Main content

Cerddi Rownd 1

1. Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges o Ymffrost

Tir Mawr

Yng ngardd drws nesa roedd hi’n gafael
Crynu wnawn, tymheredd isel,
Yn ein gardd ni, yn oerach eto,
Ac yn wir fe wnaeth ymffrostio.

Huw Erith 8

Beca

Y gwir, y ni yw’r gora – ni yw beirdd
Clyfra’r byd barddota,
Rhwydd yw dallt ein cerddi da,
Baciwch y tîm o Beca.

Rhiannon Iwerydd 9

Cynigion Ychwanegol

O ma hon yn yfyd
Ni does neb yn fy nabod
Rhof byder lond fy “sump”
A byddaf mor ddiymhongar
A Donald J Trump. (TM)

2. Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw uned a ddefnyddir wrth fesur

Tir Mawr

Fesul modfedd fe feddwn
Yn ôl, trwy hawl, y tir hwn.

Carys Parry 9

Beca

Peint o ddΕµr geir fel cwrw
Yno’n LlΕ·n, af ar fy llw.

Rachel James 8.5

Cynigion Ychwanegol

Un na fydd yn fawr wyf i,
Ni feddaf y modfeddi.

Er cyn hired ,un wedi’i
Llethu nawr,fy llathen i

Daw ffydd, daw hirddydd, daw hedd
Enfys o un ewinfedd.

Mae rhai angen llathenni,
Digonedd yw modfedd i mi.

Y fodfedd a’r troedfeddi
Oedd yn her i’n cynnydd ni.

3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Y mae, erbyn hyn, yn hanfodol’

Tir Mawr


Gorchuddio eich gwep yng ngwydd pobol
Y mae, erbyn hyn, yn hanfodol
Yn achos Gwynoro
GΕµr hylla’ Sir Benfro
Mi ddylia fo fod yn orfodol.

Gareth Jos 8.5

Beca

Y mae, erbyn hyn, yn hanfodol
I’r beirdd i gael ffonau symudol
I ddanfon eu tasgau
Yn saff dros y gwifrau,
Ond wedyn, dyw’r marc ddim gwahanol.

Eifion Daniels 8.5

Cynigion Ychwanegol

Y mae, erbyn hyn, yn hanfodol
Glanhau dillad isa’n feunyddiol
Dim fi ! Mae fy nrhonsia’
Yn gwneud am wythnosa’
R’ôl socian am oria’ mewn Dettol

Y mae, erbyn hyn , yn hanfodol
Cael dannedd gan Gwac Proffesiynol
Mae’r set s’gen i rwan
‘Di cnoi a ‘di clecian
Yng nghegau dros ugian o bobol
Y mae, erbyn hyn, yn hanfodol
I bawb yn y teulu brenhinol
Gael profion cocên
Cyn mynd ar y trên
Gan dri beirniad llên eisteddfodol.

Y mae, erbyn hyn, yn hanfodol
Er mwyn diogelu’n dyfodol,
Cael tΕ· yn y wlad
Beth bynnag ei ‘stad;
Sdim ots am y ddafad frodorol.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Trwsio

Tir Mawr

Golau coch yn y glaw; ciw
yn lladd ei gannwyll heddiw;
yr oedi ... dagrau’n rhedeg
‘hyd ei wydr yn ara deg.

Dau frwsh a dwy ofyrôl
yn trio clytio’r heol
â llwch a lludw llachar
lle bu surni’n torri’r tàr.

Rhwng cymdogion yr Ionawr
hwn, a’r lli’n merwino’r llawr,
gwir yw hyn: ni all gro rhydd
lenwi ceudyllau’r lonydd.

Myrddin ap Dafydd 10

Beca

Ei oslef oedd nef i ni
A’i alaw’n si-hei-lwli;
Llaw Mam wrth y llyw am hir
Yn cau â’i pheiriant cywir
Y dillad llawn o dyllau,
Y brat a’r coleri brau;
Holl gur ei llafur mewn lle
Yn barod cyn y bore.

