Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Cynlluniau Rhydwilym
Cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer capel hynaf y Bedyddwyr
Mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i droi capel hynaf y Bedyddwyr yng Nghymru yn ganolfan a fydd yn denu aelodau o bob enwad.
Eglurodd Elsa Davies, un o aelodau Capel Rhydwilym, mai'r bwriad yw troi'r capel yn ganolfan gydag amgueddfa fydd yn dathlu etifeddiaeth Anghydffurfiaeth Cymru.

Elsa Davies a Rhys Adams Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yr oedd Elsa a Rhys Adams, prif ddiacon Rhydwilym, yn dathlu derbyn £4,996 o gronfa Arian i Bawb Cymru tuag at wireddu eu breuddwydion ar gyfer y capel.

Mae'r Rhydwilym eisoes yn adnabyddus am y cymanfaoedd pwnc sy'n cael eu cynnal yno ond yn awr mae'r aelodau a'u bryd ar eangu ei apêl.

"Mae'r cynllun yn golygu adnewyddu'r capel a'i agor i'r gymuned leol trwy wneud pethau fel sefydlu amgueddfa gydag adran addysgol ac amgylcheddol a chanolfan i ymwelwyr o unrhyw enwad ddod yno i gynnal gwasanaethau neu ddigwyddiadau a mwynhau; ac efallai aros i gael te yn y festri," meddai Elsa Davies.

Ychwanegodd fod y pwyslais ar gadw'r capel yn un byw.

Capel Rhydwilym Dywedodd fod hanes Rhydwilym yn mynd yn ôl i 1667 a 1668 pan sefydlwyd yr achos yno ond oherwydd erledigaeth yn y dyddiau cynnar ni chodwyd y capel cyntaf tan 1701 a bu dau adeilad arall ar yr un safle ers hynny.

"Ond erbyn hyn mae pryder am gyflwr y capel presennol," meddai.

Cynllun difyr arall fydd digideiddio'r llyfr sy'n cofnodi hanes yr achos ac sy'n awr yn y Llyfrgell Genedlaethol fel y bydd ar gael ar y we i bawb dros y byd.

Gweithio'n galed
"Mae Rhydwilym yn drydydd capel hynaf y Bedyddwyr a'r unig un o'r tri sy'n dal yn fyw," meddai Elsa Davies.

"Yr oedd y cyntaf yn Y Fenni ac wedyn un arall ym Mro Gwyr ond ychydig sydd yno i ddweud fod capeli hynny wedi bod yno ond yn Rhydwilym mae capel byw gyda ni ac mae'n rhaid i ni weithio'n galed i'w gadw fe'n fyw fel ei fod yno i'r genhedlaeth sy'n dod ar ein hôl ni," meddai wrth gael ei holi ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg

Pob enwad
"Ac er mai capel i'r Bedyddwyr yw e, mae'n croesawu pobl o bob enwad i ddod a mwynhau ac, wrth gwrs, mae'n bwysig i'r gymuned achos mae pawb yn yr ardal yn gwybod am Rhydwilym, gwybod am y pwysigrwydd, gwybod am yr hanes,.

"Fe gawsom ni gyfarfod gyda'r gymuned ym Mehefin 2006 ac yr oedd pawb o'r un farn ei bod yn bwysig inni gadw capel Rhydwilym yn gapel byw nid yn unig i'r aelodau ond er clod i Dduw i bawb yn yr ardal."

Sefydlwyd gwefan i hyrwyddo'r datblygiadau diweddaraf ac eisoes derbyniwyd arian o dramor tuag at y gwaith.

"Rydym wedi cael mil o bunnau gan unigolyn yn Chicago. Felly mae hwnna'n beth da fod ein safle gwe ni'n gweithio," meddai Elsa Davies.

Pwll bedyddioHefyd rydym ni wedi cael y grant gan y Swyddfa Gartref oddi wrth Arian i Bawb Cymru ac mae hynna'n bwysig iawn fel ein bod yn cysylltu â'r Gymuned a chymryd sylw o beth maen nhw'n ddweud ar gychwyn y cynllun fel eu bod yn gallu helpu i ddod a'r gorau i'r ardal ac i'r capel," meddai.

Y capel
  • Mae Capel Rhydwilym yn ardal Maenclochog, sir Benfro.

  • Am y capel, dywedodd Y Parchedig Peter Thomas, ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru: "Mae gan Rhydwilym hanes cyfoethog i'w rannu gyda'r byd ond mae'r Capel mewn cyflwr bregus heddiw. Gan fod yno lawer o ddiddordeb i eglwysi eraill mae'n bwysig fod Rhydwilym yn cael eu cymorth i weithredu gweledigaeth y diaconiaid."

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý