Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Alun Lenny Alun Lenny - ysgogydd crefyddol
Profiad ysbrydol yn newid ei fywyd
Bu'r darlledwr Alun Lenny yn sôn am ddigwyddiad rhyfeddol sydd wedi newid cwrs ei fywyd.

Mewn sgwrs gyda Gwilym Owen am ei benderfyniad i adael byd darlledu a newyddiadura dywedodd iddo gael ei feddiannu "mewn amrantiad" gan dawelwch ysbrydol.



"Roeddwn wedi cael fy magu mewn capel ac ysgol Sul ond roeddwn i'n mynd trwy gyfnod anodd iawn yn fy mywyd," meddai ar Wythnos Gwilym Owen, Ebrill 9, 2007.

"Roeddwn i'n dioddef o straen a stres ac yn methu ymlacio'n iawn. Roedd hi'n amser prysur iawn yn y gwaith a [minnau'n] mynd mewn gormod i'r gwaith ac yn troi at bethau i ymlacio - at dabledi doctor, at bopeth o alcohol i aromatherapi a'r pethau amgen yma a dim byd yn gweithio - ond mynd yn waeth ac yn waeth.

Teimlo presenoldeb
"Ac yna, ar amrantiad, un prynhawn ym mis Medi 2001, teimlo y presenoldeb yma - dyna'r unig ffordd allai ddweud amdano fe - ond teimlo, yn ddisymwth, teimlo y tawelwch a'r presenoldeb grymus oedd yn rhywbeth real iawn oherwydd fe wnaeth e newid fy mywyd i ar amrantiad," meddai.

"Yr oedd yr holl bryderon, yr holl ofidiau, yr ofn yma yn diflannu fel'na.

"Gohebydd ydw i, rydw i'n delio mewn ffeithiau, ac allai ond dweud wrthych chi fel ffaith y peth hollol ymarferol yma ddigwyddodd yn fy mywyd i," ychwanegodd.

Newyddion gwahanol
Ers hynny, ac yntau'n awr wedi ymddeol o'i waith yn ohebydd gyda'r Â鶹ԼÅÄ mae'n ymgymryd â swydd newydd sbon yn "ysgogydd" gydag eglwysi annibynnol yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin.

"Dal i fod ym myd cyfryngau fydda i ond y bydda i'n awr yn cyhoeddi Newyddion Da, yn hytrach na newyddion bob dydd sy'n tueddu i fod yn newyddion drwg ac yn newyddion sinigaidd yn yr oes hon, dwi'n ofni," meddai wrth Gwilym Owen.

Dywedodd ei fod yn mwynhau ei waith yn newyddiadurwr "ond yr oedd gen i bethau eraill oeddwn i'n dymuno eu gwneud," meddai.

"Mae yna bethau penodol yr ydw i eisiau'u gwneud. Yr ydw i wedi bod yn pregethu'n gynorthwyol ers rhyw bedair i bum mlynedd ac roeddwn i'n gweld hon, y swydd ran amser, newydd, yma fel datblygiad o hynny," meddai.

Ysgogi eglwysi
Eglurodd y bydd y swydd newydd dan gynllun AGAPE a'r Council fcr World Mission yn golygu mynd o gwmpas yn ysgogi eglwysi yn Sir Gaerfyrddin i feddwl a gweithredu mewn ffyrdd gwahanol.

"Modryb i mi o ardal Rhydargaeau ers llawer dydd yn genhades yn Yr India - nawr mae angen cenhadu yn Rhydargaeau," meddai Alun Lenny.

"Mae'r Mormoniaid yn dod o bellter byd i genhadu yn ein plith ni ond rydym ni yn rhy swil a gormod o ddiffyg hyder arnom ni i siarad am y pethau," meddai.

"Roeddem yn sôn ar y cychwyn am fyd crefydd fel pe byddai yn rhyw fyd gwahanol i'r byd go iawn - wel, dyw e ddim ac mae yna angen gwirioneddol ymhlith pobl ac unigolion ac ymhlith cymdeithas - dydyn nhw ddim yn adnabod beth yw'r angen ond rwy'n siŵr taw yr angen yw yr angen am Dduw yn eu bywydau nhw heddiw," meddai.

Newid ffordd o feddwl
Ychwanegodd mai ei waith fydd ysgogi "y saint yn yr eglwysi" yng ngeiriau Gwilym Owen i adfywio o fewn yr eglwysi eu hunain.

"Diwygio'n ffordd o feddwl a chael pobl i feddwl mewn ffordd wahanol ac i roi mwy o flaenoriaeth i grefydd mewn bywyd pob dydd ac ar y Sul hefyd a gwneud pethau bach syml fel rhoi arwydd i fyny yn dweud mai capel lle a'r lle yw hwn a dyma'r enwad a dyma rif ffôn y gweinidog.

"Rhoi taflenni allan, falle yn y garej, yn y siop neu swyddfa'r post. Dweud wrth bobl," meddai.

"Yr ydym wedi bod yn ormod o bobl sedd gefn hyd yn hyn. Yr agwedd, 'Maen nhw'n gwybod lle'r ydym ni os ydyn nhw eisiau dod'.

"Ond yn yr oes hon dyw hynny ddim yn gweithio - rhaid ichi wahodd pobl a mynd allan yn eu plith nhw i ofyn iddyn nhw ddod atoch chi os ydyn nhw'n dymuno achos allwch chi ddim gorfodi neb i wneud dim," meddai.

  • Ymunodd Alun Lenny wedyn â thrafodaeth rhwng y Parchedigion Pryderi Llwyd Jones, W J Edwards, Emlyn Richards a Nia Morris. I ddarllen am y drafodaeth honno ac i wrando arni cliciwch YMA


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý