Â鶹ԼÅÄ

Fasogyfyngiad, fasoymlediad, crynu a chwysu

Ymateb i fod yn rhy oer yw fasogyfyngiad. Mae’r broses yn cynnwys culhau pibellau gwaed wrth arwyneb y croen i leihau colledion gwres drwy arwyneb y croen.

Diagram o rydwelï â'r bibell siynt wedi'i labelu. Mae ysgogiadau nerfol yn dod o'r ymennydd ac mae'r rhydwelï yn darwasgu wrth i'r bibell siynt ymagor. Does dim llawer o wres yn cael ei golli.

Ymateb i fod yn rhy boeth fasoymlediad. Mae’r broses yn cynnwys lledu pibellau gwaed wrth arwyneb y croen i gynyddu colledion gwres drwy arwyneb y croen.

Diagram o rydwelï â'r bibell siynt wedi'i labelu. Mae ysgogiadau nerfol yn dod o'r ymennydd ac mae'r rhydwelï yn ymagor wrth i'r bibell siynt gulhau. Mae llawer o wres yn cael ei golli.

Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r ddwy broses.

Rhy oerRhy boeth
ProsesFasogyfynguFasoymledu
¸é³ó²â»å·É±ð±ôï²¹³ÜYn culhauYn ymledu
Llif gwaed yng nghapilarïau’r croenYn lleihauYn cynyddu
Colli gwres o’r croenYn lleihauYn cynyddu
Proses
Rhy oerFasogyfyngu
Rhy boethFasoymledu
¸é³ó²â»å·É±ð±ôï²¹³Ü
Rhy oerYn culhau
Rhy boethYn ymledu
Llif gwaed yng nghapilarïau’r croen
Rhy oerYn lleihau
Rhy boethYn cynyddu
Colli gwres o’r croen
Rhy oerYn lleihau
Rhy boethYn cynyddu

Pan rwyt ti’n oer, efallai y byddi di’n dechrau crynu. Mae crynu yn cael ei achosi gan gyhyrau sy’n cyfangu’n anwirfoddol. Er mwyn i gyhyr gyfangu, mae angen egni o sy’n rhyddhau gwres. Mae’r gwres yn cael ei ddefnyddio i gynhesu’r corff.

Pan rwyt ti’n rhy boeth, byddi di'n chwysu. Mae chwys yn cael ei gynhyrchu gan y chwarennau chwys ac mae’n teithio i fyny’r ddwythell chwys ac allan o’r mandwll chwys i arwyneb y corff. Yma bydd y dŵr yn y chwys yn anweddu, gan gymryd gwres o’r corff gydag ef. Mae eich corff yn defnyddio’r mecanwaith hwn i oeri.

Diagram yn dangos blew'n gorwedd yn fflat fel bod gwres yn gallu dianc. Mae chwarennau chwys yn secretu chwys sy'n oeri'r croen drwy anweddu. Mae llif gwaed mewn capilarïau yn cynyddu hefyd.