Bioamrywiaeth
Mae bioamrywiaeth yn bwysig i fodau dynol fel ffynhonnell bwyd, defnyddiau diwydiannol a photensial am feddyginiaethau newydd. Dyma pam mae'n rhaid i ni astudio'r fioamrywiaeth ar y Ddaear a'i hamddiffyn.
Mae niferoedd poblogaeth organebau yn amrywioCynyddu a lleihau. yn gyson oherwydd:
- cystadleuaeth am adnoddau
- ysglyfaethuHela anifail arall i gael bwyd.
- clefyd
- llygredd
Pan mae gwyddonwyr yn canfod gostyngiad cyson yn niferoedd poblogaeth rhywogaeth benodol, mae angen ymchwilio i hyn ymhellach.
Rhywogaethau estron
Yn Awstralia yn yr 1930au roedd gan ffermwyr broblem go iawn â chwilod a lindys yn bwyta'r cansenni siwgr roedden nhw'n ceisio eu tyfu. Penderfynwyd y gallai plaleiddiaid niweidio rhywogaethau brodorol eraill hefyd, felly penderfynodd y ffermwyr roi cynnig ar rheoli biolegolDefnyddio un rhywogaeth i reoli niferoedd un arall..
Cafodd y llyffant cansenni o Hawaii ei gyflwyno i Queensland yn y gobaith y byddai'n bwyta'r chwilen.
Yn anffodus, roedd y llyffant cansenni:
- yn rhywogaeth estronRhywogaeth sydd ddim yn frodorol i ardal neu wlad benodol. i Awstralia - doedd ganddo ddim ysglyfaethwyr naturiol i reoli ei niferoedd ac felly ffrwydrodd ei boblogaeth
- yn ysglyfaethu ar amrywiaeth mawr o organebau (ond nid y chwilen cansenni)
- yn ysglyfaeth i lawer o ysglyfaethwyr, ond roedd yn archwysu tocsin oedd yn lladd yr ysglyfaethwr
- yn cario clefydau nad oedd y rhywogaethau brodorol yn gallu eu gwrthsefyll
Arweiniodd y gyfres hon o ddigwyddiadau at ostyngiad mawr yn y fioamrywiaeth yn yr ardal, gan leihau poblogaeth y madfall monitor smotiau melyn 90 y cant. Hyd heddiw, mae Awstralia'n ei chael hi'n anodd rheoli lledaeniad y rhywogaeth oresgynnolRhywogaeth sy'n cynyddu ei niferoedd yn gyflymach na rhywogaethau brodorol ac yn tarfu ar y cydbwysedd ecolegol. hon.