Main content

Y Ffeinal

1 Tydargerdd: Cyhoeddi Diwrnod o Wyliau Cenedlaethol

Dros yr Aber

Rwy'n hunangyflogedig.
Cyhoeddaf nawr ar frys
Fod fory'n Ddiwrnod Gwyliau
Cenedlaethol Iwan Rhys.

Iwan Rhys 8.5

Beirdd Myrddin

Heb floedd na’r un cyhoeddiad – na geiryn
gohiriwyd y bwriad;
â gôl hwyr aeth breuddwyd gwlad
i bwdel yr arbediad.

Geraint Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Cyfieithydd llawrydd ydwyf.
Cyhoeddaf yn ddi-oed
Fod heddiw'n ddiwrnod gwyliau
i dranslators self-employed.

’Rôl chwysu, penderfyniad doeth
oedd gwyliau, am ei bod mor boeth.
Pan ddaeth y diwrnod, cafwyd braw:
yr oedd drwy’r dydd yn bwrw glaw.
Daeth GΕµyl Mynd Am Ein Holau
yn gyffro trwy ein bro;
o ddechre mas prynhawn ‘ma
cawn gyrraedd bore ddo’. AE

Mae dygwyl y Meurynnod
yn addo tywydd llaith
a’r gwres y diwrnod hwnnw
ddim yn codi’n uwch na saithAE.


2 Cwpled caeth yn cynnwys gair mwys


Dros yr Aber

Ar gam, fe saethais samwn.
Eog wyf. Rwy'n beio'r gwn.

Carwyn Eckley 9

Beirdd Myrddin

Di-Ceri? diceri doc
- hebddo ef byddai hafoc.

Aled Evans 9

Cynigion ychwanegol

Bara sy'n sâl bob bore
Os ydyw'n dost yn y de.

Gesh i sac pan sgwishais i
y corun ar ben Ceri.

Pêl-droediwr, Eidalwr da
yw Leone Torriclonna.

Halan llwyd ar fwyd rof i'n
amal i'w wneud yn iymi.
Hen-night ni ddaw ei hunan,
daw yn wir â bir a ban(n).AE

I’r awyr ddu, cer, rhyddha
yn awr y carbon ara’. GR

Os byw wyf fel plentyn sbo’
ataf daeth uncorn etto.GR

Panini’n hΕ·n, bob munud
awn nôl i’r dorth wen o hydGR.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘’Rôl gorffen ailosod y patio’

Dros yr Aber

’Rôl gorffen ailosod y patio
Fe welais y ci yno'n swatio
’Di o ddim yn rhy wych
A'i drwyn bach yn sych.
Jyst edrych ychydig yn fflat ’di o.

Marged Tudur 8.5

Beirdd Myrddin

Rôl gorffen ailosod y patio,
fe alwais a galwais ar Sianco,
er ei denu â lla’th
nid oedd golwg o’r gath -
nawr tybed ble a’th hi i gwato … ?

Ann Lewis 8.5

Cynigion ychwanegol

’Rôl gorffen ailosod y patio
Nid oes yr un golwg o Pero.
Ond gwenu mae Fflwffen
Ers imi ei orffen
Fel tase hi'n gwybod ble mae o

’Rôl gorffen ailosod y patio
Fe sylwais mor llithrig o fflat ’di o
Pan gwympodd y postmon
A'r parsel yn yfflon.
Rwy jyst yn gobeithio nad Pat ’di o.
Rôl gorffen ailosod y patio
gan gowbois o ardal y Bermo,
mae’r corgi, pwr dab
yn gorwedd dan slab
a’r gath sydd yn mewian amdano.AL

Rôl gorffen ailosod y patio
a phaentio’r tΕ· bach, fe aeth Guto
i hwfro lan stâr
tacluso’r rΕµm sbâr,
ac yntau ag amser i’w sbarioAE.

4 Hir a thoddaid yn cynnwys y geiriau ‘Nid oes gwahaniaeth na dewis gen-i’ neu ‘Nid oes gwahaniaeth fod dewis gen-i’ neu ‘Nid oes gwahaniaeth: mae dewis gen-i’

Dros yr Aber

Marcus Rashford
Nid oes gwahaniaeth fod dewis gen-i
â’m bywyd braf. ’Sgen i’m byd i’w brofi;
Ond rydw-i’n gwybod sut beth yw tlodi
A menywod taer ar rimyn torri.
Am hynny oll, mi wn i – tra bo un
Plentyn mewn newyn, na cha’i fy nhewi.

Carwyn Eckley 9.5

Beirdd Myrddin

gofid mam am ei merch

Mae’r isymwybod yn fy ngorfodi
tua’r lle anial fan draw trwy’r llenni,
lle mae’r oriau mân yn faich amdani;
nid oes gwahaniaeth, na dewis gen-i.
Â’r wawr unig yn cronni – wrth ddeffro,
un funud eto nes caf fynd ati.

Geraint Roberts 9

5 Triban beddargraff sylwebydd


Dros yr Aber

[i’w ddarllen mewn crescendo]
Mae'n gorwedd yn ei wely...
A na! Nid yw'n anadlu!! ...
Mae nawr mewn hers ... Ac ar fy ngwir!!!
Mewn tir mae WEDI'I GLADDU!!!!

Rhys Iorwerth 10

Beirdd Myrddin

Bu’n amau trwy’r holl gyffro
a oedd hi ‘na neu beidio
ond yna daeth y foment fawr,
a nawr mae popeth drosto.

Garmon Dyfri 10

Cynigion ychwanegol

Ac yntau dan laswelltir,
ei olaf wich a gofir:
"I think it is all over!" Wel,
ers sbel, fu dim mwy sicir.

Ar ôl oes faith o enwi
y cyrff yn y cwrt cosbi,
gollyngwyd ceg a chorff y dyn
i’w focs ei hun i’w dewi.

Cynigiodd farn ddiduedd
ar bleidiau lu y Senedd;
ag yntau nawr o dan y gwlith
i’r chwith mae’n dewis gorwedd.

Wrth feic bu’n ras o eiriau
a’r peloton brawddegau,
nes dod i’w derfyn fflat di-wmff
mewn Arch de Triwmff gynnau.GR

Cynigiodd farn ddiduedd
ar bleidiau lu y Senedd;
ag yntau nawr o dan y gwlith
i’r chwith mae’n dewis gorwedd.

Taliesin
Dy eiriau liwiodd frwydrau
i’w cadw trwy ein hoesau,
minnau nawr yn wylaidd rhof
ar gof dy farwnad dithau.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Rownd Derfynol

Dros yr Aber

Wel, dyma’r Rownd Derfynol, a jiw, ma’ ’da fi gân
Odidog ar eich cyfer, na fu ei bath o’r bla’n.
Mae’n dda ei bod hi’n gampus am fod hon yn rownd go dyff,
Ond does dim angen poeni – mae’n gân mor wych... Wyff wyff!
Distewch Now! ...Ble’r o’n i? O ie, mae’n gân mor wych,
Bydd pawb yn rholio chwerthin – ni fydd ’run boch yn sych.
Bow wow, bow wow, bow wow-wow! O! Peidiwch â tharfu, gi!
Rwy’n brysur yn recordio i’r Talwrn! Βι¶ΉΤΌΕΔ!
Bydd cerddi Gwenan Evans, Løvgreen, Jôs, Em Gom,
A Pod (ac Aled Evans) o heddiw ’mla’n yn siom.
Mae’r gân ’ma’n fwy o gampwaith na gwaith yr un o’r rhain...
[SΕµn crafu] A wnewch chi stopio crafu, Now? Rwy’n siΕµr bod ’da chi chwain!
Mae’n well ’mi ddechrau arni, cyn i bethau fynd yn sgrech...
O! Beth yw’r gwynt ofnadw’ ma? ’Ych chi di taro rhech?!
[â thwtsh o embaras] Wyff wyff! Ai rhech dactegol yw hon i ’ngwylltio i?
[yn daer] Bow wow, bow wow, bow wow-wow, bow wow-wow! Dyna ni,
Mae’n siΕµr y caf fy rhacso o’ch herwydd chi a’ch sΕµn,
Heblaw bod Ceri, falle, yn hoff iawn, iawn o gΕµn.
Rwy’n lwcus wir bod amser am un jôc i’r cwpled clo.
Fe ddwedais i fod ’da fi gân od-i-dog, yndô?!

Iwan Rhys 9

Beirdd Myrddin

Ystyriwch fy sefyllfa, rwy’n seithmlwydd digon ciwt
ond pwy siort o rieni sy’n gwisgo’u mab mewn siwt

i fynd i weld y ffwti a sgrechian dros ei wlad
a minnau’n gorfod gwisgo’r un dillad â fy nhad.

