Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Yr Esgob Tony Crockett Cerdded i gofio Esgob
Teulu a ffrindiau yn cofio Tony Crockett
Bydd y diweddar Esgob Tony Crockett yn cael ei gofio flwyddyn wedi ei farwolaeth gyda chyfres o deithiau cerdded rhwng de a gogledd Cymru.

Bu farw Tony Crockett a oedd yn Esgob Bangor yn 62 oed yn 2008 yn dilyn brwydr yn erbyn canser.

Ac yntau yn un a gafodd lawer iawn o bleser o gerdded - a phererindota yn arbennig - yn ystod ei fywyd mae ei deulu a'i ffrindiau yn trefnu ar gyfer 2009 bedair taith gerdded mewn gwahanol rannau o Gymru fel rhan o bererindod o Bontypridd, lle cafodd ei eni, i Fangor.

Kate Crockett Meddai ei ferch, Kate Crockett:
"Roedd Dad yn hoffi cerdded ac wedi cwblhau pererindod o fil o filltiroedd o Le Puy i Santiago de Compostela yn 1995. Felly dyw'r ychydig dros 300 milltir sydd gyda ni i'w wneud ddim yn teimlo fel cymaint o daith!"

Pedair wythnos
Bydd y daith yn cael ei rhannu dros bedair wythnos wahanol, gan ddechrau ym mis Ebrill (13-18), ac yn parhau ym mis Mai (26-30), Gorffennaf (23-26), ac Awst (9-14).

Mae croeso i unrhyw un ymuno a'r daith am gyfnodau o'u dewis bydded hynny yn awr o gerdded neu fwy.

Er nad codi arian oedd y bwriad gwreiddiol dywedodd Kate Crockett y bydd arian yn cael ei godi tuag at ymchwil canser y prostrad trwy y Prostrate Cancer Research Association.

Wrth sôn am y daith ar y rhaglen radio Bwrw Golwg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru Cyfeiriodd Kate Crockett at ddiddordeb mawr ei thad mewn pererindota:




Sgwennu yn helaeth
"Yr oedd diddordeb arbennig gydag ef mewn pererindota - roedd wedi sgwennu yn eithaf helaeth ar y pwnc a diddordeb mewn ymchwilio i'r pwnc ac yr oedd ef ei hun wedi cerdded ar y daith i Santiago de Compostela yn 1995 a oedd yn fil o filltiroedd. Fe gymerodd e chwech wythnos o gyfnod Sabothol i wneud hynny" meddai.

"Yng Nghymru cerddodd o Sir Fôn i Dyddewi yn 2006 ac yr oedd wrth ei fodd yn cerdded yn y Bannau.

"Yr oedd yn rhywbeth oedd yn dod a phleser iddo fe."

Yn ystod ei salwch olaf yr oedd yr Esgob Crockett wedi trefnu pererindod yn ei esgobaeth i Aberdaron ac i olwg Ynys Enlli gyda rhai yn croesi'r bar i'r ynys - ond methodd ag ymuno â honno ei hun oherwydd ei waeledd.

"Mae e wedi sgrifennu tipyn. Fe sgrifennodd hanes ei daith i Compostela ac fe gafodd darnau eu darllen yn ei angladd," meddai Kate.

Yn ysbrydol
"Yr oedd e'n mwynhau'r peth yn ysbrydol a theimlo ei fod yn dilyn yn ôl troed pobl oedd wedi bod [ar bererindod] ar hyd y canrifoedd ac yr oedd e'n mwynhau hanes pererindota a shwt roedd yr ystyr wedi newid dros y blynyddoedd ond hefyd yr oedd e jyst yn esgus da sut i gael ychydig o ymarfer corff , dod i adnabod Cymru yn well, dod i adnabod ardaloedd eraill yn well a dod i adnabod pobl eraill yn well achos wrth gerdded i Compostela fe gwrddodd e a phobl o bob rhan o'r byd oedd hefyd yn gwneud y daith honno," meddai.

  • Prif ddalen y teithiau.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý