Â鶹ԼÅÄ

Casglu data - cwadradau

Dyn yn gweithio o fewn cwadrat, ardal astudio hirsgwar
Figure caption,
Mae cwadrat yn offeryn a ddefnyddir i ynysu ardal benodol ar gyfer astudiaeth

Yn aml, mae hi’n anymarferol cyfrif pob organeb mewn . Er enghraifft:

  • efallai y bydd anifeiliaid yn symud i mewn i ardal - neu allan ohoni - yn ystod y cyfrif
  • efallai y bydd rhai yn marw cyn i’r cyfrif gael ei gwblhau
  • efallai y bydd hi’n anodd dod o hyd i bob anifail yn ystod y cyfrif

O ganlyniad, mae biolegwyr wedi datblygu gwahanol ffyrdd o amcangyfrif maint poblogaeth. Mae hyn yn cynnwys cymryd samplau ar hap yn yr arwynebedd i'w astudio. Y mwyaf o samplau a gymerir, y mwyaf dilys fydd y canlyniadau, ac mae hi'n bwysig defnyddio technegau sy'n canfod hapsamplau er mwyn osgoi .

Defnyddio cwadrad

Fel arfer, mae cwadrad yn ffrâm 1 m2 wedi'i gwneud o bren. Efallai y bydd yn cynnwys gwifrau er mwyn marcio ardaloedd llai o faint y tu mewn i’r cwadrad, megis sgwariau 5 × 5 neu 10 × 10. Mae modd adnabod a chyfrif yr organebau oddi tano, sef planhigion fel arfer. Mae cwadradau hefyd yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer anifeiliaid sy’n symud yn araf, ee gwlithod a malwod.

I gymryd hapsampl gwirioneddol, dilyna'r camau hyn.

  1. Mesur ardal i'w arolygu.
  2. Defnyddio dull ar hap i gasglu cyfesurynnau ar yr echelinau fertigol a llorweddol sydd wedi'u mesur, ee taflu dis 20 ochr.
  3. Dewis y cyfesuryn cyntaf a symud y pellter hwnnw ar hyd yr echelin-\({x}\).
  4. Dewis yr ail gyfesuryn a symud y pellter hwnnw ar hyd yr echelin-\({y}\).
  5. Rhoi dy gwadrad ble mae’r cyfesurynnau’n cwrdd gan wneud yn siŵr bod y lleoliad yn gyson bob tro.
  6. Cyfri nifer yr organebau yn y cwadrad.
  7. Ailadrodd y dull hwn o leiaf 25 o weithiau.

Amcangyfrif maint poblogaeth

Mae'r enghraifft hon yn dangos ble y dylet osod cwadrat, yn ôl cyfesurynnau, a pha organebau dylet eu cyfri a pha na organebau na ddylet eu cyfrif.

Diagram i ddangos ble dylet ti osod cwadrat yn ôl cyfesurynnau, a sut dylet ti wedyn ddefnyddio'r cwadrat i gyfrif organebau.

Defnyddia'r hafaliad hwn i gyfrifo nifer y planhigion gwair sydd yn yr arwynebedd cyfan.

\({\text{Cyfanswm nifer y planhigion gwair yn y sampl}}\times\)

\( \frac{\text{Cyfanswm arwynebedd}{\text{ (m}}^{2}{\text)}}{\text{Cyfanswm yr arwynebedd samplu}{\text{ (m}}^{2}{\text)}}\)

Question

Mae Sally eisiau gwybod faint o flodau sydd mewn cae 50 m2. Mae’n taflu digon o gwadradau i orchuddio 10 m2 ac yn dod o hyd i 40 blodyn. Gan ddefnyddio'r hafaliad, sut mae hi’n cyfrifo amcangyfrif nifer y blodau yn y cae cyfan?