Dwi ishe baner rownd fy nghanol a het ag arni groes
gan regi ar dramorwyr fel roedd Tada’n neud drwy’i oes.

Dwi ddim ishe cwmni Boris, mae hwnnw mor chwit chwat,
mae gair gan Nan amdano sy’n odli gyda bat.

Dywedodd fod ‘na Farcswyr yn nhîm Lloegr rif y gwlith,
yn enwedig y rhai hynny sy’n chwarae ar y chwith.

Dwi ishe Vimto cynnes a chips a sôs a phei,
dwi ddim ishe mynd i Wembli mewn fflipin crys a thei.

Dwi ddim ishe ‘ngwallt yn daclus a dim ishe plygu glin,
dwi ddim yn neud e adre, dim hyd yn oed i’r Cwîn.

Dwi ishe paentio ‘ngwyneb yn wyn â chroes fawr goch
gan danio fflêr ag urddas rhwng dwy wlatgarol foch.

Dwi ddim ishe gwisgo siaced a chwysu fel hen gi;
er nad oes neb medd Andi yn chwysu’n teulu ni.

Dwi ddim ishe i ni golli, cans colli wnawn o hyd,
ond mae Dadi wedi addo ‘newn ni ennill Cwpan ‘Byd.

Aled Evans 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Am yr aur mae rhai o hyd’

Dros yr Aber

Boed mewn dyled neu gredyd,
Am yr aur mae rhai o hyd

Iwan Rhys 0.5

Beirdd Myrddin

Am yr aur mae rhai o hyd
Ein hwyl heno yw’r golud

Garmon Dyfri

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Darllen

Dros yr Aber

Tybed wrth i’r drws agor
iddi gamu am eiliad i’w phlimsols
gan wisgo gwên oedd bron â syrthio
fel y satchel ar ddibyn ei hysgwydd,
a thybed wrth i ddwylo meddal y nyrs
orffwyso ar ei chefn
i dalcen oglau sebon ei hogan bach
gydiad yn ei gwefus eto,
ac wrth iddi droi’r gongol,
tybed deimlodd hi ffedog yn byrstio dan ddystars
a’i breichiau yn lein ddillad i lieiniau cotwm?
Mae hi’n angori’r pulpud ger y gwely
lle mae pys pêr wedi stopio tyfu ar y cyrtans
a glafoerion tanjarin yn glynu ar y bwrdd
ac wrth i mi drio cerdded yng nghoridor ei llygaid,
dwi’n clywed y drws ym mhen draw’r ward yn cau.

Marged Tudur 10

Beirdd Myrddin

 blaen fy nhrwyn yn cosi’r bwrdd
rwy’n dyst i’r ddefod,
heb iddi, hyd heddi, fod yn gwybod.

Dros ei sbectol mae’n taenu o’i chwpan tseina
ddail, gan syllu a phesychu am yn ail, i saser
sy’n sail i’r stori sy’n ei haros.

Ac yn eu tro, try’r gwythiennau crin
a’r brychau di-nod yn atalnodau byw
gan drefnu’n gymen gystrawen ei bod.

Wrth arllwys eto’r diferion
mae pennod arall wedi darfod,
ac ôl ei blas fydd llinyn ei hwyl
weddill y dydd;
un ai rheg yn ramadeg rydd
neu wên sy’n amenio’i ffydd.

Heddi, a minnau’n gloywi’r llestri,
fesul sillaf, ar seld,
rwy’n gweld ôl traul
hen ddiweddglo ar ymyl dysgl.

Lowri Lloyd 9.5

9 Englyn: Cartref

Dros yr Aber

(Galwad Facetime i gartre gofal fy Nain)
Mae Nain yn ei chwman unig, yn fud,
yn fideo annelwig,
yn hen, ddi-ddallt. Finnau’n ddig,
eto’n damio’r pandemig.

Rhys Iorwerth 10

Beirdd Myrddin

un yn dioddef o Alzheimer’s

 ddoe’n annedd i’n huno – a’i antur
yn gyntedd llawn cyffro,
er amled clicied y clo
arhosaf yn ddi-groeso.

Lowri Lloyd 10

CYFANSWM MARCIAU

DROS YR ABER 75
BEIRDD MYRDDIN 74