Â鶹ԼÅÄ

Trawsluniau

Ystyr trawslun ydy llinell ar draws neu ran o gynefin. Mae’n gallu bod mor syml â llinyn neu raff wedi ei gosod mewn llinell ar y ddaear. Mae nifer yr organebau o bob ar hyd trawslun yn gallu cael eu harsylwi a’u cofnodi yn rheolaidd.

Fel arfer, mae trawslun yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i newid graddol mewn cynefin yn hytrach nag i amcangyfrif nifer yr organebau yn y cynefin hwnnw.

Mae diagram barcud yn dangos nifer yr anifeiliaid (neu ganran y gorchudd ar gyfer planhigion) yn erbyn pellter ar hyd trawslun.

Yn yr enghraifft hon, mae dosbarthiad planhigion dant y llew yn newid yn raddol o bum metr i 20 metr ar hyd y trawslun. Mae wedi ei osod bob metr (neu 2-3 metr) ar hyd y trawslun.

Diagram barcut gwair a dant y llew dros 25m. Gwair yn cynyddu a gostwng ychydig bach am gyfnod hir cyn cynyddu a gostwng yn serth at 25m. Dant y llew'n cynyddu'n serth yna'n gostwng yn raddol at 20m.

Yr enw ar newid graddol yn nosbarthiad rhywogaeth ar draws cynefin yw cylchfäedd. Mae’n gallu digwydd oherwydd newid graddol mewn ffactor anfiotig.

Question

Gan ddefnyddio'r data am ddosbarthiad gweiriau yn y diagram barcut uchod, awgryma pa mor bell ar hyd y trawslun fyddet ti'n dod o hyd i lwybr troed sy'n cael ei ddefnyddio'n aml.

Question

Wrth ddefnyddio trawsluniau i gofnodi faint o fwsogl gafodd ei ganfod, mae hi'n amhosibl cyfrif nifer y planhigion, felly fel rheol byddwn ni'n amcangyfrif y gorchudd canrannol.

Os oes 25 adran mewn cwadrad a bod mwsogl yn gorchuddio 16 o'r adrannau hyn, pa ganran o'r cwadrad sydd wedi'i orchuddio â mwsogl?

Cwadrat yn cynnwys 25 adran, a mwsogl yn gorchuddio 16 o'r adrannau hyn.