Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Margaret Jones 'Dal ati' - neges Nadolig
Gwerth capel ac eglwys mewn dyddiau anodd
Mae rhai sy'n mynychu digwyddiadau crefyddol dros y Nadolig yn cael eu hannog i barhau â'r arferiad gydol y flwyddyn.

Mewn neges Nadolig dywed Margaret Jones, llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y gall mynychu capel neu eglwys fod o help mewn dyddiau o ansicrwydd economaidd mawr.

Heidio dros y Nadolig
"Adeg y Nadolig bydd pobl yn llifo yn ôl i gapeli ac eglwysi Cymru, gyda dramâu'r plant a gwasanaethau carolau yn denu cynulleidfaoedd mawr.

"Ond unwaith mae'r Å´yl wedi mynd heibio, mae nifer o bobl yn troi eu cefnau ar Grist am flwyddyn arall," meddai.

"Eto, mae llawenydd yr Efengyl, sy'n fodd i godi calon pobl dros y Nadolig, ar gael iddyn nhw drwy'r flwyddyn. Mae mor drist bod cymaint yn anghofio hyn ac yn ymdrechu i ymdopi â phroblemau bywyd heb gymorth Duw."

Yn bwysicach nag erioed
Yn ei neges dywed Miss Jones hefyd fod y gymuned Gristnogol "yn bwysicach nag erioed" pan ydym ar drothwy problemau economaidd a chymdeithasol "na welsom ni mo'u tebyg".

"Mae'n cynnig cyfeillgarwch, diogelwch a chymorth i bobl drwy stormydd bywyd ac rwy'n annog pawb a deimlodd gysur a bendith mewn gwasanaethau Nadolig i geisio'r ymdeimlad yna ar hyd y flwyddyn trwy fynychu capel neu eglwys.

"Cofiwch - dim ond dechrau'r stori oedd y Nadolig," meddai.

  • Gwefr y geni - ymateb bardd

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý