Main content

Cerddi Rownd 1

1. Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges yn Tynnu’r Gwahaniaeth

Criw’r Ship


#DatganolwchDdarlledu
Nodyn – eto – i’ch atgoffa
Nad ‘y deyrnas’ ydi famma
Ac nid ‘tywysogaeth’ chwaith
Ond cenedl fyw ar dân, ar daith.

Annes Glyn 8

Bro Alaw

Y mae’r ddau yn gegog, gegog,
Y mae’r ddau yn glwyddog, glwyddog,
Ac mae’r ddau â’u gwallt ‘di lifo –
Dim ond un sydd yn ei gribo!

Ken Owen 8.5

Cynigion ychwanegol

Ddoth neb ‘nagos i’r tΕ· ‘cw dros Dolig,
Ac yn sicr nid Lisi y Cwîn -
Ma’r hyn ma hi’n bedlo bob blwyddyn
Yn beryclach na chofid neintîn.

Eleni, yr ysgolion
Sy’n graddio eu disgyblion -
Ac nid oes angen Ceri Wyn
Yn Feuryn ar brydyddion!

Dros y bont, mae’n fyd gwahanol
Mewn myrdd o ffyrdd arwyddocaol,
Ond am eu rhestru, sna’m pwynt dechra’
Efo’r fath gyfyngiad noda’…

2. Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm cerddorol

Criw’r Ship

Suliau ffydd, fel siart sol-ffa,
a bylodd ers cau Beulah.

Annes Glyn 9

Bro Alaw

Anodd yw cynnal alaw
 nodyn trist yn y traw.

Richard Parry Jones 9

Cynigion ychwanegol

I’r ffΕµl welai’r Pla ar ffo
yn syn daeth ail gresendo.

Un angel a cappella
Yno’n dal â’i newydd da

Y Ddêl
I ni ddaeth, un rhinwedd hon,
ryw saib ‘nyr opra sebon.


I Sion Land, drymiwr Alffa
Yn gymesur ei guriad
mae’r hogyn mor dyn â’i dad.

Uno alaw ac awen
Yw rhoi llais i eiriau llên.

Distaw yw’r alaw eilwaith
Ni ddaw haf â ni’n ddi-waith.

3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Er ceisio fy ngorau i beidio’

Criw’r Ship


Er ceisio fy ngorau i beidio,
annwyl Ceri, sillafau sy’n heidio
i linellau fy nghân
bob tro’n ddiwahân.
Yn gywir Jos Giatgoch Ger Ceidio

Arwel Pod Roberts 8.5

Bro Alaw

‘Er ceisio fy ngorau i beidio’,
Roedd fy llaw yn rhy wan, do’n’im isio,
Ond roedd pawb yno’n gwenu
Pa well ffordd o ddathlu?
Ac felly, “No Trump” wnes i fidio.

Ioan Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae’n destun embaras a gwrido,
Ond er ceisio fy ngore i bido
 swno fel bachan
O’r Pwll neu Gilgerran
Neu’r Aman, wy’n ffili sycsido.


Er ceisio fy ngorau i beidio
mi welis i Pod wrthi’n neidio
a gneud tîn-dros-ben.
Er tynnu y llen,
ma’n dal yn fy mhen – hen un slei dio (NB)

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwers Daearyddiaeth

Criw’r Ship
(Aberglaslyn)

Seiliwyd y cob ar obaith
drwy rwydo’r dΕµr ar ei daith,
a throi’r aber yn erwau
o’r bont yn estyn i’r bae.

Welwch chi nawr weilch yn hel,
yn treisio drwy’r tir isel,
lle bu dyfnder a cherrynt
i gwch y pysgotwyr gynt?

Ond mae’r ardal erstalwm
yn y cof fel creigiau’r cwm –
sylwch ar y ffosiliau
heddiw’n y pridd yn parhau.

Manon Awst 9.5

Bro Alaw
Cerrig Myllt neu Róche Mutoneé

Cerrig myllt yw creigiau Môn,
A welwyd ar ymylon
Hen lwyfan y rhewlifiad,
Yn glawdd i amddiffyn gwlad
A ffin ei chynefin hi,
Ar oror mawr Eryri,
Yn llafn iâ fu yn llyfnhau,
Creithio a rhwygo’r creigiau;

Ond yn fan hyn caed unwaith,
Y grym i orchfygu’r graith,
Ac, yn eithaf gaeafau,
Rymuso bro i barhau.

Richard Parry Jones 9

5. Pennill ymson sgaffaldiwr

Criw’r Ship

Ymson sgaffaldiwr ar Big Ben

Petawn i, tra dwi yn fama
Yn gallu rhywsut stumio oria
Mi drown rhen gloc yn ôl i’r dechra
Cyn bod sôn am refferenda.

Ond tydwi’n ddim ond dyn â pholion,
clips a phlancia, lefals union.
Dim ond un o’r dynion bychain
wrthi’n cynnal Senedd Prydain.

Sian Northey 9

Bro Alaw


Ma’ nhw’n deud: “Hon ‘di mam pob un Senedd”,
Er ‘sa mam ddim yn byw’n y fath dΕ·,
Sgaffaldia’ sy’n dal y lle’i fyny -
Y tulatha’ yn shwrwd o bry’;
Mae na ddegawd o joban yn fama,
Ac i mi mae y cyflog yn fawr,
Ond crys isa ’Yes Cymru’ dwi’n wisgo,
A DWI isio tynnu’r lle’i lawr!

John Wyn Jones 9

6. Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Mynd â’r Ci am Dro

Criw’r Ship

Och, claddwyd Errol druan mewn arch fain, mewn arch fain,
Yr hen gi sosej annwyl, mewn arch fain.
Gadawodd fwlch aruthrol; ffarwel, ymarfer dyddiol;
Fy mol sy’n fwy sylweddol a llai main, a llai main,
Ers plannu’r cyfaill Errol yn y llain.

Ond wele daeth ci newydd, Bichon Frise, Bichon Frise,
Peth byrgoes gwyn meringue-aidd, Bichon Frise.
I fwyta ac i chwyrnu, i gnoi ei chwain a chysgu
Mewn basged yn y pantri. Uchel ris, uchel ris.
Fel Errol, mae ei wely ar lawr is.

Bedyddiais eilydd Errol yn Ceri Wyn, Ceri Wyn,
Ond dwi’n methu’n lân â ch’nesu at Ceri Wyn,
Er gwaetha’i fwyta awchus, ei natur ddigon hoffus,
Ei wyneb lled-ddeallus, blewiach gwyn, blewiach gwyn,
A’i fod o’n pi-pi’n ddel bob hyn a hyn.

Mae’n mynnu camfyhafio wrth fynd am dro, mynd am dro,
Mae o’n union fel peth gwallgo’ wrth fynd am dro;
Er ‘mod i wedi talu am wasgod a siorts ‘snazzy’,
Het las â chloch, fel Nodi, a dici-bo, dici-bo.
R’un fath a wnes i i Errol, sy’n y gro...

Arwel Pod Roberts 9.5

Bro Alaw


Mynd â’r ci am dro – DILYN: sef hanes Jac Rysel “bach o Ferthyr, erioed, erioed”


Wel dowch ynghyd i wrando, mae hon yn sdori wir,
sgin i ddim ond 20 llinell, wnâ i ddim o’ch cadw’n hir,
Am gi o’r enw Dilyn un o Ferthyr ydy o,
Jac Rysel o dre’r bocswyr, Joseph Parry, ac SO.

Fe gafodd ddechrau ciami, roedd gên peth bach yn gam,
ond elusen Carrie Symonds a’i achubodd rhag cael cam,
A’r “Dogar bach o Ferthyr” sydd bellach yn rêl jorj,
mae ci o Gymru’n nymbar ten - y cynta ers Lloyd George.

Yn ddyddiol byddai Boris yn mynd â’r ci am dro
a chamerâu y tabloids yn eu dilyn hyd y fro
“ ‘Ranifail ardderchocaf”, meddai Boris wrth y “Mail”
a phob rhecsyn glas Prydeinig yn amenio’n fawr eu sêl.

“Ci hapus iach”, medd Carrie, “sdim dwi’n garu’n fwy na fo”, o
edd yn achosi problem i Wilfred a Bo-Jo,
Ond problem fwy o’r hanner gafwyd efo’r cavapoo,
sef “Bailey” ‘rasd drws nesa oedd yn cwna medda nhw.

Fel un o hogia Merthyr roedd Dilyn yno’n syth
a Sajid Javid druan yn gweiddi: “Na, No, Byth!”
Gan sgrechian yn amharchus, “Now Boris hold him back”
– a dyna y gwir reswm pam i Javid gael y sac.

Ond wrth gymywta’n ddi-lun cafodd Bo-Jo ddôs o’r pla,
ac yn dilyn, roedd yn dilyn, nad oedd Dilyn ddim yn dda,
Yn cwffio’n galed am ei wynt, a dim nerth ganddo fo,
na ‘mynadd o ran hynny i fynd â neb am dro.

Roedd Boris yn ei bulpud, pob gweinidog yn ei le
pan ruthrodd Carrie i’r Cabi-net a gweiddi dros y lle,
“Rhaid mynd i Ferthyr Tudful yn y Rofar heddiw’r pnawn
ac os bydd o’n gweld y castell dan ni’n gwbod fod o’n iawn”.

O Ddowlais i Hewlgerrig roedd y dre dan gwmwl llwyd,
dim gobaith gweld ‘run castell ac roedd Dilyn isio bwyd,
Ac wrth fynd heibio Grawen ac ogleuo’r têc-awê,
dyma’r dogar yn protestio ac yn cyfarth dros y lle.

“Ddy Dom Test!”, medda’r gyrrwr oedd yn dod o Fleur de Lis,
“mae o wedi gweld y castell, its barcing dônt iw sî,
Mae’n deud, “ ’wi’n gweld Cyfarthfa’ yn glir mewn iaith ci bach,
ac felly y mae’n dilyn fod Dilyn bach yn iach.”

A’r Dolig dwytha Dilyn oedd ar gerdyn nymbar 10,
yn gwneud tro da â Boris a’i gadw rhag pob sen,
Pan fydd tagfeydd yn Dover a’r raddfa R yn sgrech
fe fydd y wasg Lundeinig yn mwydro am gi rhech!

John Wyn Jones 8.5

7. Ateb llinell ar y pryd - Ar ei lw, medd Arlywydd

Criw’r Ship

Ar ei lw, medd Arlywydd
I’r diawl, fi sy’n cario’r dydd!

Nici Beech 0.5

Bro Alaw


Ar ei lw, medd arlywydd,
"Gwell yw'r sen o golli'r swydd"

Cen Williams

8. Telyneg (heb fod dros 18 llinell) yn dechrau gyda’r gair ‘cyn’

Criw’r Ship

Cyn
y bygwth o bendraw byd
y cripio drwy gyfandiroedd
y brolio nad oedd yna broblem
y cau tafarnau
y cau popeth
y diweddaru dyddiol
yr ailddiffinio ffiniau
y gwaeledd
y galar
y mygydau’n ffindio’u ffasiwn
y Steddfod Am-gen
yr haf petrusgar ryfedd
yr hydref aros adra
y Dolig o dawelwch
ac encilio’r Calan
cyn
lle ôn i, dywad?

Sion Aled Owen 9

Bro Alaw

Machlud

Cyn delo’r machlud heno a’i gnul
hudol trwy lwydni’r cymylau
i’m gwared i’n garedig,
gad i mi unwaith eto deimlo dyfnder
y llawenydd wrth anadlu’n rhydd
a chusan iach yr awel ar fy ngrudd.

Cyn delo awr yr hebrwng
a’r gollwng yn y llan,
i gyfeiliant grwndi’r geiriau gwag
a’r ystrydebau rhwydd am ‘wneud dy ran,’
gad i mi sibrwd eto yng ngonestrwydd dydd
mai ‘nghariad ati hi yw sail fy ffydd.

Pan ddelo eiliad y canfyddiad
nad oes ‘afon ddofn’ i’w chroesi
na mwd na llysnafedd oes yno, i lynu
fel myrdd bechodau yn fy enaid i,
gad i mi sylweddoli’n hunanfodlon, fel y bardd
mai ‘llithro’ a wnaf eto i’r ‘llonyddwch’ hardd.

Cen Williams 9.5

9. Englyn: Swigen

Criw’r Ship

Ddydd Dolig roedd blas y swigod yn dda
ond pan ddaeth fy niod
i ben, roedd yn amlwg bod
normal ‘di mynd yn ormod.

Manon Awst 9.5

Bro Alaw
[ I fathodyn Bwrdd yr Iaith yn bymtheg oed]

Brwydro yw hybu’r rheidrwydd – i warchod
A pharchu’n gwahanrwydd,
Hwn i’r werin yw’r arwydd
Dyr ein rhew dieiriau’n rhwydd.

Richard Parry Jones 9

Cynigion ychwanegol

‘Mond fi a Mam sy’n famma yn y fflat
‘chos y Ffliw Corona.
‘Dan ni’n glos. Pam dwi’n gleisia’?
Duw a Εµyr, dwi’n hogyn da...AG


Gofal sydd ar ei gwefus – chwa o wynt
O’i cheg a gweld enfys!
Ond yna plwc anlwcus
A bwp! gyda blaen ei bys.NB

CYFANSWM MARCIAU

CRIW’R SHIP – 72.5
BRO ALAW - 71