Â鶹ԼÅÄ

Cyfrif bacteria

Mae bacteria’n atgenhedlu’n rheolaidd, er enghraifft, bob 20 munud. Mae hyn yn caniatáu gwneud cyfrifiadau mathemategol er mwyn rhagweld faint o facteria fydd yn bresennol ymhen amser penodol.

Sut i gyfrif nifer y bacteria mewn poblogaeth

Enghraifft

20 munud yw amser rhannu cymedrig poblogaeth bacteria A. Os mai un bacteriwm sydd pan ddechreuir arsylwi, cyfrifa faint o facteria fydd yn bresennol ymhen chwe awr.

I ateb hwn, gelli rannu’r cyfrif yn ddwy ran.

Rhan 1 – Cyfrifa faint o weithiau mae’r bacteria’n rhannu mewn chwe awr

Yn yr enghraifft hon, mae’r bacteria’n rhannu bob 20 munud, ac felly fe wnânt rannu dair gwaith bob awr, \(\frac{60}{20}\) = 3.

Os yw’r bacteria’n tyfu am chwe awr, bydd pob bacteriwm yn rhannu 3 gwaith yr awr × 6 awr = 18 gwaith.

Rhan 2 – Cyfrifa nifer y bacteria yn y boblogaeth

Bob tro mae’r bacteria’n atgenhedlu, mae’r nifer yn dyblu. I gyfrif nifer y bacteria ar ddiwedd y cyfnod twf, gelli ddefnyddio’r hafaliad hwn.

Nifer y bacteria ar y dechrau = 1

Nifer y rhaniadau = 18

1 × 218 = 1 × 262,144 = 262,144 o facteria

Am farc uwch, gallet fynegi atebion yn y ffurf safonol.

Er enghraifft, gellir ysgrifennu’r ateb uchod, 262,144 o facteria, fel hyn hefyd 2.62 × 105 o facteria.

Question

30 munud yw amser rhannu cymedrig poblogaeth bacteria. Cyfrifa faint o facteria fydd yn bresennol ymhen wyth awr, pan ddechreuir gydag un bacteriwm.

Question

20 munud yw amser rhannu cymedrig poblogaeth bacteria. Cyfrifa faint o facteria fydd yn bresennol ymhen dwy awr, pan ddechreuir gyda 10 bacteriwm.

Arafu twf bacteria

Fel y dangosir uchod, gall twf cynyddol bacteria roi niferoedd mawr iawn o gelloedd bacteriol mewn cyfnodau byr. Mae’n bwysig, wrth storio bwyd, ein bod yn gallu arafu’r broses hon er mwyn cadw’r bwyd rhag difetha.

Gellir lleihau cyflymder rhannu bacteria trwy ostwng y tymheredd. Wrth gadw bwyd yn yr oergell bydd hynny’n arafu twf bacteria a gellir cadw bwyd am fwy o amser cyn iddo fynd yn ddrwg.

Os caiff bwyd ei rewi, mae twf bacteriol yn stopio. Ond nid yw’r bacteria’n cael eu lladd, felly byddai unrhyw godiad yn y tymheredd yn cynyddu twf bacteria.

Bydd coginio bwyd ar dymheredd uchel iawn yn lladd bacteria.