Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Banc Grameen - bethyciadau i'r tlawd Diwrnod Tlodi Byd
Talu teyrnged i fanc sy'n helpu'r tlodion
Disgrifiodd un o weithwyr Tearfund Ddydd Tlodi Byd fel cyfle i atgoffa'r gwledydd cyfoethog o addewidion a wnaed ganddynt droad y ganrif i ymgyrchu tuag at ddileu tlodi.

Yr oedd Dewi Arwel Hughes, ymgynghorydd diwinyddol i Tearfund, yn siarad ar Bwrw Golwg, Hydref 15, 2006, pryd y dywedodd fod i'r Cristion ddyletswydd arbennig yn hyn o beth.

Dyletswydd y Cristion
"Mae cyfiawnder yn rhywbeth y dylem ni fel Cristnogion fod a wnelo ni ag o ac y mae ymladd yn erbyn tlodi'r byd yn rhywbeth y dylem ni fod yn ymwneud ag o," meddai.

"Fel Cristion, os yr ydw i yn gweld rhywun yn dioddef o newyn ac sydd heb ddigon o fwyd i'w fwyta ac sy'n marw yn ddianghenraid does dim eisiau athroniaeth fawr - dylai tosturi wneud rhywbeth inni fel Cristnogion sydd yn dilyn Gwaredwr sydd wedi dangos tosturi tuag atom ni. Fe ddylem ni ymateb, fe ddylem ni wneud rhywbeth am y peth," meddai.

Atgoffa'r arweinwyr
Dywedodd fod ymgyrch lle gofynnwyd i bobl sefyll yn llonydd am un munud i nodi Dydd Tlodi Byd ar Hydref 17 yn un ffordd o atgoffa Cristnogion o'u dyletswyddau. "Mae'r ymgyrch ddiweddaraf yn fodd i atgoffa yr eglwysi i atgoffa arweinwyr y byd o addewidion a wnaed ganddynt mewn cynhadledd ar drothwy'r mileniwm," meddai.

"Y dyddiad [i gyflawni yr hyn addawyd yn y gynhadledd] ydi 2015 ac yr ydym chwe blynedd i mewn i'r cyfnod erbyn hyn ac mae angen atgoffa'r bobl yma sydd wedi gwneud eu haddewidion,Beth am drio eu cadw nhw. Hwb bach [ydi hyn] i atgoffa pobl o beth wnaethon nhw ddweud oedden nhw'n mynd i'w wneud," meddai.

Banc y tlodion
Yn ystod ei sgwrs talodd Dewi Arwel Hughes deyrnged hefyd i gynllun benthyciadau meicro sy'n cael ei weithredu ymhlith tlodion Bangladesh gan Fanc Grameen a sefydlwyd gan Dr Muhammad Yunus a enillodd Wobr Heddwch Nobel am ei waith.

Dr Muhammad Yunus "Mae Yunus wedi bod yn arloeswr aruthrol yn gwasanaethu'r tlawd.

"Does gan y tlodion ddim asedau i fynd at fanc i gael benthyciadau a beth wnaeth y Banc Grameen ond ffeindio ffordd i fenthyg arian i'r tlawd er mwyn eu helpu nhw ennill bywoliaeth iddyn nhw'u hunain.

"Maen nhw wedi arloesi'n aruthrol ac yn haeddu y wobr yma gan eu bod wedi rhoi benthyg i filiynau ar filiynau o dlodion heb unrhyw obaith cael benthyciad gan fanc cyffredin," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý