Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Hamas Hamas
Meilyr Ceredig yn sôn am gychwyn a datblygiad y mudiad
Yn mis Ionawr 2006, yn dilyn etholiadau tanllyd i Senedd Palesteina, daeth adain wleidyddol Hamas i rym yn Gaza ar y lan orllewinol.

Er bod enw'r mudiad yn un Arabaidd yn golygu zeal mae'r enw hefyd yn acronym o Mudiad Rhyddid Islamaidd.

Enillodd Hamas 74 allan o'r 132 o seddi yn Senedd Palesteina, gan guro Fatah, plaid a fu'n cynrychioli pobl Palesteina am ddegawdau.

Yn draddodiadol, gwrthododd Hamas â sefyll mewn etholiadau i'r sefydliadau a grëwyd trwy y broses heddwch Oslo.

Yn ddomestig, enillwyd yr etholiad o ganlyniad i wrthwynebiad y bobl i lwgrwobrwyo, cyhuddiad a wnaed yn gynyddol yn erbyn Fatah. Roedd eu polisïau digyfaddawd tuag at wladwriaeth Israel, trwy ddau initfada, hefyd yn ffactor yn y gefnogaeth i adain filwrol ac adran wleidyddol y mudiad Hamas.

Wrth i ganlyniadau'r etholiad lifo i mewn achoswyd cryn ddryswch yn Ewrop a'r Unol Daleithiau o weld Hamas yn ennill grym. Hynny, oherwydd eu dealltwriaeth hwy mai mudiad milwrol yn unig oedd Hamas a mudiad a ddefnyddiai derfysgaeth i gyflawni ei amcanion.

Cefndir y Mudiad
Tyfodd Hamas o'r Frawdoliaeth Foslemaidd (Muslim Brotherhood), mudiad crefyddol, gwleidyddol a chymdeithasol a sefydlwyd yn yr Aifft yn 1929.

Erbyn yr Wythdegau roedd adain Balesteinaidd y mudiad yn rhedeg strwythur cymdeithasol yn Llain Gaza, strwythur y mae Hamas wedi ei atgyfnerthu hyd at heddiw.

Mae'r mudiad, felly, yn rhedeg pob math o sefydliadau cymdeithasol yn ysgolion, meddygfeydd, cartrefi i blant amddifad ac undebau Islamaidd.

Cododd y mudiad yr ydym yn ei adnabod heddiw fel Hamas o'r intifada - deffroad - cyntaf a ddechreuodd ym Mhalestina fis Rhagfyr 1987.

Drwy alltudio Yassir Arafat a'r PLO o Libanus i Tunis, llwyddodd yr Israeliaid i gyfyngu'r frwydr i Balesteina.
Deilliodd yr intifada wrth i'r gymdeithas Balesteinaidd radicaleiddio'n gynyddol oherwydd y sefyllfa genedlaethol hanesyddol, cymdeithasol ac economaidd.

Hamas Ymatebodd Israel i'r intifada trwy geisio defnyddio grym milwrol a radicaleiddio'r boblogaeth fwy fyth.

Fel mudiad torfol nid oedd gan y Frawdoliaeth Foslemaidd (Muslim Brotherhood) ddewis ond tyfu'n fudiad mwy cenedlaetholgar wrth i'w haelodau radicaleiddio fel rhan o'r un broses ac wrth i fudiadau eraill ddechrau achub y blaen ar y sefyllfa a honni eu bod hwythau hefyd yn siarad dros bobl Palesteina.

Arwyddodd Sheik Ahmed Yassin, arweinydd ysbrydol y mudiad, gynnig ffurfiol bod y mudiad yn ymuno â'r initifada, a'r mudiad a ymgyrchodd o blaid y deffroad oedd Mudiad Rhyddid Islamaidd - Hamas.

Ideoleg
Yn ystod y blynyddoedd cynnar y ffurfiwyd craidd polisïau a chredoau'r mudiad ac mae ideoleg grefyddol Hamas wedi ei blethu â dyheadau gwleidyddol a all amrywio o dro i dro gan ymddangos yn anghyson ar adegau.

Mae gan y mudiad Siarter ar ffurf Maniffesto o 36 o erthyglau sy'n egluro'r berthynas rhyngddo a'r PLO, yr "endid Seionistaidd" a'i strwythur fel sefydliad. Y Siarter a'r' Koran' sy'n gosod fframwaith ideolegol y mudiad.

Hyd yn oed yn y cyfnod cynnar, derbyniai siarter y mudiad genedlaetholdeb fel elfen hanfodol o'r ideoleg, trwy blethu ideoleg Islamaidd gyda chenedlaetholdeb Palesteinaidd.

Mae'r plethiad hwn yn dangos pragmatiaeth y mudiad yn gollwng gafael o'r hen athroniaeth wrth-genedlaetholgar a fu'n bodoli yn y Frawdoliaeth Foslemaidd (Muslim Brotherhood).

Serch hynny, mae'r plethiad yn esgor ar broblem arall i'r mudiad sydd i'w weld heddiw. Yn ystod trafodaethau Oslo, roedd yn bosib i Fatah ollwng y syniad o Balesteina gyda ffiniau 1948 ac wrth wneud greu problem arall i Hamas ar y pwynt hwn.

Byddai cefnu ar ffiniau 1948, Palesteina, nid yn unig yn wrth genedlaetholgar i'r mudiad ond hefyd yn wrth Islamaidd.
Datrys y broblem honno yw cur pen mawr y mudiad hyd yn oed heddiw.

Wrth edrych yn ôl dros ddau ddegawd o hanes y mudiad, mae'n bosib gweld fod y mudiad yn bragmataidd wleidyddol wrth ddiffinio ei erthyglau a'i benderfyniadau.

Un enghraifft o hyn, a phrif nod y mudiad, yw'r modd y mae'r mudiad yn delio gydag Israel - neu fel y'i gelwir gan Hamas yr "endid Seionistaidd".

Er nad yw Hamas yn cydnabod Israel, a'r duedd i wrth-Seionistiaeth lithro i mewn i rethreg gwrth-Semitaidd, mae'r mudiad yn nodi'r parodrwydd am gadoediad a all bara am flynyddoedd lawer.

Mae'r parodrwydd yma wedi amlygu ei hun, yn weithredol felly, gyda'r cadoediad diwethaf yn para o Fawrth 2005 hyd at Fehefin 2006.

Syniadaeth o Jihad amddiffynnol a ddefnyddir gan y mudiad. Yn yr un modd, mae'r mudiad yn croesawu democratiaeth yn y rhanbarth ac ym Mhalesteina, oherwydd i'r mudiad gredu taw dyma'r ffordd ddilys y bydd llywodraethau Islamaidd yn dod i rym.

Strwythur y mudiad
Mae'n anodd egluro yn fras strwythur y mudiad.
Mae nifer o adrannau, strwythurau a hyd yn oed arweinyddiaethau.

Yr un mwyaf adnabyddus yn ôl y wasg yw adain filwrol y mudiad. Llai adnabyddus tan yn ddiweddar yw ei strwythur cymdeithasol a'r adain wleidyddol.

Mae i arweinyddiaeth y mudiad ddwy brif garfan.
Hynny yw, arweinyddiaeth sy'n bodoli y tu allan i Balesteina, a honno sydd o fewn Palesteina (ffiniau 1967).

Yn hanesyddol, mae arweinyddiaeth 'allanol' y mudiad yn llawer mwy crefyddol ddogmataidd o gymharu â'r arweinyddiaeth 'fewnol' Balesteinaidd sy'n fwy pragmataidd.

I gloi, gwelwn fod proses gwirioneddol iach yn bodoli wrth i Hamas gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ym Mhalesteina heddiw.

Wrth gynyddu grym arweinyddiaeth 'mewnol' y mudiad, y mae'r mudiad yn esblygu fwyfwy i fod yn un llawer mwy pragmataidd yn ei ymwneud â heddwch gydag Israel.

Ond yn sgil hyn, y mae yna berygl y gall yr heddwch hwnnw gael ei golli wrth i gymdeithas Palesteina gael ei gwthio i eithafion gyda gwaharddiadau economaidd a thrwy arestio ei Haelodau Seneddol acun rhan o dair o Gabinet Senedd Palesteina.

Gyda'r tactegau hynny y mae Israel, a'r gymuned ryngwladol yn gynyddol, yn gwthio y mudiad a phobl Phalesteina i gornel.

A thrwy hynny i ddwylo arweinyddiaeth o'r tu allan a'r union ddulliau terfysgol y maen nhw yn ceisio eu rhwystro rhag dod i rym.

Meilyr Ceredig
  • Hon yw'r ail mewn cyfres o erthyglau gan Meilyr Ceredig yn trafod mudiadau Islamaidd sydd yn y newyddion ar hyn o bryd - hydref 2006.

    Mae Meilyr Ceredig yn Ymgynghorydd Gwleidyddol gyda Grayling Cymru. Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Abertawe gyda gradd bellach mewn Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth gan arbenigo ar derfysgaeth yn y Dwyrain Canol.

    Erthyglau Eraill .

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý