Â鶹ԼÅÄ

Eplesyddion diwydiannol

Cynwysyddion yw eplesyddion a ddefnyddir i dyfu bacteria a ffyngau ar raddfa fawr, ee llwydni Penicillium ar gyfer cynhyrchu penisilin (gwrthfiotig).

Diagram o eplesydd: Ager i mewn, Maethynnau i mewn, Siaced ddŵr, Dŵr oeri i mewn, Aer i mewn, Allfa gwacau, Dŵr oeri allan, Padlau troi, Dur gwrthstaen, Allfa ar gyfer cynnyrch
Figure caption,
Diagram o eplesydd

Fel rheol gwneir eplesyddion o fetel na wnaiff ddim rhydu, fel dur gwrthstaen. Mae gan rai ddigon o gynhwysedd i ddal miloedd o litrau.

Mae’r tabl yn disgrifio prif nodweddion a swyddogaethau eplesydd.

NodweddSwyddogaethRheswm
Mewnfa agerAger poeth yn diheintio tu mewn yr eplesyddRhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau
Mewnfa maetholionCaniatáu i faetholion di-haint fynd i mewn i’r eplesyddMae angen maetholion ar Penicillium er mwyn gallu tyfu ac atgenhedlu
Siaced ddŵr gyda dŵr oeriCadw’r tymheredd y tu mewn yn gysonMae Penicillium yn tyfu orau ar dymheredd optimwm o 23-28°C
Mewnfa aerDarparu ffynhonnell ocsigenMae angen ocsigen ar Penicillium ar gyfer resbiradaeth aerobig
Hidlen ar y fewnfa aerAtal micro-organebau rhag mynd i mewn i’r eplesyddRhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau
Padlau cymysguCadw’r cymysgedd y tu mewn i’r eplesydd mewn cyflwr aflonydd (cymysgu)Cymysgu’r micro-organebau gyda’r maethynnau a chadw’r tymheredd yn wastad
Chwiliedydd pH a falf mewnlif ar gyfer asid ac alcaliMonitro’r pH y tu mewn i’r eplesydd i sicrhau ei fod ar y lefel orauMae angen cadw Penicillium ar lefel pH 6.5, yr optimwm ar gyfer y ffwng
NodweddMewnfa ager
SwyddogaethAger poeth yn diheintio tu mewn yr eplesydd
RheswmRhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau
NodweddMewnfa maetholion
SwyddogaethCaniatáu i faetholion di-haint fynd i mewn i’r eplesydd
RheswmMae angen maetholion ar Penicillium er mwyn gallu tyfu ac atgenhedlu
NodweddSiaced ddŵr gyda dŵr oeri
SwyddogaethCadw’r tymheredd y tu mewn yn gyson
RheswmMae Penicillium yn tyfu orau ar dymheredd optimwm o 23-28°C
NodweddMewnfa aer
SwyddogaethDarparu ffynhonnell ocsigen
RheswmMae angen ocsigen ar Penicillium ar gyfer resbiradaeth aerobig
NodweddHidlen ar y fewnfa aer
SwyddogaethAtal micro-organebau rhag mynd i mewn i’r eplesydd
RheswmRhagofal aseptig i atal halogi gan ficro-organebau dieisiau
NodweddPadlau cymysgu
SwyddogaethCadw’r cymysgedd y tu mewn i’r eplesydd mewn cyflwr aflonydd (cymysgu)
RheswmCymysgu’r micro-organebau gyda’r maethynnau a chadw’r tymheredd yn wastad
NodweddChwiliedydd pH a falf mewnlif ar gyfer asid ac alcali
SwyddogaethMonitro’r pH y tu mewn i’r eplesydd i sicrhau ei fod ar y lefel orau
RheswmMae angen cadw Penicillium ar lefel pH 6.5, yr optimwm ar gyfer y ffwng

Unwaith y bydd y Penicillium wedi bod yn yr eplesydd am ryw 200 awr, caiff yr hylif ei dynnu allan a’i hidlo. Bydd hyn yn tynnu celloedd ffwngaidd, gan adael y cynnyrch penisilin a fydd angen triniaeth gemegol cyn ei ddefnyddio.