Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Y logo newydd - Gorffennaf 2006 Logo newydd Undeb Bedyddwyr Cymru
Adeiladu ar gyfer y dyfodol
Mae gan Undeb Bedyddwyr Cymru logo newydd.
Mae'n darlunio ciwb gyda'r llythrennau UB a BU (Undeb y Bedyddwyr a Baptist Union of Wales) ar ddau wyneb iddo a map o Gymru gydag arwydd y groes ar wyneb arall.

Uwchben ac oddi tan y ciwb mae enw'r Undeb yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae'n rhoi i'r Undeb ddelwedd newydd.

Ar y rhaglen radio Bwrw Golwg o gyfarfod blynyddol yr Undeb yn Aberteifi Gorffennaf 17 - 19, 2006, eglurwyd ei arwyddocâd gan Peter M Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.
"Mae'r ciwb sydd yn cynrychioli'r ddelwedd newydd yn sôn rhywbeth am yr hyn ydym ni'n ceisio'i wneud fel cenhadaeth," meddai.

"Pe byddech chi'n agor y ciwb i fyny yr ydych chi'n gweld croes ac yng nghanol ein cenhadaeth mae yna groes ac mae Croes Crist a'r syniad y mae'r groes honno yn ei gyfleu yn gwbl ganolog," meddai.

"Wedi dweud hynny, mae'r syniad o giwb fel blocyn i adeiladu hefyd yn cael ei gyflwyno a'r ffaith ein bod ni bellach yn dechrau adeiladu, gosod sylfeini , er mwyn sicrhau fod y genhadaeth yr ydym ynglŷn â hi yn llwyddo."

Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý