn gostus ac yn cymryd amser i’w datblygu. Mae rhai gwyddonwyr yn ofni bod y frwydr yn erbyn bacteria gwrthsafol yn cael ei cholli, ac y gallai hynny arwain yn y pen draw at weld pobl yn marw, er enghraifft o heintiau syml yn dilyn llawdriniaeth.