Wedi’r troi a’r troi daeth tro,
A distaw’r llaw fu’n llywio:
Y foment y mae’r plentyn
Ar goll yn ei gartre’ gwyn.


Rachel James 9.5

5. Pennill ymson mewn cyfarfod fideo ar y we

Tir Mawr


Mae Kyffin parlwr y Bòs ychydig bach yn gam;
Ar jamas y golygydd mae strempan fawr o jam;
Mud yw swyddog y wasg – ddim cweit yn dallt y clic;
Codi llaw bob eiliad, defnyddio imojis slic
Y mae’r dylunydd; mae papur wal Miss Jones yn ddu;
Rhy bell nôl mae Sandra Cyllid; golau braidd yn gry
Ar ei drwyn a’i dalcen sy’n troi Ed SgΕµp yn gΕµyr;
Be sy’n cael ei ddeud a’i benderfynu – pwy a Εµyr?

Myrddin ap Dafydd 8

Beca

Wrth drafod ein pryderon
Rwy’n gweld yr holl swyddogion,
A’r botwn llais diffoddaf i
Cyn rhegi fy nghyfeillion.

Rachel James 8

Cynigion Ychwanegol

(Aelod Cynulliad)
Mi wnes i fflim o fi fy hun
Yn edrych yn ddeallus
Yn nodio’n ddoeth bob hyn a hyn,

Dangos wyneb parchus;
A dyna sut rwyf wrth y pwll
Fan hyn a nhraed i fyny
Tra yr un pryd yn gwneud fy rhan
Mewn pwyllgor Llywodaeth Cymru.

6. Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain

Tir Mawr

Un diwrnod, mewn dychryn fe welais fy Nhaid mewn Sioe Lysiau’n cael strach
Yn dioddef dirmygedd a malais gan fod ei foronen mor fach
Bu’n mwydro yn hir ar ol hyny – d’oedd creu hylif hud ddim yn rhwydd
Ond yna fe ddaru gymysgu Tail Ieir, Agent X a Saim Gwydd
O’i sugnydd diferyn ddaeth allan. Daeth deilen i’r fei ar y ffridd
Fel pob ffarmwr da, gwerth ei halan fe dolltodd lond pwced i’r pridd
R’ôl taran, fflachiadau a gwreichion be’ gododd o’i flaen, ar fy llw,
Ond gwlyddyn fel llwyn Rhododendron o foran r’un maint â chanw
Ar drol, fe’i gosodwyd mewn gwregys a’i lapio mewn wadin sawl gwaith
A ‘Nhaid, efo llwyth go beryglus gychwynodd, dow-dow ar ei daith
R’ôl einioes o wichian a gwegian y drol ddaeth, yn ddiolchgar, i stop
Ac fe ddringodd fy Nhaid at y foran i’w llnau gyda phwced a mop
Y Beirniad oedd wedi syfrdanu, fe dwtsiodd y Fawr efo’i het
Ac oll oedd ar ôl i’w bendroni – ble’n union i roid y rosette
Be’ grwydrodd i’r fan ond cwningen a’i meddwl ar lenwi ei bol
Fe lyncodd rhyw fymryn o’r foran a thoc r’oedd hi gymaint â’r drol
Fe ddaliwyd y g’nawas am eiliad ond sbonciodd i ffwrdd yn ddi hid
I adael Pen LlΕ·n fel y lleuad yn ddiffaith a’n dylla’ i gyd
R’oedd gymaint â deinosor rwan, a’n tyfu yn fwy ac yn fwy
Yn rhuthro yn wyllt a diamcan gan chwalu pob cornel o’r plwy
Fe alwyd am ddyn mewn hofrenydd, am heddlu i warchod y ffyrdd
Ar Ferched y Wawr Bro Eifionnydd. Fe alwyd ar bawb…( ond yr Urdd)
Cornelwyd y gwnhingen a’r foran. Cyrhaeddodd y gwn saethu nwy
Ond fe neidion i’r môr ger Porth Sgadan a dyna fu diwedd y ddwy
Hyd heddiw mae hoel y gyflafan yn fodd i ni gofio yn awr
Am y dydd y bu mawr y rhai bychan a’r dydd na fu mwy y rhai mawr

Gareth Jos 9.5

Beca

Daw dydd y bydd MAWR eto BRITAIN
Yw breuddwyd sawl BRECSITȆR caeth,
Cans dwêd hyd at syrffed “ffor sΕ·ten
Byw hebddi se’n faich llawer gwaeth”.

Ma isie dôs hael o aminedd,
Mae’n destun tosturi in wir.
Ai’n ofer ath ymdrechion en cyndade
I gynnal y gore’n y tir?

Gall pobun nawr ddewish ei FAWRION,
Boed Picton neu ‘rhen Fagi Thatsh,
Ond ma’r ffin rhint hen racsyn ac arwr
In dene, a na lle ma’r catsh.

Gall rhiddid i un fod yn garchar
I gyd-ddyn gwahanol i fyd,
Ond ma’r bwa sydd fry’n y ffurfafen
I’r duon a’r gwynion ynghyd.

Bydd dydd y bydd mawr….? Pwy feddilie?
Plant bach yn trechu’r rhei mawr!
Ond yr hyn sy’n i neud e’n arswydus –
Rhaid cael feirws i’w tynnu nhw lawr.

Eifion Daniels 8.5

7. Ateb Llinell ar y pryd

Tir Mawr

Nid yw’r gost o fod ar gau’n
Uchel,o gynnal breichiau.

Huw Erith 0.5

Beca

Nid yw'r gost o fod ar gau
Yn ased i'n busnesau.

Eifion Daniels 0.5

8. Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Y Bore Bach

Tir Mawr

Y bore bach
Y trai yn llyfu’r tywod
A’r lleuad ar y lli
Y wlad yn huno’i thrwmgwsg
A charthen trosti hi.

Y rhwyd yn llonydd orwedd,
Ac wedi gwneud ei gwaith
Yn ddiwyd trwy y llanw,
Yn gweini ing a chraith

A nofwyr cryfion neithiwr
Ymysg mordan y lan,
Yn ddim ond prydau parod,
A’r dydd yn gwawrio’n wan.

Huw Erith 9

Beca
(er cof am fy modryb, arlunydd ac archeolegydd, a fu’n gweithio’n Masada yn ystod y 60au. )

Â’r wybren yn waed dros Garn Alw
gwyddwn fel plentyn fod rhywbeth o’i le.
 chaniad diniwed y ffôn, darniwyd yr awyr.

Chwalwyd dy lwybr yn llwch,
a sgubwyd f’atgofion ohonot
fel tywod yng ngwynt y SamΕ©n.

Ac i Masada yn oerfel y bore bach
dilynais dy gamau ar lethrau dy gloddio
i rannu hud dihuno’r dydd.
Yno, gwelais groeso’r wawr
a’i bysedd lliw‘r mêl fel cawod edafedd.

Ceisiais gipio i’m cof eiliadau prin o’th wên,
cyn i’w llewyrch bylu fel gwlith yng ngwres y dydd.
Er chwllio amdanat
nid oedd ond gwatwar cigfran
a golau egwan yn groeso mud.

Rhiannon Iwerydd 9.5

9. Englyn: Ystadegyn neu Ystadegau

Tir Mawr

Ar daenlen heb eu henwau – mae oriel
Y meirw ar graffiau
A’u hadrodd oer a dry’r ddau
A garem yn ffigyrau.
Carys Parry 9.5

Beca
(lies, damned lies and statistics)

Yn rhethreg ystadegau – mae ‘na rif
Mewn rhes o ffigurau
Ar y gweill yn brysur gwau
Celwydd, neu gelwydd golau.

Eifion Daniels 8.5


Cynigion Ychwanegol

Rhagfyr 2020 - y Sioni Olaf yn Siop Dafydd Povey
Un wên tros orwel inni; – un plethiad
Llai’n ein plith; un stori;
Un siwrnai’n llai dros y lli:
Dau dir a’u rhaff ar dorri.

CYFANSWM MARCIAU

Tir Mawr 72

Beca 70.5