Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Rowan Williams, Archesgob Caergaint Dadl Rowan a Dawkins
Rowan williams a Richard Dawkins - egluro'r gwahaniaeth
Cafodd y gwahaniaeth sylfaenol rhwng safbwynt Rowan Williams, Archesgob Caergaint, ac un Richard Dawkins, y gwyddonydd, ei egluro ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg


Yr oedd Noel Davies, Cyfarwyddwr Hyfforddiant yr Annibynwyr yn y De a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ecwmenaidd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, yn siarad wedi iddo fod yn gwrando ar ddarlith gan yr Archesgob - Sut i Gamddeall Crefydd - ym Mhrifysgol Abertawe, Hydref 13.



Yn cael ei holi gan John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, dywedodd Noel Davies mai craidd safbwynt Dawkins yw y gellir delio â phethau crefyddol yn yr un modd a phethau biolegol. Richard Dawkins Ei ddamcaniaeth yw bod genynnau mewn pobl sy'n trosglwyddo nodweddion diwylliannol yn yr un modd ag y mae genynnau eraill sy'n trosglwyddo nodweddion biolegol o un genhedlaeth i'r llall.


"Ond dywed Rowan Williams nad oes unrhyw brawf mai felly mae hi ac, felly, nad oes unrhyw sicrwydd y gellir siarad am grefydd yn yr un modd ag y gellir siarad am Fioleg," meddai,"


Esbonio'r anesboniadwy
"Mae Dawkins yn awgrymu mai pwrpas crefydd, ymhlith pethau eraill, yw trio esbonio yr anesboniadwy. Esbonio tarddiad y greadigaeth, tarddiad bywyd ac, wrth gwrs, mae'n dweud, 'Mae hynny'n ddwli, dyw e ddim yn bosib felly mae crefydd yn ddwli.'


"Ond y pwynt mae Rowan Williams yn ei wneud yw, nad yw crefydd fel y cyfryw yn ceisio esbonio.


"Ymateb i'r hyn 'Sydd' y mae crefydd nid trio esbonio ei darddiadau - mater o ffydd yw e.


"Mae yna naid sy'n dweud, Yn Nuw mae hyn wedi digwydd - allwch chi ddim profi hynny. Dyw e ddim yn esbonio dim ond fan yna rydym ni'n sefyll ac felly dyw honiad sylfaenol Dawkins ddim yn dal dŵr," meddai Noel Davies.


Arwydd o wendid
Ynglŷn â dadl Dawkins mai arwydd wendid mewn pobl yw'r angen am grefydd i fod yn fagl i'w cynnal dywedodd Noel Davies:
"Odi mae e'n dweud hynny - ond eto doedd Rowan Williams ddim yn cymryd hynny o ddifrif ychwaith a beth mae e'n honni yw nad ydym yn sylfaenol yn crefydda er mwyn sicrhau ein diogelwch ein hunain.


"Efallai'n bod ni'n credu o ganlyniad i'n crefydd fod yna ddyfodol. Falle 'mod i'n credu mod i'n Gristion gweithredol am fy mod i'n credu y byddai hynny yn arwain i ddyfodol tragwyddol ond dyw hynny ddim yn hanfod crefydd.


" Yr ydym ni'n credu; am fod Duw . . . yno i ni ac rydym yn rhoi ein hunain yn nwylo Duw hyd yn oed os na fydd hynny yn gwarantu unrhyw ddyfodol a diogelwch am y dyfodol.


"Ac rwy'n credu fod Rowan Williams yn dadlau nad yw Dawkins wedi deall yr elfen yma o fenter, o risgio'r dyfodol er mwyn ffydd," meddai.


Wrth orffen ei sgwrs dywedodd Noel Davies fod hon yn drafodaeth sydd angen ei hymestyn.


"Mae'r cwestiynau yma yn dyngedfennol bwysig," meddai.


  • Ewch yn ddechrau'r erthygl i wrando ar y drafodaeth.

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý