Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Jwdas
Sioe gerdd yn cydymdeimlo â bradwr enwoca'r byd . . .
Yn sioe gerdd ddiweddaraf cwmni theatr Cristnogol Cymraeg edrychir gyda chydymdeimlad ar Jwdas Iscariot - y bradwr enwocaf yn hanes y byd.

Ac yn Jwdas a berfformiwyd gan Gwmni Tystion Broydd Tywi daeth elfennau mor annisgwyl â chaneuon Elvis Presley a phroffwydoliaeth Eseia at ei gilydd.

Teimlo cydymdeimlad
Awdur Jwdas - a berfformiwyd gyntaf yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, nos Iau Tachwedd 7, 2006 gan y cwmni o rhyw gant o aelodau - yw Nan Lewis sy'n awdur nifer fawr o basiantau.

Eglurodd ar Bwrw Golwg sut y bu iddi gyfansoddi'r gwaith:
"Rwy'n cofio mynd i Oberamegau yn 1960 a dyna'r tro cyntaf imi deimlo cydymdeimlad gyda Jwdas - a minnau wedi teimlo fel y rhan fwyaf o bobl mai person i'w gondemnio oedd o.

"Ond wedi'r cyflwyniad yna yr oeddwn yn gweld gwedd newydd arno fe a dyna pam y dewisais i'r testun," meddai.

"Yr hyn ydw i'n wneud yw edrych ar broffwydoliaeth Eseia ac yn ôl honno yr oedd yn rhaid i rywun arwain yr Oen i'r lladdfa a dyna yw'r dehongliad sydd gyda fi - roedd Jwdas yn cael ei ddewis i arwain yr Oen i'r lladdfa, dyna yw ei dynged e.

Gofyn y cwestiwn
"Rwy'n siŵr y bydd nifer yn anghydweld â'r dehongliad yna ond rwyf i mewn cydymdeimlad ag ef ac rwy'n gobeithio y bydd y cyfan yn ennyn trafodaeth yn y diwedd gan mai dyna un o'r amcanion," meddai.

"Yn ôl dwy efengyl - Marc a Mathew - dim ond bradwr oedd e ac yn ôl Luc a Ioan mae wedi cael ei feddiannu gan Satan ac mae dyn yn gofyn y cwestiwn, Pwy sy'n dweud ei fod wedi cael ei feddiannu gan Satan? ac yn y diwedd rwy'n ceisio bod yn wrthrychol ac mae Jwdas yn gofyn y cwestiwn, Pwy sydd wedi'i ddefnyddio fe, Duw ynteu'r Diafol."

Elvis ac emynau
Dywedodd Eryl Jones, cyfarwyddwraig cerdd y sioe fod amrywiaeth o gerddoriaeth wedi'i chynnwys:
"Yr ydym ni wedi edrych ar gerddoriaeth gyfoes iawn - mae Nan Lewis yn hoff iawn o Elvis Presley ac mae hi wedi gosod geiriau sy'n gweddu i'r pasiant ond hefyd yn adlewyrchiad o gerddoriaeth Elvis Presley.

"Mae yna emynau yno, mae yna waith o'r Meseia yn clymu fewn pethau ac felly rydym ni wedi cael cerddoriaeth gyfoes, draddodiadol, seciwlar, emynau ac yn y blaen- mae pob peth yno."

Ychwanegodd i'r gwaith fod yn "sialens fawr" i'r rhai gymerai ran.

"Ond rwy'n credu eu bod nhw wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn. Mae'n beth nad anghofia nhw byth," meddai.

Tynnu'r enwadau
Dywedodd Nan Lewis, hithau, fod y pasiant yn gyfrwng pwerus iawn i gyflwyno yr efengyl ac i genhadu..

"Ond mae yna bwrpas arall hefyd sef ein bod ni yn tynnu'r enwadau at ei gilydd ac yn y cwmni yma rwy'n siŵr bod oddeutu pump neu chwech o enwadau wedi dod at ei gilydd ac mae wedi bod yn brofiad arbennig," meddai.

  • Ond heb amheuaeth y pwnc dadleuol yw y dehongliad o ran Jwdas yn hanes Crist.

    Beth yw eich barn chi am ei ran ef yn hanes Iesu Grist?
    Bradwr, ynteu un wedi ei ddefnyddio gan Dduw i ddod a'i waith i ben - ynteu erfyn yn llaw y Diafol?
  • Cliciwch i ebostio eich sylwadau.

  • Cliciwch i weld lluniau o'r cynhyrchiad gan Hywel Rees.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý