Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Gair o Brotest
Tegeingl
Rhag Anobeithio
Anodd dychmygu heno – yfory
a’r feirws yn cilio
ond atom, wir, daw eto
haul ar fryn a hwyl i’r fro
Dafydd Evan Morris 8.5
Y Llewod Cochion
“Wyt tithe’n trydar eto?
Ti’n neud o ddydd a nos.
Rho jans i’r gwifre gΕµlio,
Hedfana allan. Dos!”
Arwyn Groe 8
Cynigion ychwanegol
A Chymru i gyd bellach yn y pot
Rhaid gofyn oes gan y Meuryn blot
Wrth i ni ddod eleni yn y Lotto
Yn erbyn Y Llew Coch unwaith eto
Dw i’n aros yn segur i fynd ar y fferi,
A chynnyrch fy musnes yn brysur dadrewi!
Pam wnes i ymddiried mewn ffΕµl o fabΕµn, .
Sy’n cribo ei wallt efo fforc a balΕµn?
NA!
A finna' yn gweithio mor galed
Heb eiliad i lyncu fy mhaned,
Rhaid rhuthro yn ôl
Er mwyn y ‘Zoom call’
I ddysgu eff ôl i griw'r chweched.
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm o fyd y campau
Tegeingl
Os eiddot gic o’r smotyn
Daeth dy awr, dy awr dy hun.
Dafydd Evan Morris 9
Y Llewod Cochion
Yn groes i’w natur a’i gred
Syrffio mae taid hyd syrffed
Gwerfyl Price 8.5
Cynigion ychwanegol
Sgoriwr, hen frwydrwr o fri,
Boi perygl yw Moi Parri
Eiddom bobun yw’r breuddwyd
o “roi un” yng nghefn y rhwyd.
Her o hyd, a hir o ras
i’w rhedeg yw priodas.
Gwan pob arf heb ymarfer;
cadw’n hiaith ar waith yw’r her.
Unig yw loes tîm o Glwyd
Heddiw, yma, diddymwyd.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae gen i lond garej o offer’
Tegeingl
Mae gen i lond garej o offer,
Ond pan mae na job rhaid cael amser
I fynd ar y we
A diolch i’r ne
Caf yno rif ffon ar fy nghyfer
Harri Bryn Jones 8.5
Y Llewod Cochion
Mae gen i lond garej o offer
A gefais ar ôl Jones y Ficer,
Gefynnau a chwipiau,
Pob math o harneisiau
Rhyw sodlau sais twelf a thrôns lleder!
Pryderi Jones 8.5
Cynigion ychwanegol
Mae gen i lond garej o offer
A'r ffefryn yw'r letric arc welder
Wnes i weldio darn AR
Danc petrol y car
Dwi nawr yn y Nefoedd yn 'goner'
Mae gen i lond garej o offer
Gwneud ‘Merica’n Grêt, a llawn balchder.
Baneri a chapiau,
A thΕµls codi waliau -
A gynnau, os na chawn gyfiawnder.
'Dwi'n hoff iawn o wisgo gwisg rwber,
Mae gen i lond garej o offer,
Dio ddim yn tabΕµ
Mi af ar fy llw
Cewch weld fy nghanΕµ ar ôl swper.
Er treulio fy oriau yn ofer,
Mae gen i lond garej o offer
I losgi tai ha’.
A losga’i nhw? Na,
Mi guddia’i nhw lawr yn y seler.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llanast
Tegeingl
Rwbel â tho gwellt melyn;
gwelwch ddiffeithwch o ddyn.
Heb Ewrop, twym yw’r popty;
dewch ar daith dywys ei dy;
Mae, ym murddun ein dyn dwl,
lolfeydd moethus ail-feddwl.
Rhaid canu mawl i’w sawl sied;
quelle oriel ail-ystyried!
trowch i’r toiled tro pedol
un hardd; hoffwn fynd yn ôl.
Oedi’n gall mewn Eden gudd,
ym mro glyd y mae’r gwleidydd.
Les Barker 8.5
Y Llewod Cochion
(bywyd Maradona medda rhai)
Yn eisteddfa'r gwatwarwyr
Chwifio barn rhai â chof byr
A geir, dy ddrygfyd i gyd,
Hafau o smonach hefyd.
Yn y fan lle ‘steddaf i
Wyt ysbryd ac wyt asbri.
Yn y co' mae canol cae
A churo yn ei chwarae;
Hud Myrddin, dewin, a dyn
I ddiffodd pob amddiffyn.
Fel Diego bo bywyd,
Un bach yn erbyn y byd.
Pryderi Jones 8.5
5 Pennill ymson mewn ciw
Tegeingl
Mae traed gwyn y palmant yn rheoli
ein crocodeil, un araf mewn undod;
ond dyn ni wedi, heb sylweddoli,
pasio swyddfa’r post tair gwaith yn barod.
Les Barker 8
Y Llewod Cochion
Dwi'n stelcian fan hyn ers tair awr
Yn y ciw sy’ ddim yn mynd lawr.
Be’ am besychu a thisian a thagu?
Hwre! Ciw o un sy ‘ma nawr.
Pryderi Jones 8
Cynigion ychwanegol
Dwi yma yn troelli’n ddi-baid
Oherwydd fy mod i ma’ raid,
O ‘styried fy mhoenau a’m griddfan,
Tu fewn i giw Ronnie O’Sullivan.
Mae’r ciw ‘ma’n uffernol o hir,
A wela’i mo’i flaen o yn glir,
A hyn sydd yn torri fy nghalon,
Mae o flwyddyn a mwy o Dregaron.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Codi Ofn
Tegeingl
Fe’m synnwyd pan gefais y testun
‘Cofi Ofn” o ddwylo y Meuryn
Rargien ! Ydi’r hen dre’n gwrthryfela
Fel Trump am daflu’i teganna?
Lle’r aeth y cariad o’r Lovegreen?
Ydi’r ‘Enw Da am ffurfio yn fyddin?
Ai llew mewn gwisg oen ydi Llion?
Sgen Mei yn ei Fac rai ergydion?
Fydd Gari Wyn am arwain y tanciau
A thim dros yr Aber yn llanciau?
Fydd Dafydd yn canu ‘I’r Gad’
Wrth arwain ‘rhen dre ar grwsad?
Oes ganddynt tro yma d’wysog go iawn
Neu babi drws nesa eto a gawn?
A ydi’r hen dre frenhinol
Am ddangos eu bod go iawn yn werinol?
Ond o y rhyddhad, doedd o ond teipo
A finna’r ben cratsh yn teimlo reit heipo
Fe ddyliwn wybod na fyddai run co bach
Am godi ofn, na chreu unrhyw strach.
Harri Bryn Jones 8.5
Y Llewod Cochion
Dwi methu mynd mewn eroplên - dwi ofn ia
Na chwaith ar feic na char na thrên - dwi ofn ia
Sna'm pwynt mynd mewn i long na chwch,
Dwi methu llnau na hwfro llwch,
Na mynd a baedd i weld yr hwch - dwi ofn ia.
Ma' castall ni ar lan y dΕµr - dwi ofn o ia
Dwi methu dringo'i ben y tΕµr - dwi ofn ia
'Dwi methu siarad ar y ffôn
Na byta mysyls, cnau na prôn,
Dwi methu croesi i Sir Fôn - dwi ofn ia.
Dwi methu gwrando ar feirdd Y Ship - dwi ofn ia
Na Dros 'Rabar- y criw bach hip - dwi rîli ofn ia
Ma' cynganeddu'n sychu ‘mhoer,
Mhen i'n sgramblo, chwysu'n oer
Ma'n gneud fi udo ar y lloer - dwi ofn ia.
Ma'n anodd byw yn y locdown - dwi ofn ia
A byw bob dydd mewn dresing-gown - dwi ofn ia
Ma' Brexit wedi mynd a dod
A Boris dal i chwennych clod
A drewdod Trump yn dal i fod - a dwi ofn ia
Mair Tomos Ifans 9
7 Ateb llinell ar y pryd : ‘Gofyn wyf, a ga’i fwynhau’
Tegeingl
‘Gofyn wyf, a ga’i fwynhau’
Eleni grwydro’n glannau
Dafydd Evan Morris 0.5
Y Llewod Cochion
Gofyn wyf a ga'i fwynhau
ennyd o afael poenau.
Huw Jones
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Nerth
Tegeingl
Traeth hir, tywod melyn,
Dadi’n dysgu ei fachgennyn.
Llenwi bwced hyd yr ymyl;
Tampio’r wyneb; cymryd gofal.
Angen dwyfraich i’w droi drosodd,
Tapio’r tywod ar yr ochrau.
Codi’r plastig; gweld a gwenu.
Deall; edrych a chynllunio.
Bwced eto; gwneud tΕµr arall.
Ymdrech p’nawn a’r waliau’n tyfu.
Castell fawr o gryfion furiau,
A baneri i’w hamddiffyn.
‘Sgwyddau’i dad yn sedd gyffyrddus;
Mynd o’r traeth o flaen y llanw.
Dafydd Evan Morris 8.5
Y Llewod Cochion
Un tro, ers talwm, ymhell, bell yn ôl
Y fi oedd Pachamama a Shakti a Dôn,
Yn cynnal,
yn creu a meithrin, amddiffyn,
Fy myrdd o freichiau yn troelli y platiau
ar bolion bach brau, a nhraed yn dawnsio;
Cusanu, cofleidio,
Boed chwerthin neu grio.
Gorweddaf fan hyn dan garthen o Annwfn,
wedi fy lapio yn dynn;
Fy meddwl yn fwrlwm ac yn wag am yn ail,
Cysgodion cΕµn yn y gwyll, y llenni yn amdo i'r haul.
Câf ddawnsio eto, siawns, a chwerthin
tra'n troelli'r llestri ar bolion bach brau;
Galwaf, tan hynny, ar Pachamama
a Dôn a Shakti i godi fy mhen o'r gobennydd
a'i gynnal
am ddiwrnod neu ddau.
Mair Tomos Ifans 9
9 Englyn: Bwrdd
Tegeingl
[Bwrdd paratoi at y Talwrn]
O’i gylch y deuwn â’n gwaith am gyfnod
o drafod, a’r afiaith
o impio ambell gampwaith
o hen ddrôr, wrth fwrdd yr iaith.
Dafydd Evan Morris 8.5
Y Llewod Cochion
( bwrdd hynafol 400 oed y Llew Coch)
Estyn wyneb anwastad - yn y bar,
i beint mae'n bur ansad;
Ceinciog a staeniog ei stâd
Yn siΕµr, a'i greithiau'n siarad.
Pryderi Jones 8.5