Cerddi Rownd 3
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cyngor Gyrfaoedd
Penllyn
Dim ond y ti sy’n gwybod
Pa swydd sydd, yn ei hanfod,
Yn gweddu i dy anian di.
Y gamp i ti, ei chanfod.
Beryl Griffiths 8
Y Glêr
Cei swydd sy’n gwneud daioni,
neu joban i’th fodloni.
Cei fynd i’r City’n filiwnêr,
neu, fel y Glêr, farddoni.
Osian Rhys Jones 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dryw’
Penllyn
Mae hi'n hawdd, mor hawdd heddiw
dweud ar hast 'mond piso dryw'.
Gruffudd Antur 8
Y Glêr
Dewr, heb os, yw’r un dryw byr
Yn aros ar gefn eryr.
Eurig Salisbury 8
Cynigion ychwanegol
Mae gan gyw dryw wyrthiol dric,
Estyn ei geg fel lastig
Yn rhybudd swil cyn dilyw
Yn ei dro fe ddaw y dryw
Duw a ŵyr, ni bu neb da’n
Ei fyw’n hela’r dryw, druan.
Os y drain yw plas y dryw,
Byd i’r boda ar wib ydyw..
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mewn warws ymhell bell o bobman’
Penllyn
Mewn warws ymhell bell o bobman
Mae Ceri yn cadw ei arian,
Ac fel pob rhyw Gardi
Mae’n hoff iawn o’u cyfri,
Ond y beirdd sydd ‘di talu y cyfan.
Beryl Griffiths 8
Y Glêr
Mewn warws ymhell, bell o bobman,
Mae’r beirdd wrthi’n cadw’u holl arian.
Os gwelsoch gwt tatws,
Mae’n llai o ran corpws:
Mae’n warws eithriadol o fychan.
Osian Rhys Jones 8
Cynigion ychwanegol
Mewn warws ymhell, bell o bobman,
Llythyrau annelwig i’r postman,
Yng nghanol y rhain
Sawl archeb traed brain
Am sbectol gan nain yr hen druan.
Mewn warws ymhell, bell o bobman
Rwy’n eistedd mewn bocs er nos Galan
Dwy fil un deg naw,
Boed hindda neu law …
Arna’i ormod o ofn i ddod allan.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Terfysg
Penllyn
Terfysg
Fe aeth mis Ebrill yn Fai
filwaith. Bob tro fe wyliai
o'i anfodd wrth i'r cloddiau
ddod i'w gogoniant, a'r ddau
gariad a'u chwerthin gwirion
heibio'r wal fel 'taen nhw bron
yn feddw. Ac fe wyddai
mai hen gelwyddgi yw Mai;
mis, rywfodd, i ddiodde
ei holl hwyl nes bod y lle'n
duo, gan ddyheu'n dawel
am Fai na chenfydd mo'i fêl.
Gruffudd Antur 9.5
Y Glêr
Arogl laith ac awyr glòs.
Oeda’r dydd.
Trymder diddos gwres yr awel.
Tawelwch:
a llam diferyn o’r llwch.
Sŵn haf yn arllwys y nen.
Holltwyd dwy reddf gan fellten.
Pa raid cuddio rhagddo’r haf
a’i densiwn? Heddiw dawnsiaf
. Mae ysfa ynom
i gyd, o raid, am gawod drom
i wlychu’n croen, nes ffroeni
yr awyr glir trwy’i glaw hi.
Osian Rhys Jones 9.5
5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes
Penllyn
Yn chwilio am air gweddus
I sôn am rywun barus
Sy’n palu c’lwyddau’n ffraeth a ffri?
Cynigiaf i chi ‘Borris’.
Beryl Griffiths 8
Y Glêr
Mae rhai clêr sy’n methu hedfan
Er mwyn cyrraedd ffrwythau’r berllan,
Felly’r ateb, yn naturiol,
Ydi dringo ar Bryfysgol.
Hywel Griffiths 8.5
Cynigion ychwanegol
Drwy’r cyfnod clo ym Mhenllyn
Bu cymdeithasu da,
Ond sut oedd hynny’n bosib?
Wel efo ‘Zoom a’i Wa’
Rhag i arch y cyfaill saith troedfedd
Wedi’r angladd fod yn fwrn,
Fe roddwyd ei olion daearol
Yn barchus mewn tal-wrn.
6 Cân ysgafn i ddau lais: Sgwrs rhwng athro a disgybl
Penllyn
“Dwi wedi bod yn marcio'r profion gawsoch ddoe
Ac mae 'na ddau ohonoch di gwneuthur eithaf sioe;
Canmoliaeth Dafydd Einstein, fel arfer marciau da,
Yn gyson drwy'r holl flwyddyn, bob tymor ers yr ha”
“Ond hyn sydd yn fy synnu, dirgelwch mawr i mi
Fod chwithau hefyd Joni a’ch marciau’n naw deg tri?”
“Dwi n gwybod, dwi wedi bod yn stydio bob nos Syr, ar fy ngwir,
Yn dysgu am y gofod, y byd a’r Cyngor Sir”
“Y cwestiwn cyntaf Joni? Atebodd Dafydd ‘deg’
A chwithau hefyd fachgen, ‘run ateb digon teg.”
“Dwi’n gwybod Syr, dwi’n gwybod fy nhabl pump i gyd,
Hwn yw y tabl gorau sydd gen i yn y byd”
“Ond beth am gwestiwn deuddeg, fe roesoch Fietnam”
“Oni yn gwybod hwnnw, fues yno efo mam”
“Mae hynny'n reit dderbyniol tan gwestiwn tri deg tri
A dyna pam rwy’n amau eich esboniadau chi”
“Mae Dafydd wedi sgwennu, does geni’m ateb clir
De’ chwithau wedi sgwennu, ‘na finnau chwaith yn wir’.
Ewch draw i weld y Pennaeth, dangoswch iddo’ch gwaith.”
“Ond Syr dwi ddim yn meddwl bydd o yn gwybod chwaith.”
Alwyn Sion 9
Y Glêr
Bore da iawn ichi blantos, a chroeso
i sesiwn Teams gyntaf yr wythnos. Chi’n cofio
bod rhaid aros ar miwt ond, os y’ch chi am rannu,
cofiwch godi llaw dawel er mwyn cael cyfrannu.
Mi ddown ni at luosi a rhannu yn y man …
Siôn, ti am ddweud gair? Rwy’n gweld dy law lan.
Siôn, ti wedi miwtio. Ti wedi miwtio, Siôn.
Dadfiwtia, blodyn. Ie, clicia’r meicroffon.
Ti wedi clicio’r camera. Nawr ni’n methu dy weld di!
Siôn, wyt ti’n dal yna? Dim ond hanner awr sy ’da ni.
A, dyna ti nôl … Ti’n rhannu’r sgrin nawr, pwt!
Na’i drio stopio hynna, os alla’i ddeall shwt …
Be am iti roi dy neges yn y chat?
Neu beryg fydd y sesiwn yma’n disgyn braidd yn fflat!
OK, dwi’n gweld y gath a’r ci’n ymuno.
Ydyn, ma’ nhw’n ciwt, ond mi wyt ti’n dal ’di miwtio!
A dyma dy chwaer yn dal yn ei phyjamas,
A’r cyfrifiadur yn cael cic wrth iddi neidio o gwmpas.
Falle wnawn ni adael pethe’n fanna am heddi …
‘Fi ’ma nawr, Miss – ’mond am ddweud diolch o’n i.’
Hywel Griffiths 9
7. Llinell ar y pryd
Penllyn
Er mai mân ydyw’r meini
Uwch na neb yw’n Wal Goch ni.
Gruffudd Antur 0.5
Y Glêr
Rhag diwel glas yr heli,
Uwch na neb yw'n Wal Goch ni.
Eurig Salisbury 0.5
8 Cerdd Rydd (heb fod dros 18 llinell): Ymweliad
Penllyn (Cadw Ieir)
Mor waraidd
tybiwn
ydoedd cadw ieir.
Rhois iddynt
gilfach ddiogel
rhwng weiren a phost
-eu libart
i grafu byw.
Ac yno treuliasant
eu dyddiau
gan bigo
ar rhyw grafion
a daflwn iddynt.
Heb ddim i'w tarfu
-dim ond mynd a dod
yr haul mawr melyn,
a chysgod y cwt
i fesur tragwyddoldeb.
Nes un dydd
daeth brân heibio
ac adlewyrchiad disglair
yr haul -
yn sglein ei phlu;
a rhywfodd gwthiodd
ei ffordd tu ôl i'r weiren
i ganol yr ieir
a'u cilcyn
bach
diogel.
Clywais y sgrech,
a chanfod yno'r gwirionedd,
mewn swp o blu gwaedlyd
a chorff du, llonydd.
Mor waraidd,
tybiwn unwaith,
oedd cadw ieir.
Haf Llewelyn 9.5
Y Glêr
Lle dôi’r cerddorion gyda’r bardd
I ganu haf yn gain a hardd,
A galw gynt yn nrysau’r tai
Am bres calennig Galan Mai,
Fe ddaw eleni yn ei gôt
Ganfasiwr fyth i ofyn fôt,
Ac nid yr un yw byrdwn byw
Ei neges ef â’r gân i Dduw,
Ond bod ar waith yn acen draw
Y ddau addewid am a ddaw.
Ac o, na chawn roi’r goel ar geg
Y darogenydd tywydd teg.
Eurig Salisbury 9.5
9 Englyn: Arwydd
Penllyn
('Hawl i fyw adra')
O'n nyth fe awn ni weithie i bedwar
ban byd; dŵad adre'n
ôl o hyd, ac mae'r hen le'n
dawel, a'i lond o wye.
Gruffudd Antur 9.5
Y Glêr
Os yw fy iaith wrth deithio’n – ddansierus,
Heddiw’n siŵr mae digon
Drwy’r wlad o hyd ar y lôn
Yn rhugl yn iaith peryglon.
Eurig Salisbury 9
Cynigion ychwanegol
Mynnaf gred y daw llygedyn - o ing
Crafangau y gelyn
Os geilw hi yng nglas y glyn
Daw’n hyder o’i dau nodyn.