Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Ioan Gruffudd Holi Ioan Gruffudd
"Gostyngedig" o gael chwarae rhan Wilberforce
Yn siarad ar y rhaglen radio Bwrw Golwg dywedodd Ioan Gruffudd iddo ef deimlo "yn ostyngedig iawn" o gael chwarae rhan Wilberforce.

Yn cael ei holi gan John Roberts bu'n sôn hefyd am apêl y gŵr hynod hwn ato.

Fel y gwelir yn y ffilm, yr oedd yn ddyn a fu yn ystod ei ddyddiau cynnar yn berson digon afradus ac afradlon ond a gafodd dröedigaeth grefyddol.
Dywed yn y ffilm pan ofynnir iddo, "Wyt ti wedi canfod Duw?"; "Na, rwy'n credu fod Duw wedi dod o hyd i mi."


  • Nid yn sant
    Meddai Ioan Gruffudd:
    "Yr oedd ei lyfrgell e yn llawn llyfrau mewn minature - yr oedd e'n medru eu cario nhw o gwmpas gydag e - roedd e'n darllen drwy'r amser. Roedd e'n teimlo ei fod wedi gwastraffu'i amser yn y brifysgol wrth yfed a chymdeithasu a gamblo ac ati; felly yn ei ddyddiaduron roedd e'n sgrifennu ar y top beth oedd e'n teimlo oedd e wedi wneud yn wael heddi.

    Doedd e ddim yn sant o bell ffordd a doeddwn i ddim am i bortreadu fel sant ond fel person fyddai pobl yn gallu cydymdeimlo ag ef.

    "Roedd ei ffydd yn rhywbeth oedd yn rhoi llawer o gysur iddo ac egni iddo fynd ati i ddymchwel caethwasiaeth.

    Yn ecsentrig iawn
    "Ac fe ddes i ddeall ei fod yn gymeriad ecsentrig iawn - yn hoff iawn o anifeiliaid - roedd ei dŷ yn llawn anifeiliaid ac ef ddechreuodd y Society fôr the Prevention of Cruelty to Animals.

    "Ac yr oedd yn berson hael wrth unrhyw un oedd yn dod i'w ddrws roedd e'n eu bwydo nhw neu roi arian iddyn nhw i fyw eu bywydau," meddai.

    Mor anghredadwy
    Ychwanegodd mai un rheswm pam fod yr hyn a gyflawnodd mor anghredadwy oedd fod caethwasiaeth yn rhan mor naturiol o fywyd y cyfnod hwnnw ac yn elfen allweddol yn economi Prydain.

    "Roedd economi Prydain yn dibynnu'n llwyr ar gaethwasiaeth a siwgr oedd yn dod o'r plantations yn y byd newydd ac roedd ef yn gofyn i'r wlad gael gwared â'r economi fwyaf. Fe fyddai pawb yn dioddef.

    "Ond y peth pwysig oedd fod pobl yn dioddef yn erchyll fel caethweision ac roedd yn rhaid gwneud rhywbeth amdano fe," meddai.

    'Y ffilm oeddem ni am ei gwneud'
    Ynglŷn â beirniadaeth fod gormod o sylw i Wilberforce yn y ffilm ar draul ymgyrchwyr eraill dywedodd:
    "Dyna oedd y ffilm oeddem ni am i wneud - ac rwy'n bod yn onest fan hyn roeddem ni'n gwneud ffilm ynglŷn â gwleidyddiaeth y slave trade.

    "Nawr fe allem ni wneud sawl ffilm ynglŷn a chaethwasiaeth a'r daith erchyll oedden nhw wedi gofod ymgymryd â hi ond, yn syml iawn, doedden ni ddim am ddweud y stori honno ond dweud y stori am wleidyddiaeth y peth a beth oedd yn mynd ymlaen yn San Steffan ac yn Nhŷ'r Cyffredin.

    "A Wilberforce oedd yr unig wleidydd yn Nhŷ'r Cyffredin a'r pŵer i wneud unrhyw beth amdano fe.

    "Tan i Wilberforce glywed am y peth ac addysgu'i hunan am y peth - rhaid cofio nad oedd y peth yn cael eu gyflwyno ym Mhrydain a doedd neb yn gwybod amdano fe - felly mae beth gyfrannodd e yn anghredadwy.

    "Rydw i wedi teiimlo'n ostyngedig iawn a dweud y gwir o chwarae cymeriad fel hyn a gweld gymaint gall un dyn gyflawni yn ei fywyd," meddai.

  • Adolygiad o'r ffilm
  • a dewis Bwrw Golwg i wrando ar y rhaglen yn trafod caethwasiaeth ac yn holi Ioan Gruffudd.


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý