Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Ynys Enlli - lle i encilio Gwerth encilio
'Nid troi cefn yw encilio . . .'
  • Beth sy'n gwneud i rai pobl ddewis encilio o'u byw bob dydd am gyfnodau? Yn ôl un oedd ar fin treulio cyfnod ar Ynys Enlli nid ymgais i ddianc a throi cefn ar wegi'r byd yw encilio. I'r gwrthwyneb, yn wir:

    Meddai Nia Higginbotham, gweithwraig gymunedol, wrth y rhaglen radio Bwrw Golwg cyn cychwyn ar ei hencil hi ar Ynys Enlli:
    "Mae'n awydd i gymryd ysbaid o amser i feddwl am stad y byd ac am stad y greadigaeth ac am ni'n hunain a'n lle yn y byd.

    Ac mae hanes Enlli a'r ymdeimlad fod y Saint yno, mae'n siŵr, yn denu.

    "Dydw i erioed wedi bod yno [o'r blaen] ond mae rhai sydd wedi bod yn dweud ei fod yn rhoi modd i fyw ac yn help mawr i fedru dod nôl a wynebu bywyd."

    Dywedodd nad cyfle i ddianc rhag y byd yw hyn ond:
    "Dianc i fedru gwneud mwy o synnwyr . . . o'n lle ni yn y byd a beth ddylem ni fod yn ei wneud ac i weld posibiliadau natur ac yn fwy na hynny i weld posibiliadau pobl o gred a beth allwn ni wneud i adael ein marc ninnau ar y byd."

    Werth sôn am bwysigrwydd lle dywedodd:
    "Mae yna ymdeimlad yn aml fod llefydd yn sanctaidd ac yn sicr mae llefydd pellennig yn gadael i rywun ryfeddu at y greadigaeth ac yn rhoi rhyw bersbectif inni am ein lle . . . ac mor fach ydi llawer o'n pryderon personol yn llif hanes ac yng nghyfanwaith y greadigaeth."


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý